#5ayp Pump am y penwythnos

| 30-05-2014 11:00 am

Bu'r atgyfodiad yn weddol lwyddiannus! Felly, rydan ni'n ôl am rownd tŵ!

Mae Pump am y Penwythnos yn syml iawn: mae un aelod o'r gymuned yn dewis pum cwestiwn, i'w cyhoeddi ar y wefan fore Gwener er mwyn i bawb arall gael eu hateb. Mae'r awdur yn ateb nhw gyntaf fel arfer. Mae rhywun newydd wedyn yn cynnig i wneud pum cwestiwn y dydd gwener canlynol. Acynyblaen. 


Wythnos yma, mae @bethan_wil wedi gosod y pum cwestiwn!

1.Hoff linell o gân?

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd

4.Gwasga Ctrl+V

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?


Reit, ati i'w hateb gyfeillion. #5ayp


Ymatebion

| 30-05-2014 3:04 pm | #1

1.Hoff linell o gân?
“Ysu am gael bod yn oer a theimlo gwres hyfryd yr haul” – Plant Duw – Byw ar Gwmwl

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd
Rhaint/Nain sydd yn ‘neud stumiau mwyaf brwdfrydig wrth wylio’u pant/wyrion

4.Gwasga Ctrl+V
e-bost gwaith sydd wedi bod drwy spell-checker!

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?
The Bell Jar – Sylvia Plath

| 30-05-2014 3:35 pm | #2

1.Hoff linell o gân?

"Ti'n fwy pwysig na'r iaith Gymraeg."

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

Stringfellow Hawke, oherwydd myddarffycin AIRWOLF.

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd

Na. Gormod o gystadlu yng Nghymru.

4.Gwasga Ctrl+V

Stringfellow Hawke

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?

Old Man's War, John Scalzi

| 30-05-2014 3:37 pm | #3

(Werth rhoi'r hashnod #5ayp yn teitl y cofnodion yma?)

| 30-05-2014 3:51 pm | #4

Wedi newid y teitl. Dyla'r hashnod ddod fyny wrth pingio Twitter rwan. Diolch!

| 30-05-2014 9:36 pm | #5

1.Hoff linell o gân?

I remember that time you told me you said
"Love is touching souls"
Surely you touched mine
'Cause part of you pours out of me
In these lines from time to time

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

Edina Monsoon achos ma ganddi lot o ddillad tynn amryliw a mae'n edrych fel bo hi'n cael lot o hwyl efo'i ffrind gore. Dwi hefyd yn genfigennus iawn o'i thÿ enfawr chwaethus yn Notting Hill.

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd

Beirniadu

4.Gwasga Ctrl+V

Seriws, jyst y gân Joni Mitchell eto gei di.

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?

Nevada gan Imogen Binnie

| 30-05-2014 10:23 pm | #6

1.Hoff linell o gân?

Cofio alawon ond byth yn gallu cofio geiriau!

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

Kaneda o Akira, jest i gael reidio'r motobeic coch na drwy Neo-Tokyo

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd

Ddim newydd, addasiad. Jest tynnu'r canu o gerdd dant, a beirniadu'r gurn.

4.Gwasga Ctrl+V

1.Hoff linell o gân?

2.Cymeriad ffilm/cyfres hoffet ti fod+pam?

3.Cystadleuaeth Steddfod newydd

4.Gwasga Ctrl+V

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?


Ym...

5. Llyfr gorau i ti ei ddarllen eleni?

Heb orffen yr un nofel...ond wedi joio pori yn O Gader Idris - Detholiad o Ysgrifau'r Parch O.M. Lloyd. Hanes Dolgellau, Cymru a'r byd dros sawl degawd drwy lygaid dyn craff a choeth.

| 30-05-2014 10:46 pm | #7

Sara Huws > 3.Cystadleuaeth Steddfod newydd
Beirniadu

Ma'r dychweliad 'di torri fy enaid.

{}{;];[;<><:@:''{}()(*&^&^&:::'''@@@

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa