Adolygiad 'The Rapist Anihilation Squad'

| 24-07-2015 6:23 pm

Falle 'mod i'n mentro cyfaddef 'mod i'n gwau, ac i fi gael ambell syniad newydd yn y nofel - ond dim ond beth sydd fan hyn. Wir!

Does dim stori gymhleth i'r nofel, ond mae lot yn cael ei ddweud amdanon ni a'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi.
Mae'n codi cwestiynau am beth yw trais, yr hyn rydyn ni'n ei wneud â 'throseddwyr', dialedd a phropaganda ond yn graidd i'r cyfan mae merched a ffeministiaeth.
Y stori, yn syml yw bod llond llaw o ferched sy'n rhan o grŵp gwau yn digwydd dod i wybod i bob un ohonyn nhw gael eu treisio, ac yn penderfynu, gan na chosbwyd eu treiswyr, i fynd ati i gosbi eu troseddwyr a throseddwyr eraill – drwy'u lladd gyda'u gweillau gwau!

Fe wnaeth i feddwl am ambell beth mewn ffordd hollol wahanol:

Dyw carchardai ddim yn gweithio, ond dydw i ddim wedi meddwl amdano fel trais o'r blaen. Mewn sgwrs rhwng dau gymeriad roedd y cwestiwn am garcharorion 'do you think they'd be there out of choice?' yn fy holi i gymaint â'r cymeriad arall.
Er nad ydw i'n cytuno gydag ateb trais a thrais galla i weld rhesymeg lladd treiswyr sydd hen eu cosbi ac nad ydyn nhw'n edifar.

Dydw i erioed wedi bod â gormod o ofn cerdded strydoedd yn hwyr y nos, ond galla i gofio sawl gwaith i fi gerdded yn gyflym iawn, i fi gerdded adref yn cael sgwrs ddychmygol ar y ffôn, y byddwn i'n barod i dynnu allwedd tŷ o 'mhoced yn syth wrth gyrraedd adref, y byddwn i'n fwy gwyliadwrus, ac yn cerdded nôl ffordd hir yn hytrach na lawr llwybrau cul a thywyll. A rhain yn bethau roedd pobl wedi awgrymu i fi fel merch eu gwneud er diogelwch. Mae cyfeirio at hyn yn y nofel. Wnes i ddim sylwi cynt na fyddai rhywun yn dweud yr un peth wrth ddynion, na fyddai dynion yn teimlo’r ofn yna yn eu calon o glywed traed yn rhuthro y tu ôl iddyn nhw, ac i ni gael ein dysgu i fod ofn cerdded wrth ein hunain oherwydd y perygl o ymosodiad.
Wnes i ddim meddwl go iawn chwaith cymaint mae dynion yn cael eu fictimeiddio. Dysgwyd ni, i bob pwrpas, i beidio ymddiried mewn dynion – i beidio dechrau sgwrs gyda dyn os oedden ni'n cerdded adref yn hwyr yn y nos; ac mai ar ein gwyliadwriaeth am ddynion roedd angen bod. Ond mae hyn yn cael ei droi ar ei ben – dynion ofn gweld merched yn gwau ac un dyn yn panicio wrth weld merch, yn hollol ddiniwed, yn tynnu gweill o'i bag yn hwyr y nos.

Alla i ddim credu fod bwriad gan unrhyw un i greu ofn, i greu bwystfilod o bob dyn dieithr mewn stryd dywyll – ac wrth gwrs bod angen rhybuddio am beryglon bod mas wrth eich hunan yn y nos, ond mae angen rhybuddio pawb. Mae'n siŵr fod cymaint o fechgyn yn cael eu hunain mewn ffeit neu yn cael crasfa ar noson mas.

Sy'n dod â ni at bropaganda. Mae tipyn yn y nofel am yr hyn sydd ar ein sgrins mewn newyddion a rhaglenni sgwrsio. Mae ar ei fwyaf clyfar pan mae cyflwynydd teledu yn esbonio pam fod y menywod 'dialgar' mor beryglus, cynllwyngar a thwyllodrus – a'u bod wedi llwyddo i argyhoeddi pawb fod trais yn digwydd er nad oes 'prawf' o hynny:
"If they tell us this big lie often enough, we will begin to believe it. Never, ever believe the big lie." Mae'r eironi mor felys o drwchus ar adegau, os ydych chi'n dal i gredu geiriau'r sefydliad ar ei diwedd yna mae'r nofel yma wedi ei wastraffu arnoch chi!

Fydd hynny ddim at ddant pawb wrth gwrs, bydd rhai yn gweld rhannau yn 'bregethwrol' ac ambell beth yn ormod. Mae'r tynnu ar yr heddlu yn wych, ond mae'n cyrraedd rhyw bwynt rhwystredig wrth i lond stafell o blismyn gwrywaidd anwybyddu ac yn methu clywed y blismones yng nghefn y stafell sy'n cynnig syniadau mae'r plismyn wedyn yn cael canmoliaeth am eu hawgrymu. I fi mae'n gweithio, mae'r rhwystredigaeth yn cyrraedd yr union bwynt.

Mae'r cyfan yn gweithio i fi a byddwn i'n ei hargymell p'unai ydych chi'n gwau ai peidio. Mae tipyn mwy na hynny yma.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa