Pobl y Pethe

| 06-10-2014 1:09 pm

My mlog cyntaf erioed, sy’n eglurhad am fy neges ar Twitter a Facebook, ac sy'n gysylltiedig â blog Ifan Morgan Jones 

 “Angen chwalu'r term'geto dos'canol cymraeg/cymreig'.Dyw e ddim yn bodoli,mae'n creu rhwygiade+yn hynod niweidiol i genedl fach ‪#rantdrosto” 

“Gradd da yn y Gymraeg

Ar y Volvo bathodyn Tafod y Ddraig

……Wastod yn mynd i Lydaw

Byth yn mynd i Ffrainc,

Wastod yn mynd i Wlad y Basg

Byth yn mynd i Sbaen.”

Mae Gradd Da yn y Gymraeg – clasur o gân gan Datblygu, wastad yn gwneud i fi wenu, yn benna’ achos mod i’n cofio dawnsio droeon iddi yn fy Noc Martens gyda photel o Holsten Pils yng Nghlwb Ifor yn y nawdegau. O ddarllen y geiriau eto, hyd y gwela i, roedd Dave Datblygu’n cyfeirio tipyn at bobl oedd â digonedd o bres yn eu pocedi, sef, mae’n bur debyg, “Y Dosbarth Canol Cymraeg “ (Ac mae croeso iddo fy nghywiro i, os ydw i’n anghywir )

Rhyw flwyddyn yn ôl, cefais fy ngalw’n “rhy ddosbarth canol Cymraeg” yn gyhoeddus. A waeth i fi gyfadde’, roedd hynny’n brifo. Roedd y cwt eitha dwfn, ac mae’r plastar dal yna

Mi ges i fagwraeth hapus iawn. Roedd Dad yn was fferm (yn y dyddie pan roedd y term hwnnw’n dderbyniol) a chefais fy magu mewn tŷ oedd yn dod gyda’i swydd. Pan gollodd Dad y swydd honno, fe symudon ni i 'stad tai cyngor. Ac roedd yna rai yn edrych i lawr eu trwynau arnai, gwaetha’r modd. Fi oedd y cyntaf o’ nheulu agosaf i fynd i “College” chwedl Nain. A rhyddhâd o’r mwyaf oedd darganfod y byddwn yn cael grant llawn i fynd i Gaerdydd. Cymraeg oedd fy mhwnc am mai dyna oedd fy mhwnc cryfa’. Cafodd Mam CSE yn ei Chymraeg. Nid  oherwydd ei bod hi wedi ei geni â llwy arian yn ei cheg, ond oherwydd ei bod hi’n medru treiglo a bod gramadeg y Gymraeg yn gwbwl naturiol i’w chlust, fel nifer fawr o bobl eraill sydd wedi eu magu yng nghymunedau gwledig Gogledd Ceredigion.

Wrth i’r Gymraeg esblygu, mae’r term “Dosbarth Canol Cymraeg“ yma wedi newid dros y degawdau. Ac mae e bellach, hyd y gwela i, nid yn unig yn cyfeirio at ddosbarth digon cefnog mewn cymdeithas, ond hefyd yn cynnwys pobl sy’ â gafael cadarn ar eu Cymraeg, pobl sy’n medru treiglo! A’r jôc ydy, dim ond pobl sy’n ymddiddori yn y diwylliant Cymraeg sy’n arddel y term. Mae gen i ffrindiau ar Facebook o amrywiol gefndiroedd, sydd a gwahanol ddiddordebau. Dyw’r mwyafrif ohonyn nhw ddim wedi ymateb i fy rant ar Twitter a Facebook . Pam ? Dydw i ddim yn credu fod gan nifer ohonyn nhw syniad am be dwi’n sôn.

Mae ‘mhwyse’ gwaed i yn mynd trwy’r to pan glywai neu ddarllenai rhywun yn dweud “Chi bobl ddosbarth canol Cymraeg a’ch iaith bur, sy’n mynd i ladd yr iaith !! Mae e’n gyhuddiad difrifol iawn , a phe bai’n cyfeirio at berson yn hytrach na iaith, mae’n bur debyg y byddai’n enllibus. Mae e’n rhyw derm bach digon hip a threndi erbyn hyn (treiglad yn fwriadol )

Oes, mae yna garfan fach iawn sy’n cywirio iaith bobl, ond yn sicr nid dyma’r garfan sy’n rhwystro pobl rhag siarad Cymraeg, ac yn codi gymaint o ofn arnyn nhw fel eu bod yn troi at y Saesneg. ‘Dw i ‘rioed wedi clywed y fath nonsens.

Bron y dywedai bod pobl sy’n siarad yn raenus yn destun gwawd bellach. A dwi’n poeni weithiau a ddaw rhywun i’r drws i’n arestio am feiddio cywirio cam-dreigladau’r meibion (a’r gŵr!) adeg swper, gan y gall hynny ddryllio eu hunan hyder, mae’n debyg.

Mae un broblem sylfaenol fan hyn. Mae’r cyfryngau a’r Wasg Gymraeg a sefydliadau diwylliannol Cymraeg yn ceisio denu mwy o gynulleidfa oherwydd digon llwm yw eu hystadegau. Ac wrth i’r esgid wasgu, mae mwy a mwy o bwysau arnyn nhw i wella’u perfformiad yn y maes hwnnw.

Ond cofier, bod yna siaradwyr Cymraeg allan yna, sy’ byth yn gwrando ar Radio Cymru, byth yn gwylio S4C , byth yn darllen Golwg a byth yn mynd i’r Eisteddfod. Ond mae’n nhw’n dal i siarad Cymraeg bob dydd. Mae gen i berthnasau sy’ rioed wedi bod yn Sesiwn Fawr, ond sydd wrth eu boddau yn mynd i weld Freddie Starr yn Venue Llandudno. A be’ sydd o’i le â hynny ? Dim o gwbwl!

Ond am ryw reswm, mae yna ryw grêd wedi datblygu bod pobl ofn gwrando a gwylio a mynychu pethau Cymraeg oherwydd fod y puryddion yn codi ofn arnyn nhw. Y gwrionedd plaen amdani ydy, dyden nhw ddim yn gwylio/gwrando/ mynychu am nad yden nhw mo’yn. Mae’n nhw’n ffafrio’r diwylliant Saesnig ac Americanaidd. A ‘dw i  ddim yn mynd i’w gorfodi nhw i ail ystyried, oherwydd wedi’r cyfan, mae’n nhw’n dal i siarad Cymraeg, a dyna sydd bwysica'.  

Mae yna erthyglau, a rhaglenni Cymraeg fyddai o ddiddordeb iddyn nhw, dwi’n gwybod hynny. Ond yn anffodus dyden nhw ddim yn gwybod am eu bodolaeth am nad yden nhw’n croesi trothwy’r drws diwylliannol Cymraeg. A gwendid mawr y cyfryngau Cymaeg ydy eu hanallu i draws hyrwyddo eu cynnyrch. Pe bai chwip o raglen Gymraeg dda yn cael ei hysbysebu yng nghanol yr X Factor, ar Radio 1 , neu yn y Sun, mae’n bur debyg y byddai mwy yn ei gwylio. Dwi’n ymwybodol nad ydy hynny’n gwbwl ymarferol, ond yn sicr, mae angen edrych ar ffyrdd o draws hyrwyddo yn ehangach nag sy’n digwydd ar hyn o bryd

Dim ond trwy un weithred mae modd lladd iaith, sef gwrthod ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. A dwli pur yw beio’r trueiniaid yma sy’n honedig yn y “Dosbarth Canol Cymraeg ‘’ am y fath drosedd.

Dwi’n credu fod “Pobl y Pethe” yn derm agosach ati, wrth ddisgrifio’r garfan hon. Pwy yden nhw felly? Pobl sy’n cyfrannu’n helaeth i’w cymunedau bob wythnos o’r flwyddyn, nid ar ddechrau mis Awst ac wrth gludo telyn i’r Wyl Cerdd Dant yn unig. Mae’r bobl yma’n trefnu digwyddiadau Cymraeg yn ein cymunedau yn gwbwl wirfoddol. Mae’n nhw’n sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw yn ein hardaloedd. Ac mae eu sarhau, eu cyhuddo a’u gwawdio yn gywilyddus.

Ond yr eironi ydy, nid pobl y pethe, yn fy marn i ydy cynulleidfa ffyddlona’r cyfryngau Cymraeg, ond pobl wledig, sy’n mwynhau Noson Lawen, Pobol y Cwm, Cefn Gwlad a Ffermio. Mae’r rhain yn mynd i’r Sioe Frenhinol yn flynyddol, yn ddi-ffael, ac mae rhyw awydd yn codi arnyn nhw i fynd i’r Eisteddfod pan y bydd hi’n ddigon agos.

Ar y llaw arall, mae yna bobl yn siarad Cymraeg mewn nosweithiau Bingo sy’ byth yn dadansoddi ffigyrau’r cyfrifiad na pham eu bod nhw’n siarad Cymraeg, mae e jyst un digwydd yn gwbwl naturiol. And they wouldn’t be seen dead ar faes yr Eisteddfod. A diolch i’r nefoedd eu bod nhw’n bodoli hefyd.

Oherwydd pam na ddylie’r Gymru Gymraeg fod yr un peth ag unrhyw genedl a iaith arall ? Wedi’r cyfan, mae yna bobl yn Lloegr sy’n mwynhau hwylio mewn regattas yng Nghernyw, eraill yn mynd i'r opera, tra bo’ rhai yn joio peint wrth chwarae dartiau, neu'n mwynhau Sinitta. Ac mae’n nhw i gyd yn siarad Saesneg.

Ond mae yna un gwahaniaeth sylfaenol, rhyngddyn nhw â ni. Mae’n hannwyl, annwyl iaith ni mewn bach o strach ar hyn o bryd. Ac mae’r oes gyfryngol gymdeithasol hon trwy Twitter yn bennaf, a Facebook i raddau llai, yn amlygu’n gwendidau fel cenedl. Rydym ni wrth ein boddau yn ceisio beio rhyw garfan neu’i gilydd am sefyllfa’r iaith, yn mwynhau cecru a bigitan ymysg ein gilydd. Allwn ni wir ddim fforddio gwneud hynny.

Wrth gwrs, fe ddyliem ddadlau am bynciau’r dydd ac mae gwahaniaeth barn yn holl bwysig. Ond mae cyhuddo bobl o ladd iaith, a gwawdio’n gilydd mor niweidiol. A ‘dw i’n teimlo erbyn hyn fod y term “Dosbarth Canol Cymraeg” mor afiach â “Welshing.”

Ac os wnaiff yr Iaith Gymraeg farw, nid un carfan fydd wedi ei lladd hi, nid un parti cerdd dant gyda 12 o fwclusau mawr, ond côr cyfan gyda llawer mwy na phedwar llais. Er mwyn i’n heniaith barhau, mae angen callio a chyd-dynnu, a bydded iddi barhau ymhlith y rhai sy’n mwynhau trochi mewn treigladau a’r rhai sy’n meddwl bod treiglo’n twp (cam-dreiglad yn fwriadol ;-) 

Ymatebion

| 07-10-2014 1:04 pm | #1

Croeso i Ffrwti Iola! Diolch am ddefnyddio fan hyn i barhau'r drafodaeth.

- Rhodri

| 08-10-2014 4:42 pm | #2

O bydded i'r heniaith barhau! Spot on Iola! Hoffwn i ddarllen mwy o'ch syniadau yn y dyfodol.

| 10-10-2014 8:33 am | #3

Ardderchog. Angen dweud hyn- diolch o galon.

| 10-10-2014 9:52 am | #4

Diolch am ymateb Jon a Richard. Yn ddiddorol, does yna'r un person sy'n hoff o ddweud "Nhw sy'n lladd yr iaith!" (ac mae llawer ohonyn nhw) wedi ateb yn ôl eto i gyflwyno'u hachos . Credu ei bod hi'n bwysig clywed y farn honno, er mwyn ceisio'u dadansoddi ymhellach :-)

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa