Animeiddiwr yn seilio ffilmiau ar y Mabinogi

| 06-01-2015 10:44 am

I un artist o Sir Benfro, y Mabinogi yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o dair ffilm wedi eu hanimeiddio. Mae Gemma Green-Hope yn animeiddiwr sy'n creu ffilmiau byrion gan ddefnyddio amryw eang o dechnegau a themau.


Ar ol gweithio dilyn trywydd Dylan Thomas o amgylch ei hoff lefydd yn Abertawe a chreu cofeb-ffilm am ei mamgu - 'Gan-Gan' - a gyrhaeddodd dudlaen Staff Picks Vimeo, mae Gemma wedi troi ei sylw at dair o straeon o chwedlau'r Mabinogi, gan rhoi ei stamp nodweddiadol ei hun arno. Wedi eu cefnogi gan fenter VSCO Artist Initiative, mae'r ffilmiau'n cynnwys trosleisio gan y gantores lleol Lowri Evans, gyda chynhyrchiad Lee Mason o Shimi Records yn Nhrefdraeth a cherddoriaeth gan yr artist George Manson. Dilynwch y gwaith ar y ffilmiau ar Grid VSCO Gemma ac ar ei thudalen Vimeo.




- ND

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa