Gwenno | Golau Arall

| 18-02-2014 8:30 am

Dyma Nico Dafydd yn creu fy nghofnod cyntaf ar Ffrwti. Dwi hefyd yn ysgrifennu ar flogiau amrywiol. Dyma adolygiad o sengl ddiweddaraf Gwenno ar flog cerddoriaeth Isosgeles.

O’r sampl gitar a’r ddechrau Golau Arall i’r bassline ailadroddus, mae sengl newydd Gwenno yn cynnig darlun tywyllach na chân y flwyddyn i fi y llynedd, Chwyldro. Nid yw’n cario’r un elfen anthemol a’r sengl flaenorol ac mae’r gytgan yn fwy o bont rhwng y pennillion undonog a’r bass yn clymu’r cyfan at ei gilydd.

Rhwng dau begwn gwrthgyferbyniol y mae Gwenno yn byw. Mae elfennau amlwg o’i cherddoriaeth yn tynnu ar ddylanwadau pop, a gaiff ei weld fel ffatri wrth-ffeministaidd yn aml, ond mae dyheuadau gwleidyddol Gwenno i’r gwrthwyneb. Mae’r oxymoron yma’n rhoi haenen unigryw i’w gwaith.

Ceir teimlad cryf gyda’r sengl yma fod Gwenno yn adeiladu’r fframwaith y bydd ei halbwm hirddisgwyliedig yn byw ynddo. Mae creu’r cyd-destun yn hanfodol, ac mae’r sengl yma’n bwyth pwysig arall yn y tapestri cymhleth. Wrth dynnu ar synnau nostalgic, cyfarwydd bron, mae Gwenno yn gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach ond gyda rhywbeth mwy o lawer i’w ddweud na fyddai’n ddisgwyliedig o’r synths, y beats a’r llais melfed. Mae Golau Arall yn gân sy’n tynnu ar synhwyrau ac yn creu darlun cymaint ag y mae’n cario alaw gryf.

(Cafodd y cofnod ei bostio yn wreiddiol yma: http://isosgeles.tumblr.com/post/76520958907/gwenno-golau-arall-2014)

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa