24-04-2014 1:54 pm | FfrwtiBot
|24-04-2014 11:02 pm | #6
|Ffrwydrad GIFs!
Oes meddalwedd syml i wneud rhai sydd ddim yn crap arlein llawn malware? Be di'r tips gorau. Gen i ambell clip dwisio GIFio.
Mae Imgur Meme Generator a Pixlr Express yn gret ar gyfer memes a delweddau sydyn.
24-04-2014 11:24 pm | #8
|Dyma'r broses dw i'n dilyn i greu GIF ond mae eisiau llinell orchymyn ar Linux. Mae croeso i unrhyw un ychwanegu canllaw hawdd.
24-04-2014 11:30 pm | #9
|Be o'n i'n arfer neud oedd creu lŵp fidios bach a wedyn trosi i GIF. Mae'n haws golygu a rheoli lwp fidio a mae'r gallu i gropio, ychwanegu effeithiau neu destun (yn dibynnu ar pa feddalwedd fideo mae rywun yn ddefnyddio).
O'n i'n defnyddio imagick ond mae'n gallu bod yn boen gyda rhai fformats.
Dwi'n sylwi erbyn hyn fod nifer o wefannau yn cynnig gwasanaeth fel hyn, fel imgflip (ond darllenwch eu termau defnydd).
Hyd yn oed yn oes band llydan y tric yw gwneud GIF sydd wedi ei gywasgu yn dda ac yn llwytho'n gyflym ac yn lwpio am byth. Yr esiampl gorau i fi o hyd yw Fat Kid Dancing.
25-04-2014 6:01 am | #10
|Oes na raglenni syml i wneud hyn? (gifs) Rhai fydde ti'n gallu defnyddio ar dy ffôn?
25-04-2014 9:03 am | #11
|Rhywun dwi'n nabod newydd awgrymu Gifmaker.me fel gwasanaeth arlein da am ddim.
25-04-2014 9:46 am | #12
|Os ydach chi isio cael lluniau i ymddangos yn yr edefyn yma gallwch chi ddefnyddio markup HTML img
Dyma un ffresh gan gwilymed ar Twitter heddiw:
25-04-2014 11:29 am | #14
|All rywun feddwl am hashnod addas ar gyfer rhannu delweddau dydd gwener?
#gifsgwener
#memesgwener
#ffrwtiffraidei!
???
Diolch!
30-04-2014 3:01 pm | #17
|Dwi'n hoffi #dyddgwen
Edrych mlaen yn barod
(Ond: Monday Blues = #pruddllun)
Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.
GIF wedi'i animeiddio OS TI EISIAU GWYBOD
