Ond mae 'na un peth sy'n dod i'r amlwg pob tro y bydda i'n meddwl am hyn ac yn ei drafod gyda phobl eraill. Dydy’r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc Cymraeg ddim yn cynnig digon o ganu pop, neu i ddefnyddio term Dafydd Du 'canol y ffordd' iddyn nhw. Mae gan pob diwylliant ei ganu pop, syml, sy'n hawdd gwrando arno. Hwn sy'n denu'r gwrandawyr yn gyntaf, er mwyn eu harwain at y pethau sy'n fwy at chwaeth bersonol.
Fy obsesiynau cerddorol cyntaf i oedd Hogia'r Wyddfa, Eden, Steps ac Avril Lavigne (yn y drefn yna). Trwy'r rhain y gwnes i ddod i i glywed am lawer iawn o'r artistiaid dw i'n gwrando arnyn nhw heddiw. Does gen i ddim cywilydd cyfaddef mai drwy Avril Lavigne y cefais i i wybod am gerddoriaeth Nirvana, Bob Dylan, Alanis Morrisette a Willie Nelson er enghraifft, nac ychwaith cyfaddef fy mod i dal i wrando ar Sk8er Boi. Dw i'n siŵr petawn i'n gorfod gwneud rhestr o 10 albym sydd wedi siapio pwy ydw i heddiw, mi fyddai 'Let Go' gan Avril Lavigne arni.
Mae pobl yn rhy barod i feirniadu rhywbeth oherwydd mai pop ydy o, ac yn enwedig felly yng Nghymru. Dydy canu pop Cymraeg ddim yn golygu bod y gerddoriaeth yn wael, yn ddiflas neu'n hollol crap. Mae yna reswm pam fod yr albymau pop hyn yn gwerthu cynifer o gopïau (rydan ni gyd wedi hen ddeall mai o'r gair 'popular' y daw 'pop'...). Mae pobl yn hoffi'r alawon, yn uniaethu â'r geiriau ac yn eu cofio nhw. Felly, mi fedrwch chi ddeall fy mod i wedi synnu gweld rhestr hir y 10 albwm Cymraeg gorau o'r 10 mlynedd ddiwethaf yr wythnos hon.
Mae ambell un o fy hoff albymau Cymraeg i ar y rhestr, ond ...
Ble mae Frizbee? [Hirnos (2004), Pendraw'r Byd (2005)] Ble mae Elin Fflur? [Cysgodion (2004), Hafana (2008)] Ble mae Al Lewis? [Sawl Ffordd Allan (2009), Ar Gof a Chadw (2011)] Ble mae Georgia Ruth [Week of Pines (2013)]? Ble mae Y Bandana? [Y Bandana (2010) Gwyn Ein Byd (2012)] Mi allwn i enwi mwy ...
Rhestrau fel hyn sy'n aml iawn yn cyflwyno cerddoriaeth i bobl. Er bod gan bob un o'r albymau a gyrhaeddodd y rhestr eu rhinweddau, ai nhw yw'r goreuon o'r deng mlynedd diwethaf? Na. Ydy'r rhestr hwn yn fy argyhoeddi i ei fod yn gynrychioliad teg o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg y ddegawd ddiwethaf? Na. Ydy'r rhestr hwn am ddenu pobl newydd i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg? Na.
Rhestr ar gyfer y gynulleidfa bresennol yw hon.
Wrth reswm, fedra i ddim dweud wrthoch chi be' ydy'r 10 albym gorau o'r ddegawd ddiwethaf, heb wneud ymchwil trylwyr. Mae gen i fy ffefrynnau, ond dydy hynny ddim yn eu gwneud nhw'r goreuon. Dw i'n credu mai dyma y mae angen i gyhoeddwyr a chynhyrchwyr ei gofio wrth lunio'r rhestrau hyn: mewn diwydiant mor fychan, lle mae pawb yn 'nabod pawb, weithiau mae rhoi chwaeth bersonol a theyrngarwch i un ochr a gadael i werthiant wneud y dewis drostyn nhw yn gwneud lles.
Gadawais sylw ar y cofnod gwreiddiol