Be sy'n trendio? Haciaith, pop, Panty a gemau rygbi
Rhodri ap Rhian
|
16-02-2014 4:50 pm
Roedd yna bum peth yn trendio ddoe ar Twitter yn Gymraeg, dwi'n credu bod nhw'n eithaf arwyddocaol o fwrlwm (HELO BWRLWMWATCH) sylweddol yn niwylliant Cymraeg ar hyn o bryd.
Pump trend uchaf y Gymraeg ar Twitter ddoe yn ôl Ffrwti oedd:
#haciaith
#gwobraurselar
#fidigramcon
#rygbis4c
#achubpanty
Be ma hyn yn ddeud am weithgarwch diwylliannol Cymraeg? Mae'n edrych fel bod sîn gerddoriaeth, technoleg, chwaraeon, ac ymgyrchu Cymraeg yn fywiog iawn. Neu ai dim ond hap a damwain yw'r prysurdeb a bod nhw gyd ar un penwythnos oherwydd hwn oedd un o'r unig benwythnosau yn Ionawr a Chwefror lle doedd na ddim gêm rygbi ryngwladol.
Beth bynnag ydi'r rheswm mae'n dda bod Ffrwti wedi gwneud ei job a pigo fyny'r pethau mawr oedd yn digwydd ddoe, a bod Twitter yn teimlo'n fyw iawn o ran defnydd y Gymraeg. Mae'n dda gweld trafod am yr amrywiaeth yma o ddiddordebau sy'n digwydd ar yr un penwythnos. Yr her ydi i dyfu hwn a thrio cael pobl i drafod popeth yn Gymraeg, nid dim ond iaith a diwylliant.
Ymateb
Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.