Dyfodol yr iaith Gymraeg???

| 03-03-2014 5:03 pm

A'r cwestiwn mawr, enfawr actually, ydi...... be os neith yr iaith Gymraeg farw?

[Llun: willposh]

Dwi ar fin cychwyn sgwennu drama ar gyfer Mared Swain yn Sherman Cymru. Dwi 'di ca'l comisiwn i sgwennu drama Gymraeg ac i feddwl am y cysylltiad a'r berthynas sydd ganddo ni hefo Patagonia heddiw.

Yn ogystal a edrych mewn i'r holl hanes dwi hefyd yn awyddus i drafod y berthynas, sydd yn fy marn i yn eitha 'bizarre', sydd ganddo ni hefo Patagonia heddiw - y pobol yn Patagonia yn son am y 'Wladfa' ac yn grediniol fod Cymru yn baradwys lle mae pawb yn siarad Cymraeg, ac hefyd ni'r Cymry sydd wrth ein boddau'n son am y wlad bell 'ma sy'n siarad Cymraeg ond eto, mae'r gwirionedd ddipyn llai ffantastic. Ychydig iawn, iawn sy'n siarad Cymraeg yno heddiw.

Ma' hyn wedi dod a fi at feddwl lot fawr am ddyfodol yr iaith Gymraeg - yn bendant yn Patagonia ond hefyd fan hyn yn y 'Wladfa'.

Sud mae o'n mynd i esblygu? Sud mae o'n mynd i swnio mewn cant a hanner o flynyddoedd? Fydd y Cymraeg yda ni'n siarad yn fama a'r Cymraeg fydd y rhai'n Patagonia'n siarad yr un fath erbyn hynny? Fydda ni hyd yn oed yn medru dalld ein gilydd? Oes yna berryg i ni afael mor dynn yn yr iaith, yn ei gwarchod hi rhag perryg, yn gwneud yn siwr ei bod hi'n saff ac yn fyw, oes yna berryg i ni fygu hi? Ei stopio hi rhag tyfu, newid, datblygu? 

Felly beth ddigwyddith os wnawn ni adael fynd? Gadael iddi symud ymlaen ar ei ben ei hun? Wrth gwrs, mae yna ddau beth all ddigwydd os wnawn ni hyn- mi all dyfu a blaguro yn rhywbeth arall sy'n llawn bywyd a dyfodol neu......mi all farw.

Ac yna'r cwestiwn mawr, enfawr actually, ydi...... be os neith yr iaith Gymraeg farw?

Dwi'n awyddus i glywed eich barn chi am unrhyw un o'r cwestiynnau uchod. Os oes ganddo chi amser mi faswn i'n hynod ddiolchgar pe baech yn nodi eich meddyliau fan hyn neu ar Twitter (@bethanmarlow). Mi fydd hi'n gret gallu clywed syniadau pawb am ddyfodol yr iaith, ofnau a gobeithion pawb am ddyfodol yr iaith a perthynas pawb hefo'r iaith Gymraeg.

Diolch o galon.

Bethan.x

Ymatebion

| 03-03-2014 10:36 pm | #1

"Felly beth ddigwyddith os wnawn ni adael fynd? Gadael iddi symud ymlaen ar ei ben ei hun? Wrth gwrs, mae yna ddau beth all ddigwydd os wnawn ni hyn- mi all dyfu a blaguro yn rhywbeth arall sy'n llawn bywyd a dyfodol neu......mi all farw."

Mae hyn braidd yn niwlog. Nid aderyn yw iaith, i'w gadael yn rhydd. Mae iaith yn rywbeth sy'n cael ei ddiffinio gan y bobol sy'n ei siarad, bob tro y maen nhw'n agor eu cegau neu yn ysgrifennu rywbeth. Rydw i'n rheoli'r iaith rwan, drwy ysgrifennu mewn steil penodol. Swn i'n 'gadael fynd' yn yr iaith fe fyddai yn edrych fel hyn ihcbeuibvwrklnvsuyb edkjnbrsui brieuvndsojbih sdbk

| 03-03-2014 10:56 pm | #2

xvyys,qp...ie, cytuno. Nid "peth" mo'r iaith. Cyfrwng. Modd o gyfathrebu rhwng pobl. Nid yw'n bodoli ohoni hi ei hunan. Ioan Williams oedd fy athro drama pan o'n i'n Aberystwyth a gofynnodd un diwrnod a fyddai drama yn dal i fodoli petai gafar yn bwyta'r llyfr oedd â'r ddrama ysgrifennedig ynddo. Daeth i'r casgliad na fyddai - gan fod drama ond yn bod wrth iddi gael ei pherfformio (sa i'n meddwl fod ni, y dosbarth yn medru ateb). Rwy'n meddwl iddo ddadlau nad oedd yn bod hyd yn oed cyn i'r llyfr gael ei draflyncu gan y creadur eiddgar.

| 04-03-2014 2:17 pm | #3

Diolch am eich sylwada, gret ca'l cychwyn trafod.

Sori, nesh i'n amlwg ddim egluro'r holl syniad o "adael fynd" yn glir iawn. Be o'n i'n drio son amdano fo oedd y syniad o lwybr dyfodol yr iaith os fasa neb yn ei phlismona hi- neb yn cywiro ac yn gadael i bawb siarad y Cymraeg sydd yn dod fwyaf naturiol iddyn nhw. Fydd hyn ella i rai yn Gymraeg tebyg iawn i'r ffordd mae o'n cael ei sgwennu ond i eraill ella'n llawn geiriau Saesneg (neu Sbaeneg ym Mhatagonia) ac yn ramadegol anghywir.

Dwi'n rili licio be ddudis di Ifan o "rydw i'n rheoli'r iaith rwan" a dwi'n cytuno'n llwyr. Sydd felly'n golygu fod pawb sy'n siarad Cymraeg yn ei rheoli hi tydi? So ma hynna'n includeio y rei sy'n siarad Cymraeg ond yn iwshio loads o geiria Susnag hefyd? Am ein bod ni'n medru siarad dwy iaith ydi hi'n anorfod fod Saesneg am barhau i ddylanwadu'n drwm ar Gymraeg ein dyfodol ni?

Yda ni'n ok hefo hynna?

So, h? nows, ella na felma fydd Cymraeg yn edrach fel yn y ffiwtchyr???

Sud da ni'n teimlo am hynna? Am adael fynd o'r Gymraeg da ni'n nabod a gadel iddi symud ymlaen?

| 04-03-2014 2:19 pm | #4

w hefo to bach ydi'r cwestiwn marc 'na wrth ymyl yr h i fod.

| 04-03-2014 9:15 pm | #5

Ysgrifennodd John D. Phillips bapur ar 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg' i Gwerddon yn 2008 sy'n werth ei ddarllen: http://www.gwerddon.org/en/media/main/gwerddon/...

| 04-03-2014 10:47 pm | #6

Bethan, dw i'n cytuno bod angen i bobl chwarae gyda'r iaith a datblygu cyweiriau amgen sydd ddim yn safonol ond does dim sefyllfa 'naturiol'.

Mae'r arloesedd yma yn dibynnu ar benderfyniadau gan sefydliadau. Er mwyn gwireddu'r nod mae angen mwy o gyfleoedd i fyw yn Gymraeg, i glywed, siarad a sgwennu'r Gymraeg.

Dw i ddim yn meddwl bod 'plismona' yn gymaint o broblem. Diffyg cyfleoedd yw'r broblem.

Enghreifftiau:
- toriad Cyngor Caerdydd i grant Theatr Sherman yr wythnos hon, pa effaith ar arloesi yn y Gymraeg?
- diffyg cyfleoedd i anfon plant Tre-Biwt/Grangetown i ysgol Gymraeg, lot o deuluoedd eisiau un (dychmyga pa fath o Gymraeg fyddai plant o dras Somaliaidd yn datblygu!)
- gwesty yn Ynys Môn yn atal staff rhag siarad Cymraeg o gwbl, ymhlith gweithleoedd eraill
- datblygiadau tai heb asesiad digonol ar gymunedau Cymraeg eu hiaith, dim digon o swyddi tra bod miloedd yn symud mewn i bentrefi
- miliynau o £££ yn mynd ar arfau/Trident yn hytrach na chyfleoedd i bobl ifanc
- cerddorion yn derbyn llai am ganeuon Gymraeg, sydd yn golygu bod yr iaith yn hobi yn hytrach na bywoliaeth
- dim hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ysbytai
- ditto carchardai (eto, carcharorion yn ffynhonnell wych o slang ayyb - ffaith!)
- diffyg cyrsiau gydol oes (coginio, dylunio, gwnïo, cerddoriaeth ayyb) trwy gyfrwng y Gymraeg
- angen mwy o sianeli/gorsafoedd radio/ffilmiau! Amrywiaeth o leisiau
- fel pobl eithaf cefnog mae'n haws i ni ffeindio cyfleoedd i siarad Cymraeg (gyrru, talu am docynnau i gigs, talu am lyfrau/tiwns, amser hamdden ayyb, jobsys mewn swyddfeydd). Dyw e ddim jyst yn mater o 'siarad Cymraeg yn naturiol' i lawer, yn enwedig y dosbarth gweithiol.

Ie, mae'n hollol wleidyddol.

| 04-03-2014 11:28 pm | #7

Esgusodwch hyn. Sylwi bod Bethan wedi cael problem gyda tho bach.
[test: ????]

| 05-03-2014 4:22 pm | #8

Diolch Hywel, gai look ar y link.

A diolch Carl- ma'r engreifftia' 'na'n ffab. Fel rhywun sydd 'di ca'l ei magu mewn ardal lle ma' Cymraeg yn cael ei siarad gan bob haen o gymdeithas, mae'n bwysig mod i'n cofio fod hyn, yn anffodus, yn eithriad.

| 08-03-2014 9:48 am | #9

Sut mae'n gael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fydd y newid mwyaf. Ges i fy magu gan tad (Cymro Cymraeg) a mam (Sgowsar nath dysgu'r Gymraeg yn ei 20'au hwyr) Dyma di'r rheswm, yn fy marn i, bod treiglo fi mor wael. Mae fy ddwy hogan yn byw mewn cartref dwy ieithog, mond Cymraeg dwi'n siarad efo nhw. Tybed sut siap fydd ar eu Cymraeg nhw yn y dyfodol? Ond dwi'n eithaf sicr y byddent yn pasio'r Gymraeg ymlaen i'r genhedlaeth nesaf....

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa