Alla i ddim penderfynu beth oedd orau gyda fi pan brynodd rhywun siocled a llyfr Hipo Hapus. Dyna'r tro cyntaf i drial siocled Hipo Hapus, ond nid y tro olaf.
Yn wahanol i'r siocled mae'r llyfr dal gyda fi - ac yn dal i greu pleser.
Gareth Blake yw'r Hipo Hyfyrd sydd yn gwneud y siocled ac ysgrifennu'r llyfrau - a hynny yn ei amser sbar. Mae'n gwerthu'r cyfan ar-lein:
http://www.hipohyfryd.co.uk/recipe_books.php?pLang=WELSH Hwn oedd fy llyfr coginio figan cyntaf. Hwn wnaeth fy nghyflwyno i goginio cacennau heb wyau - gan ddefnyddio bananas yn lle. Fe wnes i bwdin Dolig figan am y tro cyntaf (sydd wedi gwneud anrheg i sawl un ers hynny).
Mae'r pob chicpis a phanas yn ffefryn, a hudodd y geiriau 'tarten chicpis' a 'torth llawer o gnau' fi o'r dechrau!
Erbyn hyn mae tri llyfr yn y gyfres - y tro ar gael ar-lein ac yn Gymraeg neu yn Saesneg. Yn fwy na hynny mae geirfa yn y cefn ac fe ddysgais i beth yw merllys ac wylys.