Mae'n ddiwedd wythnos felly mae Ffrwti'n galw arnoch chi i greu memes, photoshops, fideos, GIFs a ballu er mwyn dod â llawennydd i'ch desg swyddfa.
Postiwch ar Twitter efo'r hashnod #dyddgwen, ar dudalen Facebook Ffrwti, neu yn y sylwadau ar y cofnod hwn. Nawn ni drio eu tynnu nhw at ei gilydd yma cyn diwedd y dydd.
Angen ychydig o ysbrydoliaeth?
Wel, mae diffyg llafariaid yn enwau gwleidyddion Cymru yn un sy'n mynd i sbarduno'r hylifau creadigol ynddoch chi.
Crewch un eich hun.Ac wrth gwrs, rydan ni'n croesawu unrhyw fath o memes, gifs a fideos sy'n dod a gwên i'r wyneb.
Rhai gwirion...

Rhai diwylliannol...

Dydw i ddim yn siŵr o le mae'r rhain wedi dod yn wreiddiol, ond tynnwyd nhw i mewn i fan hyn oddi ar dudalen Facebook
Memes Cymraeg.
Ewch amdani bobl! A #dyddgwen hapus i bob un ohonoch.
Fel arfer dyma'r tŵls angenrheidiol:
Google Image Search,
Pixlr,
Imgur Memegenerator,
Gifmaker.
- LG
Sai'n siŵr be' wy'n trio gweud wrth hwn...
