Bargyfreithiwr Gwion Lewis yn annerch Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn Llangefni ar Fawrth 1af 2014

| 17-02-2014 9:27 pm

Cyfarfod Blynyddol, Cynghrair Cymunedau Cymraeg

10yb, Dydd Sadwrn Mawrth 1af yn Oriel Môn, Llangefni

Am fanylion pellach, cysylltwch gyda Chydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg sef David Wyn david@cymunedau.org neu ffoniwch 02920 486 469

www.cymunedau.org

www.twitter.com/cynghrair

http://facebook.com/cymunedaucymraeg 

Er gwybodaeth, daw cynsail y cysyniad o Wlad y Basg!

Ceir cyfle i wrando ar un o enwau fwyaf adnabyddus diwylliant Cymru ar Ddydd G?yl Dewi eleni, wrth i Gynghrair Cymunedau Cymraeg groesawu'r bargyfreithiwr lleol Gwion Lewis i Oriel Môn i'w gyfarfod blynyddol yn Llangefni.

Bydd cynrychiolwyr gwahanol gymunedau a mudiadau yn trafod sut y gallan nhw efelychu cyrff fel Cyngor Gwynedd sy’n gwneud eu gwaith mewnol drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cael effaith positif ar sefyllfa’r iaith ar lefel gymunedol. Mae newidiadau o dan Fesur y Gymraeg a basiwyd yn y Cynulliad yn 2011 yn galluogi rhagor o gyrff fabwysiadu polisi uniaith Gymraeg.

Medd Gwion Lewis, a gafodd ei fagu yn Llangefni:

"Mae'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn hawl elfennol ac mae'n holl bwysig bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn deall sut y gall y gyfraith eu cefnogi yn eu hymdrechion i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau."

Dwedodd Cadeirydd Cynghair Cymunedau Cymraeg Craig ab Iago:

“Rydyn ni’n grediniol y gall cymunedau eu hunain, wedi eu grymuso gan y ddeddfwriaeth newydd, fabwysiadu polisiau iaith blaengar er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ar lefel gymunedol. Bydd yna groeso cynnes i aelodau hen a newydd i’n Cyfarfod Blynyddol eleni, a hoffwn gydnabod llwyddiant y Gynghrair wrth ddenu cynifer o grwpiau cymunedol o hyd a lled Cymru i’n haelodaeth. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyfarfod yn rhoi’r hyder i’n haelodau y gallan nhw weithredu’n uniaith Gymraeg o dan y ddeddfwriaeth newydd. Gobeithio y byddan nhw’n arwain y blaen i gymunedau ar hyd a lled y wlad.”

Mae gan Gynghrair Cymunedau Cymraeg ddeugain o aelodau sydd am rymuso eu cymunedau wrth sicrhau twf i’r iaith yn lleol.

Prif destun cyfarfod dydd Sadwrn Mawrth 1af yw ‘Gweithredu yn Fewnol yn Gymraeg’; bydd yna groeso arbennig i unrhyw gynghorwyr lleol neu gynrychiolwyr cyngor cymuned sydd am wybod mwy am sut i sicrhau’r hawl yma yn sgil y newidiadau sirol sydd wrth law dros Gymru gyfan. Bydd yna hefyd gyfle i drafod effaith cynllunio tai ar gymunedau Cymraeg, ac i chi godi ymwybyddiaeth themâu eraill sy’n effeithio cymunedau ein gwlad.

>>>

Egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg

1. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio er mwyn creu ymwybyddiaeth genedlaethol o’rrealiti nad oes dyfodol i’r Gymraeg heb yr ardaloedd hynny lle mae’n dal yn iaith fyw.

2. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio i addysgu mewnfudwyr a’u cymhathu fel bodmodd iddynt gyfoethogi ein cymunedau.

3. Gallwn annog cydweithrediad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng ycymunedau hynny sy’n rhan o’r cynghrair.

4. Gallwn gydweithio er mwyn sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu eincymunedau.

5. Gallwn sicrhau fod pob cymuned yng Nghymru yn gwireddu ei photensial ac ybyddwn yn gweld cynnydd yn y canrannau fydd yn siarad Cymraeg.

6. Gallwn gyd-ymgyrchu i sicrhau fod gan bawb yn ein cymunedau yr hawl igyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

7. Gallwn sicrhau fod anghenion addysgol ein cymunedau yn cael eu gwireddu.

8. Anelwn am wneud y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd pob dydd.

9. Rhaid sicrhau fod ein Cynghorau Sir a Chymuned a sefydliadau eraill yngweithredu trwy’r Gymraeg.

10. Cydweithiwn i herio grym y farchnad rydd sydd yn tanseilio ein bywydau amynnwn fod yr economi yn cryfhau’n cymunedau.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa