Mae Cell Conwy - Cymdeithas yr iaith Gymraeg - wrthi'n trefnu gigs yn nhafarndai ledled sir Conwy. Bwriad y gigs fydd hybu'r Gymraeg yn y trefi/pentrefi yno a rhoi hwb i'r perfformwyr.
Rydym yn chwilio am gantorion (unigol neu grŵp) i berfformio mewn gig. Rydym yn chwilio am gantorion ifanc, newydd neu sydd wedi sefydlu ers amser hir. Mae croeso i bawb drïo am gyfle i berfformio yn y gig, ond mi fydd perfformwyr sydd yn lleol (i sir Conwy) yn cael eu blaenoriaethu.
Darllenwch yr erthygl lawn i ddysgu mwy...
Mi fydd y gigs yn cymryd rhan mewn tafarndai ar hyd a lled sir Conwy; rhai mewn mannau lle nad yw'r Gymraeg wedi'i siarad am genedlaethau.
Rheswm dros gynnal y gigs yma yw;
- Hybu'r Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg yn sir Conwy,
- Hybu cerddoriaeth Gymraeg, a
- Hybu gwaith y Gymdeithas.
Os oes diddordeb gennych mewn perfformio, yn dod o sir Gonwy neu beidio, cysylltwch â ni!
e-Bost:
cellconwy@gmail.comGwefan:
www.cellconwy.orgTwitter:
@cellconwyFacebook:
cliciwch yma