Y Blaid Lafur a'r Cymru wledig - ymateb i @CylchgrawnBarn

| 29-08-2014 4:30 pm

Darllenais erthygl yn ddiweddar yn Barn gan John Stevenson am Llafur a’r Gymru wledig a chryn diddordeb.  Fel brodor o Geredigion a Llafurwr rwy’n rhannu eich gofid am fethiant etholiadol y blaid yn yr ardaloedd hyn. 

Roedd yna nifer o bwyntiau hanesyddol bwysig am hanes y blaid Lafur yn erthygl.  Nid oeddwn yn gwybod cyn ei ddarllen fod rhai o gyfarfodydd cyntaf y blaid wedo digwydd yn sir Fon ymysg gweithwyr dociau ac amaethyddol Caergybi a’r cylch.  Mae’n drueni i’r hanesion hyn chael ei anghofio.  Wrth gwrs, mae’r pleidiau eraill am rhoi’r argraff mai ei hanes nhw sy’n ymdreiddio’r ardaloedd hyn ac felly maent yn fwriadol anwybyddu’r etifedd Llafuraidd yn y wlad.  Ond arnaf ofn fod yna tipyn o fai ar Lafurwyr am anghofio’r hanes hyn hefyd, gan mor daer mae lladmeryddion Cymoedd y de dros hanes sosialaidd eu hardaloedd hwy.  Mae’r sefyllfa ychydig yn well o fewn y gymuned Gymraeg llenyddgar.  Yn ddiweddar rydym wedi bod yn lwcus o gael casgliad dda o fywgraffiadau pwysig am arweinwyr Llafuraidd pwysig o gefndir lled-gwledig a Chymraeg:  Huw T Edwards, Elystan Morgan* a Jim Griffiths eleni.  Ond, ar y cyfan, mae’r blaid Lafur Cymreig wedi anghofio ei gwreiddiau gwledig, ac o ganlyniad mae’r ardaloedd gwledig wedi colli ei cysylltiad nwythau efo’r blaid.

Cytunaf a chi fod yn rhaid cael “polisiau credadwy” yn y broydd Cymraeg, sy’n ymateb i ddyheadau pobl lleol am swyddi da a dyfodol gwell.  At hynny, rhaid rhoi cefnogaeth ddi-gamsyniol i’r iaith Gymraeg.  Efallai fod angen i Carwyn Jones herio’r deinasoriaid wrth-Gymraeg yn y blaid Lafur unwaith ac am byth, yn yr un modd a heriodd Tony Blair y blaid ar bolisi gwladoli yng nghanol y nawdegau. 

O ran swyddi, a’r gallu i’w cyrraedd, rhaid rhoi pwyslais o’r newydd ar drafnidiaeth cyhoeddus sy’n ateb anghenion gwledig.  Rhaid hefyd darparu cyfalaf ar gyfer cwmniau gwledig sydd am werthu nwyddau a gwasnaethau i Iwerddon, Lloegr a thu hwnt.  Roedd syniad Ed Miliband o gyflwyno banciau rhanbarthol i fuddsoddi mewn cwmniau gweith-gynhyrchu fel ag y maent yn yr Almaen yn un da.  Os daw banciau tebyg, dylid pennu cyfran o’i cyfalaf i’r ardaloedd gwledig iddynt fagu sylfaen diwydiannol cryfach. 

Dylai’r pwyslais pennaf ddisgyn ar sicrhau darpariaeth cyfartal o wasanaethau cyhoeddus a phreifat.  O fewn gwladwriaeth democrataidd-cymdeithasol fe ddylai pob dinesydd derbyn yr un safon o wasnanaethau cyhoeddus, os ydyw’n dlawd neu’n gyfoethog, gwledig neu trefol.  Dyma oedd sail darparu gwasnaethau yn y cyfnod hir o 1945 i 1979.  Er enghraifft, er y gost, darparwyd llinnellau ffon a gwasnaeth cyfartal i bawb gan yr hen GPO.  Roedd gosod llinnellau ffon tipyn yn ddrytach yn yr ardaloedd gweledig na’r ardaloedd gwledig, ond roedd modd rhannu’r gost o fewn y cwmni, mewn modd y gellid ei fforddio, gan ddarparu is-adeiladwaith economaidd holl-bwysig i bawb yn y wlad.  Ond, yn 1990au, pan gyflwynwyd rhwydweithiau ffonau symundol a band eang, gwnaed hynny ar sail y farchnad.  Penderfynwyd mai rol y wladwriaeth y tro hwn oedd rheoleiddio’r farchnad i sicrhau cystadleuaeth a gosod safonau bras, yn unig.  Ni rhoddwyd gofynion cymdeithasol ar y cwmniau cyfathrebu.   O ganlyniad, ni osodwyd cynllun i sicrhau y gallai pawb dderbyn yr un safon o wasaneth.  Datblygwyd y rhwydweithiau newydd yn brith-draplith, gan wasnaethau’r ardaloedd poblog yn gyntaf.  Mae yna rhannau helaeth o gefn gwlad sydd heb gwasnaethau da hyd heddiw.  Yn y dyfodol dylid sicrhau fod ardaloedd gwledig yn derbyn yr un lefel o wasanaeth a’r tref wrth osod rhwydweithiau, hyd yn oed os ydi hynny yn tarfu rhyw ychydig ar lefelau elw’r cwmniau masnachol. 

Roedd darpariaeth universal o wasnaethau i’r cyhoedd yn sylfaen i bolisi’r blaid Lafur Prydeinig am gyfnod hir wedi’r rhyfel.  Mae’n sylfaen i weledigaeth Mark Drakeford ac eraill hefyd.  Dyma oedd sail deallusol y polisi eang-frydig o gyflwyno prescriptiwn am ddim.  Polisi positif y dylid ceisio ei efelychu mewn meysydd eraill, lle bo’r arian ar gael.   

Yn lleol ac yn genedlaethol dylai’r blaid Lafur ail-gydio a economeg callach, tecach sy’n darparu gwasanaethau a swyddi da ym mhob rhan o Brydain – yn y trefi ac yn y wlad.  Mae polisiau demcrataidd-cymdeithasol yr un mor berthnasol i’r Gymru wledig ac y buont erioed.  Y blaid Lafur Cymreig dylai arwain y ddadl o’u plaid.      

*Dylwn nodi mae fy mrawd Huw a olgygodd y gyfrol (fendigedig!) hon

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa