'Y Madogwys neu Angau!' - Trac newydd gan Gruff Rhys

| 02-03-2014 9:05 pm

Dyma'r prif drac o'i brosiect amlgyfrwng newydd American Interior, neu I Grombil Cyfandir Pell yn Gymraeg.

Mae'r albym, ffilm, llyfr, ac ap yn rhoi mynediad trawsgyfryngol i fyd Gruff a'i daith yn dilyn ôl troed John Evans, a gafodd chwilen debyg yn ei ben i fynd i chwilio am olion Madog a'i fordaith. Mae'r disgrifiad yng ngeiriau chwareus arferol Gruff ar ei wefan yn werth darllen ac yn codi blas chwaneg. 

Dyma'r fideo rhagflas Gymraeg o'r ffilm sydd wedi ei chyfarwyddo gan Dyl Goch.




Mae na hefyd gig, neu yn hytrach "ddigwyddiad pop hirfelyn tesog", yn Aberteifi ar y 3ydd o Fai. Welai chi yno os ga'i docyn!


Digwyddiad American Interior


A dyma rai delweddau eraill sydd wedi bod yn cylchredeg i roi blas pellach ar y prosiect: 


Gruff a'i gyfaill


American Interior Lleuad


American Interior Map

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa