Daw ffin Cymru-Lloegr yn real, diolch i Garmin

| 03-02-2015 6:37 pm

Ymateb i erthygl Sion Jobbins 'The Border: a Daily Plebiscite' o'i lyfr The Phenomenon of Welshness II

Annwyl Sion, Roedd yn bleser i ddarllen dy lyfr newydd am annibyniaeth i Gymru. Er, fel y gallet ti ddisgwyl, dwi ddim yn cytuno efo pob dim ynddi! Yn arbennig fe mwynheais dy erthygl am y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a’i hanes. Roedd yn ddiddorol i ti ddweud nad yw’r ffin â Lloegr yn teimlo fel “ffin pendant” fel yr un brofaist rhwng Awstria a Slofenia yn 1993. Ac mae’n wir i ddweud nad yw un ochr ein ffin ni yn teimlo nac edrych yn wahanol iawn i’r ochr arall o safbwynt economaidd na diwylliannol. At hynny, yn fynych iawn, dydi’r profiad o groesi’r ffin o Loegr i Gymru ddim yn teimlad “pendant” iawn chwaith. Ffin agored ydyw, wedi’r cyfan, o fewn yr un wladwriaeth. I ni, plant yr rhyfel oer, roedd gennym esiampl go iawn o be allai ffin fod - y Lleng Haearn a Mur Berlin. Mae yna rhannau o’r ffin efo Lloegr sy’n weledol, fel petai – yn benodol yr afonydd Mynwy a Gwy yn y de, fel y soniaist. Ac hefyd, fel dywedaist mae’r hen ffinoedd wedi’i marcio’n ddearyddol ffisegol gan cloddiau Wat ac Offa – atgof o gyfnod a oedd yr un mor cythryblus ar ynys Prydain ac oedd yr ugeinfed ganrif i dir mawr Ewrop. Mae pontydd Hafren yn ymgorffiad o’r ffin Er, o edrych ar fap manwl, ychydig yn siomedig mae realti’r pontydd fel marc pendant o’r ffin. Ar yr hen bont, ‘mond yr hanner milltir fach cyntaf dros y Gwy i benrhyn Sedbury sy’n croesi’r ffin go iawn. Ac, o deithio o Fryste i Gasnewydd, rhaid teithio bron i dri chwarter ffordd ar draws y bont newydd cyn cyrraedd Cymru. Y mae pob un o’r mastiau sy’n dal y bont yn grog yn gorwedd yn nyfroedd Lloegr. Onibai am yr enghreifftiau hyn, mae’r ffin yn reit anweledol. Mae’r wir i ddweud fod y prif-ffyrdd yn cofnodi’r ffin ac arwyddion yn eich croesawu i Gymru neu Lloegr am yn ail. Ond hawdd peidio sylwi ar rhein, ac wrth yrru tipyn ar hyd y ffin, mae’n hawdd peidio gwybod ym mha wlad yr ydych. Yn ddiweddar, a minnau’n teithio’n aml iawn rhwng y ddwy wlad, mae’r ffin yn dod yn gliriach imi, a weithiau’n newid o rywbeth haniaethol i rhywbeth sydd bron yn ddiriaethol. Fy satnav sy’n gyfrifol. Ar sgrin y satnav mae’r ffin yn ymddangos fel llinell lwyd tywyll cadarn a thrwchus. Ymddengys fel rhan o’r ddaearyddiaeth ffisolegol lleol, yr un mor real a rhewl arall, neu rheilffordd neu afon. Dim ond wrth i chi groesi’r ffin y daw’n glir nad oes ganddi yr un nodwedd corfforol. Mae’ch modur y pasio odani a thrwyddi fel na phetai yno. Fel petai’n enfys neu rhyw ddrychiolaeth sydd yno cyn diflannu. Mae’n brofiad braf. Mae’n fodd i chi leoli’ch hunan yn well wrth deithio ardaloedd anghyfarwydd. Mae hyn yr arbennig o wir ar Lannau Dyfrdwy, er enghraifft – ardal lle mae’r ffin prin yn bodoli o gwbl yn nychymyg na profiad beunyddiol tipyn o’r boblogaeth leol. Cyn hyn, rwyf wedi teithio heibio a thrwy ardal Shotton/Queensferry/Cei Connah i gyfeiriad Ellesmere Port heb wybod o gwbl ym mha wlad yr ydwyf. Tan yn ddiweddar, doedd yr un arwydd yn eich croesawu chi i Gymru, a does yr un yn eich croesawu i Loegr o hyd. Dydi’r afon Dyfrdwy fawr o help chwaith chan iddi chael ei dar-gyfeirio a’i sythu blynyddoedd maith yn ol a dydi hyn ddim yn marcio’r ffin bellach. Ond nawr, diolch i’r satnav mae’r ffin yno, yn farcyn ar fy map, yr un mor bwysig a’r clytwaith o draffyrdd a diwydiannau trwm lleol. Wrth deithio’r A494 chwim i gyfeiriad Manceinion a Lerpwl mae’r ffin yno yn glir ar y sgrin, fel ffrind yn eich atgoffa eich bod ar fin gadael. Mae’n eich sadio am ennyd gyn iddo ddiflannu eto wrth i’r modur rhuthro’n mlaen. Mewn mannau eraill mae’r ffin yn eich cofleidio o’r naill ochr. Wrth deithio o’r dwyrain yn ol i Gymru ar hyd yr ffordd ddeuol yr A40 o Ross-on-Wye i Drefynwy, mae’r satnav yn dangos fod y coedwig y gwelwch i’r de a’r gogledd yng Nghymru, yn ogystal o’ch blaen i’r gorllewin. Mae’r hewl yn eich arwain yn ol ac ond y tu ol iddoch y mae Lloegr. Mae’r satnav yn gwneud y ffin yn rhywbeth tri-dimensiwn i’r ffin. O’r blaen, o deithio i lawr yr allt hyfryd hwn mond arwyddion fflat, un-dimensiwn yr awdurdod lleol a farciai’r ffin. Un darn fach tenau o fetel biwrocrataidd. Yn nawr mae’r ffin yn fyw, yn lliwgar yn y coed, yn rhan o fyd natur, yn rhywbeth real ar dair ochr i mi. Weithiau mae’r ffin yn mynd a dod o fewn chwinciad (a dod yn ol eto) ar rhewl cyflym fel yr A483 rhwng Croesoswallt a Wrecsam). Dro arall, mae yno efo chi am filltiroedd. Er enghraifft, o deithio i’r dwyrain ar yr A4113 o Dref y Clawdd i Lwydlo mae’r ffin i’r gogledd ohonoch, yr ochr draw i fryncin hir am rhyw 8 i 10 funud o’r daith, a chithau’n ymlwymbro’n araf ar hewl fach lon sengl ar hyd rhyw rhimyn fach o dir Cymreig sy’n ymledu i fewn i Loegr. Beth sydd i ddiolch am y gwasanaeth hyn? Wel, mae fy hen satnav Garmin i yn rhestru Cymru, Lloegr a’r Alban fel gwladwriaethau ar wahan. Pwy a wyr pam. Efallai fod un o weithwyr Garmin yn eu pencadlys yn Kansas yn ystyried y tair wlad fel tair ar wahan. Erbyn hyn, dwi’n credu fod Garmin wedi ‘tacluso’ hyn a dwi ddim yn credu fod y ffin ‘rhyngwladol’ i’w weld bellach. Ond mae’n ddigon real ar fy nheclyn i!

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa