Barn ar drydar Barn

| 04-06-2014 11:53 am

Nes i drydar hwn yn hwyr neithiwr felly meddwl sa'n werth ei ail-gyhoeddi er mwyn gwled beth oedd pobl eraill yn feddwl? 


Chwilio o'n i am ddeunydd i'w rannu a'i hyrwyddo ar Ffrwti, ond sylweddoli bod Barn bron yn gwbl anweledig arlein. 

Yda chi'n cytuno bod cyhoeddwyr Cymru'n methu cyfleoedd arlein?

Oes gan bob cyfrwng Cymraeg ddyletswydd i roi cynnwys arlein os ydyn nhw'n derbyn arian cyhoeddus? 

Pa mor annodd yw cadw'r balans rhwng denu tanysgrifwyr, denu cynulleidfa, ac annog trafodaeth?

Dwi'n meddwl bod angen tafodaeth am y pwnc. Sa'n dda clywed eich sylwadau.

Ymatebion

| 04-06-2014 4:03 pm | #1

Rwy'n credu i mi son yn Hacio'r Iaith fy mod i wedi holi Barn ynglyn a'r posibilrwydd o gyhoeddi rhagor o'u deunydd ar-lein yn y gorffennol. Doedden nhw ddim i weld yn siwr sut i fynd o'i chwmpas ac roedd yna ychydig o wahaniaeth barn ynglyn a phwysigrwydd cyhoeddi deunydd ar-lein a sut y byddai hynny yn effeithio ar eu cylchgrawn print. Fy awgrym i ar y pryd oedd eu bod nhw'n rhoi deunydd i Golwg i'w gyhoeddi ar-lein ac yn cael hysbysebion am ddim am wneud hynny. Roedden nhw i weld yn awyddus ond ni ddaeth unrhyw beth ohono (roedd hyn ar ol i fi symud o Golwg i Brifysgol Bangor felly dydw i ddim yn gwybod pam).

Mewn achosion fel hyn efallai ei fod yn fater nad ydyn nhw ddim yn ddigon hyddysg mewn materion yn ymwneud â twitter a chyhoeddi ar-lein. Bosib mai mater o allu a gwybod yn hytrach na dyletswydd ydyw, neu hyd yn oed amser ac arian. Rwy'n cofio pan o'n i'n olygydd Golwg 360 roedd pobl yn aml yn galw i ni wneud hyn a'r llall, ond y gwir oedd yn aml ein bod ni'n ymwybodol y byddai yn beth gwych ond nad oedd gennym ni'r amser na'r arian i'w gwneud.

| 04-06-2014 5:46 pm | #2

Mae Twitter a rhwydweithiau cymdeithasol fel y gallu i gamu i ben mynydd a gweiddi neges oddi arno i'r pobl sydd a diddordeb sy'n digwydd bod yno yr un pryd. Mewn byd busnes, diogrwydd fuasa peidio mynd i ben y mynydd i weiddio dy neges boed hynny yn y Gymraeg neu Swahili. Dwi'n tueddu i ddad-dilyn cyfrifau sy'n a) dweud gormod b) ddim yn dweud dim!

Y neges- Os oes gen ti rhywbeth i ddeud, gwell gweiddi fo o ben mynydd... neu rhannu fo arlein.

| 06-06-2014 2:51 pm | #3

Dwi'n deall bod pob cyhoeddwr yn gorfod ymrafael gyda chael cydbwysedd rhwng gwerthiant a chynnwys blasu arlein, ond dydi Barn ddim yn gyhoeddiad pur fasnachol, a fy mhwynt sylfaenol i oedd nad oedden nhw hyd yn oed yn hyrwyddo'r cyhoeddiad print drwy Twitter. Mae hyn yn rhyfeddol i fi gan eu bod yn anwybyddu cyfrwng lle mae trafodaeth ddeallusol am Gymru a'r Gymraeg yn digwydd bob dydd ac lle mae modd cael mynediad at gynulleidfa newydd yn ogystal â chadw perthynas â'u darllenwyr presennol.

Mi ellid dadlau hefyd taw Barn yw'r prif ofod print lle mae trafodaeth ddeallusol am rychwant o faterion cyfoes yn y Gymraeg yn digwydd. Ar hyn o bryd mae'r drafodaeth yna sydd wedi ei noddi gan arian cyhoeddus wedi ei gloi i ffwrdd ac yn teimlo'n fud oherwydd diffygion y wefan a'r . Drwy roi llwyfan i farn, mae'n ddyletswydd rhoi lle i ymateb hefyd, a dyw colofn lythyrau ddim yn ddigon da mewn oes lle mae'n aml yn bwysig cael ymateb yn sydyn er mwyn gallu cael effaith neu rôl yn y drafodaeth gyhoeddus. Y peryg drwy ymwrthod a'r cysyniad o wneud rhan o'u deunydd ar gael arlein yw bod Barn fel cylchgrawn yn mynd yn gynyddol amherthnasol tra bod y drafodaeth ar wefan IWA a blogiau amrywiol yn cymryd yr holl dir, a hynny drwy'r iaith Saesneg yn bennaf.

Os nad ydi Barn yn hyddysg mewn Twitter a chyhoeddi arlein yna dwi'n meddwl bod angen iddyn nhw edrych yn agos iawn ar beth mae'r holl gylchgronau barn a materion cyfoes yn eu gwneud a phenderfynu wedyn a ydyn nhw'n gallu cario mlaen i anwybyddu cyfryngau cymdeithasol a'u gwefan fel a) arfau marchnata a b) lleoliadau ar gyfer annog trafodaeth gyhoeddus dan brand Barn. Dydi Twitter ddim yn annodd ei wneud felly dwi ddim yn derbyn bod diffyg sgiliau yn ddadl ddilys bellach. Mae dadl o ran amser ac arian yn ddilys, ond mae ffyrdd o awtomeiddio sydd yn lleihau'r faich hwnnw erbyn hyn hefyd ac mae'r buddsoddiad amser bychan am gael ai chwyddo dwywaith dair gair gan bod na gymuned Gymraeg ar Twitter a llwyfannau eraill sydd *eisiau* hyrwyddo Barn. Dyna pam es i chwilio am Barn ar Twitter yn y lle cynta - er mwyn gallu eu hyrwyddo nhw.

Dwi ddim yn iwtopydd gwe neoryddfrydol sydd eisiau pob gwybodaeth fod am ddim ar y we a uffar o ots am bopeth arall, ond mi ydw i eisiau cynyddu pob cyfle posibl i wella faint o gynnwys sydd arlein a'r gofodau arlein lle mae modd defnyddio a darganfod y Gymraeg. Yn hynny o beth dwi'n meddwl bod sefyllfa Barn yn niweidiol i'r iaith arlein, a ma hynny'n drist iawn.

| 06-06-2014 9:51 pm | #4

Dwi'n danysgrifiwr drwy'r post gyda'r cylchgrawn ac yn meddwl bod o'n gylchgrawn ardderchog, ond dw i hefyd yn rhywstredig nad yw'n cael ei hyrwyddo'n iawn - daw diwrnod pan na fydd £10+ o gymorthdal y copi yn gynaliadwy. Ers tro rwan mae detholiad o rhyw 3/4 erthygl y mis wedi bod ar gael ar-lein a dylai cyfrif Twitter y cylchgrawn fod yn lincio at bob un yn unigol yn eu tro.

Beth oedd yn rhyfedd oedd mai'r unig le o'n i'n gweld hysbyseb ar gyfer gwefan y cylchgrawn oedd yn y cylchgrawn ei hun! Byddai hynny'n iawn petai rhyw gynnwys uchwanegol neu wahanol arno. Petai modd gwasgu rhywfaint mwy o gyllid o rhywle, falle dylid cynnig mwy ar-lein fel abwyd i bobl fynd yno ac wrth gwrs rhoi dolen ar Twitter/FB.

Ond, rwan mae'r cylchgrawn ar gael fel ap (sy'n beth da wrth gwrs), does dim un erthygl yn ei chyfanrwydd ar y wefan bellach, hyd yn oed hen rai a oedd arfer bod - gan bod neges Golwg360aidd, "Darllenwch yr erthygl i gyd ar ap Cylchgronau Cymru".

Baswn i'n cynnwys 3/4 erthygl misol yn eu cyfanrwydd, a chynnwys pob un arall ar eu hanner, fel bod 1) syniad i bawb o beth drafodir a 2) er mwyn i bobl allu lincio'n uniongyrchol atynt i rannu ar Twitter/FB ayyb + i annog pobl i adael sylwadau a thrafod.

Dangosodd gwefan www.adolygiad.com cymaint mae siaradwyr Cymraeg yn hoffi trafod bwyd, felly petai modd, dw i'n siwr byddai ychwanegu'r adolygiadau bwytai/caffir misol I GYD ar lein (+ rhai eraill byddai pobl yn eu cynnig am ddim) yn ffordd dda o ddenu mwy o ddarllenwyr/darllenwyr gwanahol.
Yn yr un modd dychmygaf nad yw pobl sy'n sgwennu'r ysgrifau coffa yn derbyn ffi (cywriwch fi os ydynt) gan mai cyfeillion i'r ymadawedig ydynt fel arfer. Pam ddim cynnwys y rhain I GYD arlein hefyd - mae pawb yn gwybod mai adran 'obits' y Western Mail/Daily Post ydy'r un mae'r mwyafrif o Gymry dros 60 yn troi atynt yn gyntaf wrth agor y papur, felly byddai'n boblogaidd iawn!

| 07-06-2014 9:15 pm | #5

Rydych chi'n hollol gywir Rhodri a Rhys - y broblem yn y bon yw nad yw'r golygywr mor effro i bosibiliadau y byd digidol ag ydych chi. Yn hytrach na thrafod y peth ar lwyfan nad ydyn nhw'n debygol o fod yn ymwybodol ohono, beth sydd angen ei wneud yw gyrru e-bost yn mynnu cyfarfod efo nhw er mwyn trafod y pwnc.

| 08-06-2014 12:58 pm | #6

Ydi cyhoeddi digidol ddim yn rhan annatod o swydd pob cyhoeddwr? Da ni heibio 'bod yn effro i'r digidol'. Mae'r digidol yn rhan o gyhoeddi. Jest cyhoeddi ydi o.

| 12-06-2014 9:48 am | #7

Diolch bawb am eich sylwadau. Cyhoeddi Barn o fewn ap Cylchgronau Cymru (gan dalu ffi i'r Cyngor Llyfrau am gael gwneud) yw'r cam pwysicaf yn hanes y cylchgrawn ers tro. Yn sgil hynny penderfynwyd newid y polisi o gynnwys rhai erthyglau cyflawn ar y wefan am y tro - ond byddwn yn ei adolygu, a bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried. Ceisiwn adfywio'r trydar cyn gynted ag y bo modd. Mae angen hynny i dynnu sylw at y ffaith fod y cylchgrawn digidol ar yr ap ar gael rhai dyddiau cyn y cylchgrawn print. Ein gobaith yw y bydd hynny yn denu rhai i brynu rhifynnau unigol ac i danysgrifio trwy'r cyfrwng hwnnw. Mae'n ddyddiau cynnar a gwerthfawrogir pob cyngor.

Robert
Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Barn

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa