A Oes Gofal am yr iaith?

| 14-01-2015 10:29 pm

Cynhwysiant ieithyddol yw thema Cynhadledd #Etifeddiaith Cynghrair Cymunedau Cymraeg D. Sadwrn yma yng Nghyngor Tref Aberystwyth  Bydd y gynhadledd [Sa 17.1.15] yn agor am 11yb gyda’r cyfle i adolygu fframwaith iaith Cyngor Gofal Cymru: “Mwy na Geiriau”.  Mae iaith yn lawer fwy na geiriau, mae’n arddangos priodweddau ac anghenion cyfathrebu ei siaradwyr. Bydd yna parhad â’r drafodaeth am ein hymgyrch #DatblyguYBoblLeol yn sesiwn y prynhawn. Bydd ein haelodau am i ni hela ein llythyr at y Gweinidog Carl Sargeant wedi iddo addo i wella’r darpariaeth i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio arfaethedig?  “Dros y byd, mae diwylliannau yn ceisio datblygu wrth i hen ymerodraethau dod i ben. Buasai llais cryf i’n cymunedau Cymraeg mewn pob agwedd o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys y Bil Cynllunio yn gychwyn newydd i’r iaith eleni.” - Cadeirydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg Craig ab Iago bydd yn arwain y trafod.  Ers cyn cof, mae’r iaith Gymraeg wedi bod mewn brwydr i gadw ei hegni, ei llais unigryw a’i defnydd wrth i ormes ar ôl gormes drechu tir Cymru – pa mor amlwg buasai ein hetifeddiaeth heb yr iaith Gymraeg tybed? A daw’r cyfle i gael Senedd Gymunedol Wledig yn nyfodol ein cymunedau? Dyna destun trafod Shan Ashton o Ganolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor. Croeso cynnes i bawb!

Mae Cynghrair Cymunedau Cymraeg eisoes wedi danfon llythyr at sylw Pwyllgor Amgylchedd y Senedd ynglŷn â’r Bil Cynllunio (gweler isod). > Dydd Mawrth, Ionawr 13 2015 Annwyl Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Ysgrifennwn atoch parthed cynnwys Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru. Ein cred yw, bod yn rhaid creu trefn cynllunio sy'n ateb anghenion Cymru – gan gynnwys daclo tlodi, diogelu ein hamgylchedd, a chryfhau ein hiaith gynhenid; sef y Gymraeg. Bregus tu hwnt yw sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol erbyn hyn, felly mae’n rhaid i chi alluogi ein cynghorwyr i ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail effaith iaith. Nid oes modd datrys hyn heb ddeddfwriaeth. Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai'n peryglu ein gallu i gryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau am genhedlaeth a mwy. Buasai hynny yn difrodi’r Gymraeg am byth yn rhai mannau – felly buasai diffyg ymdrech ar eich rhan chi yn awr yn galw brain angau at frwydr yr iaith, mi ofnwn. Rhaid felly ystyried a ydych yn wirioneddol barod i daro’r ergyd farwol i’r iaith mewn cymunedau sy’n dal i fod yn gymunedau sy’n cynnal y Gymraeg ar hyn o bryd. Rhaid yw, cynllunio ar sail y gymuned ac nid ar sail anghenion datblygwyr masnachol di-enaid ac mae’n rhaid i benderfyniadau cynllunio y dyfodol bod o fudd i’r economi leol drwy ystyried yr anghenion lleol. Er mwyn dyn, defnyddiwch ddeunyddiau cynaliadwy lleol er mwyn cryfhau’r strwythurau cynhyrchu a chyflenwi dros bob cwr o Gymru ac i gryfhau’r economi. Pryderwn sut mae'r Bil yn cynnig canoli grym yng Nghaerdydd; credwn y dylai fod gan gynghorau'r rhyddid i bennu targedau tai yn annibynnol o'r Llywodraeth yn ganolog. Eto, mae rhaid i fframwaith y Bil ddatganoli'r grym hwnnw yn ogystal â chreu proses newydd sy'n ein harwain a'n cynorthwyo i asesu'r angen lleol hynny mewn ffordd drwyadl. Cytunwn felly gyda chyngor eich pwyllgor arbenigol: mae wir angen system gynllunio sy’n diogelu ein hamgylchedd, mynd i'r afael â thlodi, a chryfhau’r Gymraeg fel rhan anatod o’i bwrpas statudol. Yr eiddoch yn gywir, Tamsin Davies Ysg. Cynghrair Cymunedau Cymraeg > Am fwy o wybodaeth neu gyfweliad, cysylltwch gyda david @ cymunedau DOT org / (Caerdydd) 707 469 http://twitter.com/cynghrair http://cymunedau.org http://facebook.com/cymunedaucymraeg

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa