"Yr Iaith Gymraeg a fi" - erthygl sydd werth 5 munud o'ch amser

| 07-03-2014 8:30 am

Fethais i hon y tro cyntaf rownd, ond mae'n werth rhoi sylw iddi eto. Ar ôl darllen rant fendigedig Madeley am y Gymraeg penderfynodd Paul Cornish ysgrifennu am ei brofiadau a'i deimladau o am yr iaith hefyd. Dyma flas ohoni:

Diwylliant: 
Problem arall oedd y ffaith bod y diwylliant Cymreig tu allan i’r ysgol gawson ni brofiad o yn mor crap. Roedd gan teledu i blant yn yr 80au a 90au cynnar obsesiwn rhyfedd gyda tedi bois. Syniad pwy oedd o i gwneud Jeifin Jenkins yr wyneb o teledu plant Cymraeg? Pwy oedd yn ddisgwyl i blentyn yn yr 80au uniaethu â throwback i’r 50au?! Beth arall oedd ganddyn ni? Pobl y Cwm? Sebon i oedolion. C'mon Midffîld? Er yr oeddwn i’n ifanc wnes i sylweddoli roedd Wali ddim ond yn dyn gyda sbectol a het dwp, a nad oedd yn cymeriad a oedd yn bell yn debyg i unrhyw un a oedd wedi byw erioed. Voltron wedi ei dybio yng Nghymraeg? Ie, ok, roedd hynny’n eitha dda.
Ail-ddarganfod:
Roedd o ddim ond fel oedolyn fellu wnes i dechrau gwerthfawrogi yr iaith. Wnes i ddechrau gweithio mewn amgueddfa gwyddoniaeth yn fy nghanol 20au, a bu rhaid i fi perfformio sioeau yng Nghymraeg a fynd allan i ddysgy mewn ysgolion Cymraeg. Wnes i sylweddoli fy mod wedi dechrau anghofio’r iaith tra roeddwn i yn y brifysgol, a wnes i teimlo fel yr oeddwn i’n colli rhywbeth gwerthfawr. Wnes i hefyd ddechrau gwrando i’r ddadleuon o blaid cael gwared ar y iaith a wnes i sylweddoli rhywbeth bwysig. Roeddwn nhw i gyd yn bollocks.

A nawr: 
Mae’r iaith yn fel darn o fy ngartref wedi ei glymu i fy mersonoliaeth. Roedd rhaid i fi bron a colli yr iaith er mwyn sylwi pa mor pwysig oedd o i fi. 
Darllenwch y cyfan, a rhowch sylw ar flog Paul. 


Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa