Wrth fynd hefo Bethan Gwanas i Dywyn…ffaldiraldiraldiraldi…!

| 05-03-2014 2:30 pm

Diolch i Bethan Gwanas (@BethanGwanas) am gael defnyddio'r erthygl hon. Dyma hi'n son am ei phrofiad yn paratoi i fod yn Diwtor Cymraeg i Oedolion yn ardal Meirionydd...

Mae Bethan Gwanas yn mentro'n ôl i'r byd addysg, ac hynny i addysgu Cymraeg i Oedolion. Dyma ddarn ysgrifennodd hi i'r Herald wythnos diwethaf, yn sôn am sut oedd hi'n paratoi ar gyfer y dasg o'i blaen...

Mae’r ty yma’n flerach na fuodd o erioed. Pan rydach chi’n cerdded i mewn i’r stafell gynta, rydach chi’n wynebu mynydd o fagiau a bocsys a chês llawn teganau, llyfrau plant, gwerslyfrau, taflenni wedi eu llungopio, ffeiliau ac offer dysgu. Does gen i ddim lle i’w cadw ar wahân i’r llawr, ynghanol yr hwfyr, bocs o stwff sy’n disgwyl ers misoedd am jymbl sêl a lluniau a fframiau sy’n sefyll fel sowldiars yn erbyn y wal am nad oes gen i le iddyn nhw ar y waliau. Mi ddywedodd cyfaill dro yn ôl bod y tŷ yn dechrau ymdebygu i dai un o’r bobl ’na sydd ar y teledu am fod ganddyn nhw broblem: yr ‘hoarders’ truenus sy’n gadael i ‘stwff’ cwbl ddi-angen lenwi eu tai i’r fath raddau, does dim lle i droi. Ond dydi’r stwff yma ddim yn ddi-angen! Ac mae’n newydd. Wel, newydd i mi.

Dach chi’n gweld, yn sgîl yr hinsawdd economaidd, a’r ffaith mod i’n treulio hanner fy amser yn gwneud gwaith di-dâl ( pwyllgor hwn, pwyllgor llall, llywodraethwyr ysgol, rhaglen Sioe Rhydymain ac ati ac ati) a’r hanner arall yn gwneud gwaith sydd ddim yn talu llawer ( sgwennu llyfrau plant yn yr iaith Gymraeg, a nofel ar gyfer oedolion yn hurt o araf – ond fy mai i ydi hynny...), ro’n i angen chwilio am swydd arall. Felly dwi wedi bod ar gwrs hyfforddi (mwy i ddod), wedi cael cyfweliadau, ac wedi treulio oriau yn llenwi ffurflenni.

A ddydd Llun nesa, mi fydda i’n dechrau o ddifri fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion. 

Nerfus? Dydi planciau ddim ynddi. Mae’r wers gynta amser cinio dydd Llun, yn Nhywyn. Prinder tiwtoriaid yn fan’no am ryw reswm. Y gobaith ydi dysgu rhieni a’u plant ifanc am awr a hanner. Roedden ni wedi rhoi cynnig arni ddiwedd Ionawr ac er i mi eistedd yno’n ufudd am amser maith, weles i’r un dyn byw, heb sôn am fabis.

Mi ddigwyddodd yr un peth yn y Bermo – prinder tiwtoriaid yn fan’no hefyd. Syprais, syprais... Ond chwarae teg, mi ddoth un nain o Ogledd Iwerddon at y pnawn; coblyn o gês oedd wedi edrych ymlaen at gael dysgu iaith newydd yn ei gwlad newydd, “But nobody speaks Welsh in Fairbourne...” Hm. Mymryn o ddiffyg ymchwil yn fan’na, beryg. Mi gafodd hi ymarfer ei dywediadau defnyddiol Cymraeg (“O, yli del!” “O, bechod...” “Ti’n swnllyd heddiw, cariad!”) efo’r tedi rois i yn ei glin hi, ac roedd hi’n dda iawn. Mae hi am ddod i’r ail gynnig yn y Bermo, bnawn Gwener, a dwi’n croesi mysedd y cawn ni rywfaint o famau a/neu dadau a’u plantos yn fan’no a Thywyn. Neu mi fydda i wedi prynu’r holl deganau a llyfrau o siopau elusen yn ofer.

Mynd i weld Catrin, sydd â dosbarth hyfryd, rheolaidd o famau a’u babis yn Nolgellau wnes i, ac roedd hi wedi fy nghynghori i brynu pethau felly yn ail law, yn hytrach na mynd â fy llyfrau a fy nheganau fy hun, os oedd gen i unrhyw feddwl o’r  rheiny (oes, dyna pam dwi wedi eu cadw). Felly ges i fodd i fyw yn tyrchu drwy siopau elusen yndo, a phrynu tomen o ddolis a thractors acati – a syrthio mewn cariad efo’r labrador tegan delia rioed. Os gaiff hwnnw ddiod piws neu fysedd bach llawn nutella drosto i gyd, mi fydda i isio crio. Prin oedd y llyfrau Cymraeg ail-law, ond diolch i deulu a hen stoc y Llyfrgell ( a selotêp), mae gen i stoc reit dda ohonyn nhw rwan.

Mae rhai tiwtoriaid yn prynu teclyn lamineiddio hefyd, ar gyfer creu gemau geiriau ac ati – ond dwi’m yn prynu dim byd arall nes cai gwsmeriaid! Nid bod gen i le i declyn lamineiddio... dwi angen cabinet(au) ffeilio i gadw’r holl daflenni a ffeiliau yn gynta.

Mae gen i wers arall bnawn Llun hefyd – efo athrawon Ysgol Tywyn, a dwi’n gwybod y bydd gen i gwsmeriaid yn fan’no: 5 ohonyn nhw. Rheiny sy’n fy ngwneud i’n nerfus. Dysgu athrawon?! Aaaaa!

Do, dwi wedi bod ar gwrs hynod ddifyr a hwyliog ym Mhlas Tanybwlch, lle ges i lwyth o syniadau i wneud dysgu Cymraeg yn hwyl a llawn amrywiaeth, ond dwi methu cofio lle rois i’r nodiadau ynghanol yr holl stwffiach ’ma. Dwi wedi cael hanner tunnell o gardiau fflach gan Goleg Meirion-Dwyfor a dau ddeis mawr melyn, a hyd yma, efo wythnos i fynd, dwi eto i weithio allan be dwi’n mynd i’w wneud efo nhw.

“We don’t procrastinate because we’re busy. We procrastinate because we’re scared” meddai rhyw arbenigwr. Ac mae o yn llygad ei le. Bydd raid i mi roi’r gorau i jest rhythu ar y deis mawr melyn a phenderfynu pa eiriau neu luniau dwi’n mynd i’w rhoi arnyn nhw, a pham.

O, a dwi angen prynu ‘baby wipes’ hefyd mae’n debyg ( nid ar gyfer y wers efo’r athrawon), a beryg y byddai stoc o paracetamols yn handi ( i mi). Hefyd, a hyn sy’n fy mhoeni go iawn, dwi’n mynd i orfod canu. Pethau fel ‘Pnawn da, sut wyt ti’ i diwn ‘Brown Girl in the ring’ a ‘Mr Hapus ydw i, ydw i, ha ha ha’ i diwn ‘If you’re happy and you know it.’

Ia, fi. Yn canu. Rwan dach chi’n dallt y cyfeiriad at blanciau? Nid Nia Parry mohonof. Mi wnes i ganu efo’r nain o Fairbourne, ond alto oedd hitha hefyd, sy’n help mawr. Os fydd rhain isio i mi bitsho’n uwch, gai haint.

Iawn, dwi’n mynd i fynd dros fy nghynlluniau gwersi am yr ugeinfed tro rwan, unwaith ddoi o hyd iddyn nhw, a byddwch, mi fyddwch chi’n gorfod diodde mwy o hanesion fy ngyrfa newydd fel Tiwtor Cymraeg dros yr wythnosau nesa. Y da a’r drwg.

Mi fues i’n sgwennu colofn ‘Dyddiadur Athrawes Despret’ i Golwg am flynyddoedd pan ro’n i’n athrawes Ffrangeg yn y nawdegau. Ia, fi oedd honno; ro’n i’n cael bod yn ddi-enw yn y dyddiau hynny. Wnes i rioed feddwl y byddwn i’n troedio tiroedd tebyg eto.

Gweddiwch drosta i.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa