Pawb â'i broblem

| 13-05-2015 8:07 pm

Fe wnes i weld neges ar facebook yn gynharach - rhywun yn synnu (a gresynu) fod pobl yn dal i 'fynd mlaen' am ganlyniadau'r etholiad.

Mae'n debyg y dylen ni fod yn lwcus mai hynny sydd gyda ni i gwyno amdano, tra bod pobl yn Nepal yn dioddef ail ddaeargryn.
Wrth gwrs fod pobl sydd yn colli eu cartrefi, yn wynebu newyn a salwch yn ofnadwy ac yn rhywbeth dylen ni i gyd wneud beth gallwn ni amdano.

Ond y realiti yw y bydd toriadau, bydd rheolaeth y Ceidwadwyr a bydd y blynyddoedd nesaf yn golygu bydd mwy o bobl yn colli eu cartrefi – am eu bod yn methu talu rhent neu forgais; yn newynu wrth orfod dewis rhwng wresogi tŷ neu roi bwyd i'w plant; y bydd mwy o bobl yn troi at fanciau bwyd, ac y bydd pobl yn yn mynd yn fwy tost achos bod safonau byw yn gwaethygu, y bydd mwy o straen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Ces i fy sobri ddoe wrth ddarllen nofel, am ferch mewn teulu sy'n wynebu colli budd-dal. Ei geiriau yw nad yw torri 11% o fudd-dal rhywun yn lot. Nes sylweddoli nad oes unrhyw beth i dorri nôl arno:

"There are no 'little luxuries' to cut back on....We cut out own hair, and we read magazines in the library....there are no grand plans we can shelve during this cash lull...we were never going to replace our car or decorate our front room....11 per cent less means choosing between electricity or food - electricity and food that is already rationed and fretted over."
 
Allwn ni ddim honni bydd y sefyllfa'n genedlaethol mor wael â phetai daeargryn wedi bwrw'r wlad ond gallai effeithiau toriadau ar bobl unigol, ar deuluoedd ac ar gymunedau fod llawn mor ddifrifol.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa