Elidir Jones yn Rhyddhau Albym o'i Fyfyrdodau Bob Dydd 'ELIXIR' ar Label Tarw du

| 07-09-2015 9:38 pm

Ar ôl i yn llythrennol neb ofyn am y peth, mae’r digrifwr Elidir Jones a’r label Tarw Du wedi ymuno o’r diwedd ar gyfer undod unigryw o gomedi a cherddoriaeth. Yn elixir, y record cynta o’i fath yn y Gymraeg o bosib, (er peidiwch cymryd ein gair ni) fe fyddwch yn cael eich tywys ar daith blith-draphlith drwy feddwl Elidir wrth iddo fwydro’n hirwyntog am bynciau mor eang â’r Beibl, ffilmiau Indiana Jones a thoiledau cyhoeddus Abertawe. 

A gyda hud a lledrith cerddorol wedi ei sbrinclo’n hael dros bob un trac, mae’n record sy’n siŵr o godi gwên. Neu, rhowch o fel hyn; mae'r albym yn para bron awr felly os newch chi ei roi mlaen yn eich car ar ben pella'r A470, ar ôl tua tri gwrandawiad a hanner, mi fyddwch wedi cyrraedd pen arall y ffordd enwog 'pan Gymru' (yn dibynnu yn union ar lle yde chi'n mynd wrth gwrs). Os liciwch chi, meddyliwch amdano fel rhaglen hir Radio 4 yn y Gymraeg. Ond heb Stephen Fry yn troi fynu bob pum munud.

Dywedodd Elidir:

 

Byddwch yn rhagorol i’ch gilydd. A phartïwch ymlaen, dŵds”

 

A hefyd:

 

I fod yn berffaith onest, dwi isio cropian i mewn i dwll yn y llawr ac aros yna”

 

Gweler fidio gan Elidir yn esbonio mwy am yr albym fama:

 



Gellir hefyd clywed a gweld doniau eraill Elidir fel aelod o'r band Plant Duw, fel cyflwynydd ag adolygydd gemau fidio ar ei safle we http://fideowyth.com/ yn ogystal a gallu darllen ei waith yn ei nofel newydd Y Porthwll fydd allan o fis Medi 2015 ymlaen – llyfr am ddau fersiwn o'r un cymeriad sy'n bodoli mewn dau ddeimensiwn gwahanol.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa