EinCartrefArlein - Ein Gwarged?

| 04-07-2014 7:00 am

Pan mae gen ti adnoddau, mae'n bwysig gwneud y mwyaf ohonyn nhw.

Weithau mae gen ti adnoddau ti'n gwybod amdanyn nhw a dwyt ti ddim yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw - fel Cymru a'i dŵr. A weithiau ma gen ti adnoddau gwerthfawr heb yn wybod i ti ac mae rhywun arall yn manteisio arnyn nhw - fel y Chagosiaid a'u parth lefel uchaf .io (H/T i drydariad @iestynx am y stori). 


Dwi'n torri nghalon dros y Chagosiaid, yn gyntaf mae'r DU yn eu hel o'u cartrefi er mwyn adeiladu safle milwrol, ac nawr fel insylt pellach mae Llywodraeth Prydain yn gwneud elw o werthiant parth lefel uchaf yr ynysoedd sef .io wrth iddo ddod yn ffasiynol ymysg y gymuned tech. Mae'r holl stori'n drewi o'r cychwyn i'r presennol a dweud y gwir ac mae'n dangos bod elfennau o imperialaeth yn parhau gan y DU yn y ganrif hon.  

Er mor bell o'n profiad ni, mi wnaeth hyn i fi feddwl am ein parth cyffredinol lefel uchaf newydd ni - .cymru - a faint rydyn ni'n craffu ar y ffordd y bydd yr adnodd hwn, ein hadnodd ni, wedi ei weinyddu. Roedd y daith at y pwynt yma yn hanes .cymru yn un flêr iawn a dweud y lleiaf, a'n destun pryder i mi ar sawl achlysur. Ond nid mynd nôl dros y tir yna yw bwriad y gofnod hon.

Mae .cymru gyda ni a rhaid sicrhau ei fod yn gweithio i ni. Ond os trosglwydo ein hadnoddau i gwmni (nid-er-elw dylid nodi) o'r tu allan i Gymru, yna dylem wybod yn union beth fydd yn digwydd i'r elw o werthiant yr adnodd hwnnw. 

Mae eu datganiad polisi ar eu gwefan yn nodi:

2.5 Gan adlewyrchu ein statws dielw a’n hymrwymiad i sicrhau budd i’r cyhoedd, caiff unrhyw warged a gynhyrchir gan y gofod parth .uk ei ailfuddsoddi yn y gymdeithas ehangach trwy Ymddiriedolaeth Nominet, elusen annibynnol sy’n cefnogi mentrau sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i ysgogi gweithredu cymdeithasol cadarnhaol ar lawr gwlad. Yn yr un ffordd, bydd unrhyw warged a gynhyrchir yn sgil gweithredu parthau .cymru a .wales yn cael ei neilltuo a’i roi i achosion elusennol er budd cymdeithas Cymru.

Mae ambell gwestiwn gen i am y gwarged hwn. 
  • Sut fydd y cyhoedd yn gwybod am unrhyw warged a geir?
  • A fydd yn glir i'r cyhoedd faint o wariant fydd yn mynd i Nominet cyn dyfarnu beth sydd yn warged? 
  • Pwy fydd yn sicrhau bod y gwariant hyn yn addas?
  • Pa fath o strwythr fydd i'r dyraniad o unrhyw warged 'er budd cymdeithas Cymru'?
  • Pwy fydd yn penderfynu ar ba fath o achosion elusennol fydd yn derbyn budd?
  • Pa fath o checks fydd y Cynulliad yn eu gwneud ar y broses?

Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig, a byddai'n dda gen i weld rhagor o eglurder ar y mater hwn. Dwi ddim am eiliad yn ceisio dweud ein bod yn cael ein gormesu fel y Chagosiaid. Wedi'r cyfan, ni roddodd ein hadnodd i ddwylo Nominet. A dwi'n falch y bydd ambell swydd yng Ngwynedd o'i herwydd, ac ambell swydd yng Nghaerdydd hefyd debyg iawn. Ond mae angen cadw llygaid barcud ar daith yr arian neu mae peryglon y caiff ei sugno i grombil gweinyddu Nominet ac nid er budd Cymru. Ond o weld agwedd rhai o wleidyddion Cymru at ddŵr, beryg na fasa neb yn poeni am hynny beth bynnag...

#blogydydd 4/50

Fy safbwynt bersonol i a roddir uchod ac nid barn Ffrwti. 

Ymatebion

| 04-07-2014 8:45 am | #1

Mae'n ddiddorol dy fod yn nodi mai cwmni nid-er-elw yw Nominet, ac yna'n gofyn yn rhan nesaf yr un frawddeg beth fydd yn digwydd i'r 'elw' o werthiant parth .cymru.

Nid ceisio hollti blew ydw i, ond mae'n bwynt pwysig. Yn amlwg, yr hyn ti'n gyfeirio ato yw 'surplus revenue', ac mewn cwmni nid-er-elw 'dyw hwn ddim yn gallu cael ei ddosabarthu i gyfranddalwyr, ond, fel arfer, yn gorfod cael ei ddefnyddio at bwrpas y sefydliad.

Ond wrth gwrs, mae'r 'surplus revenue' hyn yn gallu cael ei ddefnyddio i gynyddu cyflogau rheolwyr y sefydliad; eu treuliau; eu cyfraniadau pensiwn; i greu swyddi i gyfeillion, yn ogystal â buddsoddi yn y dyfodol.

Yn ymarferol, felly, 'dyw nifer o gyrff nid-er-elw ddim yn cael eu rhedeg yn wahanol i fusnesau â chyfranddalwyr. Yn wir, un o'r prif gwynion diweddar gan gyfranddalwyr busnesau mawrion yw eu bod yn cael eu rhedeg NID er bydd y cyfranddalwyr, ond yn hytrach er bydd y bwrdd a'r unigolioni sy'n rhedeg y cwmni.

Ddylai neb gael eu twyllo bod y ffaith bod corff yn un 'nid-er-elw' yn eu gwneud, o reidrwydd, yn llai parasitig, neu yn llai masnachol, na'u bod, o reidrwydd, yn fwy allgarol neu â chymhelliad mwy anrhydeddus.

| 04-07-2014 10:14 am | #2

Faint o brosiectau Cymreig/Cymraeg ydy Nominet wedi ariannu yn y blynyddoedd hyd yn hyn - trwy werthiannau o enwau .co.uk ac ati yng Nghymru, hmm?

Gyda llaw o'n i'n disgwyl i ti ddweud y dylen ni trosglwyddo arian o Gymru i'r Chagosiaid er mwyn cofrestru enwau fel sgor.io, cogin.io, gardd.io, ayyb!

| 04-07-2014 10:20 am | #3

Diolch wneud yn eglur fy nryswch! 'Gwarged refeniw' nid 'elw' oeddwn i'n trio'i fynegi yn fy ffordd ddi-arbenigedd. Dyna pam dwi'n holi cwestiwn am pa mor glir mae am fod a o ran beth sydd yn mynd nôl mewn i'r cwmni a beth fydd yn mynd at achosion elusennol.

Mae'n bwysig iawn felly gwybod beth fydd y checks gan y Cynulliad ar sut bydd hyn yn gweithio. Mae'n gwmni mawr iawn (dros 100 o staff), gydag ond cyfran fechan o hynny yng Nghymru (o'r hyn wela i bydd 3 swydd llawn amser a 3 rhan amser). Mae'n gwestiwn teg felly faint o'r gwarged fydd yn mynd tuag at gynnal y cwmni yn ganolog. A fyddai'n well petai'r Cynulliad wedi gofyn i Nominet greu is-gwmni Nominet Cymru ar wahan allai redeg ar gostau is ac felly mwy o gyfle i gael gwarged? Neu ydi hwn yn gwestiwn naif?

| 04-07-2014 10:30 am | #4

Adendwm: faint o gyhoeddusrwydd ydy'r Ymddiriedolaeth Nominet wedi anelu at fentrau yng Nghymru hyd yn hyn?

| 04-07-2014 10:34 am | #5

Wel wel, nawr fi'n gwybod beth yw 'gwarged'. Erioed wedi clywed y gair o'r blaen. Diolch.

Mae'n werth gofyn y cwestiwn pam oedd Nominet mor frwd i reoli .cymru a .wales? Hyd y gwela' i, mae nhw'n adeiladu ymerodraeth. Yn bihafio yn union fel cwmni preifat. Mae diwylliant y cwmni, a diffyg ymroddiad y blaid Lafur i bron a bod unrhyw beth Cymraeg neu Gymreig, yn f'argyhoeddi mai newid mân, os hynny, welith Cymru fyth. Neu ydw i'n bod yn rhy sinicaidd?

Ydy, mae dy gwestiwn di'n hollol deg. Wrth gwrs, petai cwmni cynhenid Gymraeg yn rhedeg y peth byddai'r warged i gyd yn aros yng Nghymru. Fe allai Nominet, am wn i, ddadlau bod 'scale' yn cadw costau lawr, ac y byddai cael is-gwmni yn cynyddu, nid yn lleihau costau. Ond wrth gwrs, mae'r 'scale' yn Lloegr, yn dydi? Gellid dadlau ei bod yn well cael costau uwch (ee staff ayb), ond bod rheiny yng Nghymru.

Dwi ddim yn gweld rhyw lawer o obaith i Nominet greu refeniw i Gymru. Mae'r parthau'n asedau cenedlaethol pellach y'u gwerthwyd, a fydda' i ddim yn prynu .cymru na .wales i nghwmniau i.

| 04-07-2014 11:15 am | #6

Dwi ddim yn ffan mwya Nominet (yn wir i'r gwrthwyneb). Ond mae'n wirion i ddweud y byddai dechrau cwmni 'cymreig' wedi cadw fwy o arian yng Nghymru. Mae Nominet wedi datblygu eu systemau nhw dros flynyddoedd lawer a wedi buddsoddi yn y dechnoleg a'r isadeiledd. I fod yn realistig, mi fase cwmni 'cymreig' wedi gorfod allanoli y gwaith technegol tu allan i Gymru (a tu allan i wledydd Prydain o bosib) er mwyn cynnal y systemau DNS yn gost-effeithiol. Dyw e ddim fel rhedeg gwefan.

Os oeddech chi wedi gorfod datblygu systemau 'o sgratsh' fase .cymru/.wales wedi bod yn dwll ariannol am flynyddoedd a dim gobaith o unrhyw elw neu 'warged'.

Hyd yn oed gyda Nominet, dwi'n amau faint o elw fydd y parthau newydd yn wneud.. mi wnaiff gymryd flynyddoedd i adennill buddsoddiad Nominet. A wedyn mae'n farchnad gyfyngedig. Dyw e ddim yn barth 'cwl' fel .tv./.io a'r unig farchnad tu allan i Gymru yw'r diaspora. Os na fydd yn gynaladwy yn y tymor hir yr unig opsiwn fydd cynyddu pris adnewyddu y parthau (rhywbeth sydd ddim wedi digwydd yn .uk).

Mae strwythur Nominet wastad wedi bod yn anodd - y bwriad oedd cadw hyd braich o'r llywodraeth oedd yn egwyddor pwysig o ran rheoleiddio y rhyngrwyd (yn wahanol i Gymru lle mae'r llywodraeth yn hoffi rhoi ei bys ym mhopeth).

O ran ymddiriedolaeth Nominet, mae e fyny i bobl wneud ceisiadau am arian (http://www.nominettrust.org.uk/) - mae'n anodd gweld o'r wefan beth yw dosbarthiad y prosiectau yng ngwledydd Prydain.

| 05-07-2014 6:11 am | #7

Diolch am dy ymholiad. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i wario’r gwarged o .cymru a .wales yng Nghymru ac fe fyddem yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y broses yn ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, mi fyddem yn falch iawn o gael sgwrs efo chdi Rhodri ynglŷn ag unrhyw syniadau am sut gallai prosiectau yng Nghymru cael eu hannog i geisio am yr arian hwn. Byddem yn yr Eisteddfod Genedlaethol gydol yr wythnos ac efallai bydd modd cyfarfod gyda chdi i drafod y mater hwn a sut gallem barhau i weithio ymhellach gyda Hacio’r Iaith.

| 05-07-2014 7:58 am | #8

Erm, dwi'm yn credu oedd neb yn awgrymu adeiladu dim byd 'o sgratsh', so cwla lawr.

Falle bod ti ddim yn gweld 'elw' yn hyn, Dafydd bach, ond ma' rhyw reswm pam bod Nominet mor benderfynol o gael eu bachau ar ein parthau ni. Heblaw wrth gwrs eu bod yn gweithredu mas o garedigrwydd a chariad mawr at Gymru.

Am rhywun sydd ddim y 'ffan mwyaf' o Nominet, ti'n ymladd eu cornel nhw'n frwdfrydig iawn.

O edrych ar ymateb Nominet uchod, fi methu gweithio mas os ydyn nhw jyst yn llawn bwriadau da ond ddim yn gweithredu'r bwriadau, neu ai eu gramadeg sy'n wallus?

| 05-07-2014 7:04 pm | #9

Mae yna bosib cymryd un agwedd a bod yn chwerw a chasau Nominet am gymryd y gwaith neu fod yn ymarferol a gwneud y parthau yn llwyddiant. Os nad oedd 'cwmni cynhenid Cymreig' yn gallu codi'r arian am y ceisiadau a rhedeg yr holl systemau technegol does dim pwynt dadle am le mae'r arian yn mynd. (Ie dwi'n ymwybodol am fethiant Llywodraeth Cymru yn hyn). Mae yna Gymry yn gweithio yn Nominet fel sydd ym mhob rhan o weddill Prydain. Mae'r arian yn llifo'r ddau ffordd. Os oedd cwmniau yn Lloegr yn defnyddio gwasanaethau gan gwmniau yn Lloegr yn unig, mi fase Cymru llawer tlotach.

Yr unig bobl fydd yn gwneud elw mawr o barthau .cymru (fel gyda unrhyw rai o'r 3,000 parth newydd) yw'r rheiny fydd yn eu gwerthu, naill ai'n uniongyrchol neu'r farchnad ail law. Mae Nominet wedi diodde yn barod o fod yn cael ei reoli gan gwmniau sy'n gwneud yr elw mwya o werthu parthau neu yn prynu parthau 'da' yn rhad a'i gwerthu mlaen.

Fe allet ti obeithio y bydd .cymru/.wales yn fethiant er mwyn pwyntio bys a chwerthin ond fe fydde hynny'n blentynnaidd iawn nafydde?

| 06-07-2014 2:49 pm | #10

Diolch am eich ymateb @eincartref. Falch bod chi'n fodlon cyfathrebu am hyn. Edrych mlaen at glywed y cynlluniau maes o law.

Diolch i Dafydd a Gweirydd am y cywiro a'r drafodaeth. Mae'n werth ei gael achos dwi ddim wedi gweld llawer iawn o drafodaeth hyd yn hyn.

O ran cwestiwn Carl am warged .co.uk - mae'n edrych fel bod dau brosiect Cymreig wedi cael arian ond dyw hyn ddim yn dweud lot, gan bod y rhan fwyaf o brosiectau yn cael eu categoreiddio fel 'UK-wide' ac felly ddim yn dangos yn y search.

Falle dylai mwy o bobl wneud cais, ond eto mae nhw'n edrych am bethau sy'n gallu gweithio 'ar raddfa' felly bosib bod hynny am fod yn anodd i brosiectau bach, Cymraeg. Fel y rhan fwyaf o botiau arian fel hyn, mae'n eithaf her gwybod eu bod yn bodoli yn y lle cynta.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa