Wyf Garafaniwr

| 05-08-2014 9:44 am

Wel dwi di disgyn off y wagan efo’r #blogydydd. Dim byd ers tro, ond wel, mae bywyd yn dod rhwng dyn a blogio bob hyn a hyn. Mae bywyd wedi bod yn llawn dros yr wythnosau dwetha. Yn llawn yr emosiwn trwm, agosatrwydd teuluol a’r hel straeon ac achau a ddaw pan fydd Neiniau neu Deidiau teulu’n agosau at ddiwedd eu dyddiau. Ond a’i ddim ar ôl hynny, chos mae’r pethau hynny a’u lle rhwng pobl wyneb yn wyneb ac nid mewn blog neu erthygl. 

 

Ond wrth eistedd mewn adlen carafan, ie carafan, dwi’n teimlo’r angen i sgwennu rhywbeth er mwyn cael nôl mewn iddi. Dwi di bod yn synfyfyrio am y maes carafanau. Roedd y maes carafanau i mi yn symbol o rhyw fath o eisteddfodwyr nad oeddwn i fyth eisiau bod. Er ein bod ni’n dod i’r steddfod yn selog bob blwyddyn ers i mi gael fy ngeni (hyd yn oed yn 1 mis oed mewn pabell), arhoses i erioed ar y Maes Carafanau. Roedd fy rhieni’n mynd i aros i faes carafanau neu bebyll lleol i’r steddfod gyda grŵp o deuluoedd eraill oedden nhw’n eu nabod o’r coleg. Roedd gan y grŵp hyd yn oed y moniker joclyd - Y Carafanwyr Amgen. Bob blwyddyn byddai'r teulu oedd yn byw agosaf at y Steddfod yn pennu maes carafanau a byddai tua 10 teulu’n mynd yno. O’n i’n eithaf balch o’r statws allanolwr yma. Rebels y Steddfod, yeah!

Be bynnag oedd y rheswm dros osgoi'r Maes Carafanau a dwi'n amau falle bod o ddim lot mwy na chael bach o lonydd, mi ges innau rhyw Maescarafanitis.

Ond dyma fi, mewn carafan, ar y maes carafanau - YN MWYNHAU FY HUN. Mae fel rhyw fath o euogrwydd dosbarth canol ond ar gyfer diwylliant Eisteddfodol Cymraeg. Dwi’n teimlo’n euog yn mwynhau fy hun ar y maes carafanau, fel y dylwn i fod yn gwneud rhywbeth arall, rhywbeth llai Maes Carafanllyd.  

Na, allai ddim osgoi’r ffaith rhagor. Dwi wedi ildio. Wyf garafaniwr. Ac rwyf am ei fwynhau. 

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa