GWYLIWCH Gilbern - yr unig wneuthurwr ceir o Gymru!

| 28-11-2014 12:00 pm

Mae Archif ITV Cymru yn parhau i ryddhau clipiau o safon uchel ar eu sianel YouTube. Y tro hwn, ceir Cymreig Gilbern sydd yn cael y sylw:

Mae Gilbern yn cael ei weld fel yr unig gwneuthurwr ceir 'Cymreig'. Gyda'r bathodyn draig goch, cynhyrchwyd eu ceir ger Llantrisant rhwng 1959 ac 1974. Mae'r clip yma'n nodi lawnsiad yr Invader Mk3 yn ffatri'r cwmni yn Llantilltud Faerdre ym 1972, ac yn cynnwys cyfweliad hefo'r rheolwr, Michael Leather.

Ydi cael gwneuthurwr ceir o'ch gwlad yn eich gwneud yn wlad go iawn?


Dyma un o'i logos ond ni y ddraig sydd ar y car yn y fideo:

 

 - RaD

Ymatebion

| 29-11-2014 7:13 pm | #1

Diddorol! Rwy'n cofio Rhodri Morgan yn dweud ei fod hi'n wendid mawr nad oes gennym ffatri ceir, yn enwedig o'u cymharu o'u cymharu a Slofacia, sydd a nifer ohonynt.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa