Telynorion Dinbych Wrth Eu Boddau Wedi Cyfarfod Cyntaf Telynau Clwyd

| 08-10-2015 12:23 pm

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Telynau Clwyd ar ddydd Sul y 4ydd o Hydref yn adeilad Hwb Dinbych, gan groesawu telynorion ar draws Ogledd Cymru i’r sesiwn, ac hynny yn dilyn sesiwn blasu rhagarweiniol gynhaliwyd ym mis Gorffennaf er mwyn asesu’r galw am weithgaredd o’i fath yn ardal Ddinbych.

Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fydd a arweiniodd y côr telyn newydd a hynny dan adain Canolfan Gerdd William Mathias sydd wedi bod yn darparu gwersi cerdd yn Ninbych ers 2012 pan agorwyd ei gangen yn y dref.

Llwyddiant i Ddisgybl o Ddinbych mewn Cyngerdd yng Nghaernarfon

| 01-10-2015 9:38 am

Cynhaliwyd cyngerdd ar nos Wener y 18fed o Fedi gan Canolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon er mwyn cydnabod llwyddiannau’r Ganolfan Gerdd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Ymhlith y myfyrwyr a berfformiodd ac a dderbyniodd wobrau roedd Erin Swyn o Lannefydd sydd wedi bod yn derbyn gwersi gyda Ann Atkinson yng Nghangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias am sawl mlynedd bellach.

Gwobrwywyd Erin, disgybl yn Ysgol Glan Clwyd, gyda Chwpan a roddwyd gan Gôr Meibion Caernarfon er cof am un o’u cyn aelodau, Thomos William Jones. Derbyniodd y gwpan am iddi gael y marciau uchaf ymhlith disgyblion y Ganolfan Gerdd mewn arholiad ymarferol gradd 1 i 5 gan lwyddo i ennill 142 marc allan o 150 yn ei arholiad canu gradd 3 yn ddiweddar.

Camau Cerdd yn Dod i Ddinbych

| 25-09-2015 7:33 am

Bydd y prosiect cerdd arloesol Camau Cerdd yn dod i Ddinbych am y tro cyntaf yn fuan iawn.

Mae’r prosiect sydd eisoes wedi bod yn rhedeg yng Ngwynedd am nifer o flynyddoedd yn cael ei redeg gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth gydag un o diwtoriaid y Ganolfan, Marie-Claire Howorth.

Tiwtor y prosiect yn Ninbych fydd Charlotte Amy Green sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Marie-Claire am sawl mlynedd ac sydd hefyd yn cynnal sesiynau yn Llanfairpwll a Phenygroes.

 

Grŵp Telyn Newydd: ‘Telynau Clwyd’ i ffurfio yn Ninbych.

| 05-08-2015 3:00 pm

Cynhaliodd cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias ddiwrnod agored ym mis Gorffennaf 2015. Un o’r gweithgareddau a gynhaliwyd ar y diwrnod oedd grŵp telyn er mwyn asesu’r diddordeb mewn ffurfio grŵp telynau a fyddai’n cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.

Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fu’n arwain y grŵp, ac fe gafwyd ymateb da iawn i’r syniad o ffurfio grŵp telyn a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd.

Grŵp Telyn Newydd: ‘Telynau Clwyd’ i ffurfio yn Ninbych.

| 05-08-2015 3:00 pm

Cynhaliodd cangen Dinbych Canolfan Gerdd William Mathias ddiwrnod agored ym mis Gorffennaf 2015. Un o’r gweithgareddau a gynhaliwyd ar y diwrnod oedd grŵp telyn er mwyn asesu’r diddordeb mewn ffurfio grŵp telynau a fyddai’n cyfarfod ar sail reolaidd yn yr ardal.

Y telynorion adnabyddus Morwen Blythin a Dylan Cernyw fu’n arwain y grŵp, ac fe gafwyd ymateb da iawn i’r syniad o ffurfio grŵp telyn a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd.

Llwyddiant i Ddiwrnod 'Taro Traw' Canolfan Gerdd William Mathias Dinbych

| 19-07-2015 9:34 am

Cynhaliwyd diwrnod agored ‘Taro Traw’ llwyddiannus gan Ganolfan Gerdd William Mathias ar y 12 o Orffennaf yn ei changen yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn darparu hyfforddiant cerdd o’r safon uchaf i bobl o bob oed yn ei phrif Ganolfan yn Galeri  Caernarfon am fwy na deng mlynedd bellach, ac ers 2012, mae wedi bod yn cynnig gwersi cerdd yn ei changen yn Ninbych ynghyd â gweithgareddau eraill yn y gymuned. 

Cafwyd cychwyn gwych i’r diwrnod gyda gweithdy telyn gan Dylan Cernyw a Morwen Blythin. Daeth telynorion o bob oed i’r gweithdy gan gael cyfle i gyd chwarae mewn awyrgylch hwyliog. 

Taro Traw i Ganolfan Gerdd William Mathias Dinbych!

| 19-06-2015 5:59 pm

Bydd Canolfan Gerdd William Mathias yn Ninbych yn agor ei drysau i bawb ar gyfer diwrnod o weithgareddau cerdd ar y 12 Gorffennaf 2015. Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdy telyn gyda Dylan Cernyw a Morwen Blythin, Camau Cerdd sef prosiect y Ganolfan i blant rhwng 6 mis a 7 mlwydd oed, cyngerdd Llwyfan Cerdd gan ddisgyblion y Ganolfan, a gwersi blasu am ddim.

Gitarydd Clasurol Byd-Enwog Gary Ryan Yn Taro Cord Ar Gyfer Digwyddiad Unigryw Yn Galeri

| 14-05-2015 1:47 pm

Gitarau@Galeri – 22-24 Mai 2015

Bydd yr unawdydd gitâr enwog Gary Ryan yn ymuno â thîm o gitarwyr profiadol i hyfforddi a pherfformio yn nigwyddiad Gitarau@Galeri y mis hwn yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Gerdd William Mathias unwaith eto yn cynnal digwyddiad hyfforddi cerddorol yn Galeri, y gofod celfyddydol a pherfformio yng nghalon y dref hanesyddol. 

CGWM

Elusen addysgiadol yw Canolfan Gerdd William Mathias sydd â nod o hyrwyddo talent gerddorol. Ers bymtheng mlynedd, mae’r Ganolfan wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ddysgu cerddoriaeth, ac mae’n ganolfan cydnabyddedig ar gyfer cerddoriaeth ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r Ganolfan yn darparu hyfforddiant gerddorol yn ei ganolfannau yng Nghaernarfon a Dinbych. Darperir gwersi rheolaidd mewn ystod eang o offerynnau yn ogystal â dosbarthiadau meistr gan gerddorion enwog, cyngherddau, gweithdai, gwyliau a chyrsiau ar amrywiaeth eang o feysydd cerddorol.

Trydarwyr

Damo! Mae'n edrych fel nad wyt ti yn ein cronfa ddata!

Dydi Ffrwti ddim wedi dod o hyd i wybodaeth amdanat ti. write us and we will add you in the system.