Chwilotwr Duck Duck Go ar gael yn Gymraeg

| 21-02-2014 10:53 am

Diolch i Hywel Jones am dynnu fy sylw at y ffaith bod y chwilotydd gwe Duck Duck Go ar gael yn Gymraeg:

Os mae gosodiadau iaith eich porwr wedi ei osod i'r Gymraeg yna mae'n dod fyny'n Gymraeg yn awtomatig. 

Ond pam defnyddio Duck Duck Go? Wel, mae'n gadael i chi chwilio'n anhysbys - dydi o ddim yn storio eich data fel Google, ac mae'n ceisio rhoi atebion uniongyrchol i'ch cwestiwn yn lle rhestr o ddolenni i chi drio ffeindio eich hun. 

Mae na lawer o mwy o'r cefndir tu ôl i'r cystadleuydd eofn hwn i Googl yn yr erthygl hon: 'Inside DuckDuckGo, Google's Tiniest, Fiercest, Competitor'

Ymatebion

| 21-02-2014 4:34 pm | #1

Gwirioni ar Duck Duck Go - diolch am hwn!

| 22-02-2014 11:58 pm | #2

Heb ddefnyddio fo eto, ond am roi tro arni rwan. Nes i drio Bing am chydig...urgh o brofiad oedd hwnna.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa