Mae Wenglish fel arfer yn cyfeirio at y tafodieithoedd o Saesneg a siaredir yn ne Cymru. Mae dylanwad gramadeg a geirfa'r iaith Gymraeg yn drwm arni, ac mae'n cynnwys nifer o eiriau unigryw.
Mae John Edwards wedi ysgrifennu'n ddifyr iawn am Saesneg y Cymoedd. Mae rhai pobl, yn enwedig pobl y tu allan i Gymru, yn defnyddio Wenglish i gyfeirio at bob ffurf ar Saesneg a siaredir yng Nghymru.
Mae rhagor yn yr erthygl ond gallai wneud gyda mwy felly ewch ati i'w olygu! Sdim rhaid creu cyfrif ar Wicipedia i wneud hynny, jest ewch amdani.
Mae yna erthygl Saesneg gyfatebol - Welsh English - hefyd sydd yn cynnwys gwybodaeth wahanol i'r un Gymraeg. Mewn gwirionedd mae hwn yn cyfeirio at dafodieithoedd ac acenion Cymreig o Saesneg yn fwy na defnydd o eiriau a gramadeg Gymraeg mewn Saesneg.
- RaD
#wicillun - dw i newydd ychwanegu adran am lenyddiaeth Wenglish