Oes aur cyhoeddi yn Gymraeg ar-lein?

| 07-07-2014 8:07 am

Ifan Morgan Jones sy'n holi beth sydd gan 'oes aur' y wasg yn yr 19eg ganrif i'w ddweud wrthym ni am y chwyldro digidol...

Diolch i Ffrwti am y gwahoddiad i gyfrannu ambell i flogiad i’r safle. Y gobaith yw cyhoeddi un yr wythnos, ond os oes ryw ddatblygiadau cyffrous yn dal fy llygad mae’n debygol y byddaf i’n cyfrannu rhagor. Y nod yw blogio ar faterion yn ymwneud â gwleidyddiaeth, a’r iaith Gymraeg, yn bennaf. Mae modd darllen cynnwys fy mlog personol yn fan hyn.

Mae teitl y blog wedi ei ysbrydoli gan yr hen glasuron rheini, ‘Ymddiddan Rhwng Hen Ddyn Dall ag Angeu,’ ac ‘Ymddiddan Rhwng Dyn a Llyffant’.

Dros yr wythnosau diwethaf rydw i wedi bod yn darllen degau o lyfrau, a phalu drwy afrif bapurau newydd a chylchgronau, o Oes Fictoria.

Paham? Wel i ddechrau, am eu bod nhw’n ddiddorol, ac yn aml yn ddoniol. Wele er enghraifft ddisgrifiad Emrys ap Iwan o beth a welodd mewn gorsaf drenau yng Nghymru wrth ddychwelyd o’r cyfandir:

“Un o’r pethau cyntaf a welais yng Nghymru wrth ddyfod unwaith o’r gwledydd a enwyd, oedd hen wreigan o Gymraes yn gofyn rhywbeth yn y modd gostyngeiddiaf ynghylch y trên i swyddog o Sais hollalluog yr olwg, yng ngorsaf --------. Yntau yn agoryd ei lygaid, nghyd â’r twll bwyd oedd ganddo yn nghanol dreiniach cochion o dan ei drwyn; ac yna yn crychu y dywededig dwll yn y modd mwyaf diystyrllyd, a chan droi ar ei sawdl, yn myned ymaith oddi wrth yr hen wraig tàn fwngial rhywbeth am 'Welsh jargon'.

“Mi a welais lawer o rai tebyg iddo cyn ac wedi hynny; ond yr wyf yn cyfaddef tan wrido na roddais yswadan i gymaint ag un ohonynt.” (Y Geninen, 1886)

Hefyd, coeliwch neu beidio, rydw i’n darllen yr hen gyfnodolion rhain oherwydd fy niddordeb yn y chwyldro digidol yr ydym ni’n byw drwyddo ar hyn o bryd.

Mae’n swnio’n beth rhyfedd iawn i’w ddweud, ond rydw i’n credu fod gan y cyfnod hwnnw lawer iawn i’w ddweud wrthym ni am y we Gymraeg heddiw, a hyd yn oed gwefannau fel Ffrwti.com.

Mewn sawl ffordd roedd eu hamgylchiadau nhw yn reit debyg – roeddynt yng nghanol chwyldro ym maes technolegau cyfathrebu, gyda’r wasg brint, y telegram, a’r trên stêm yn golygu bod Cymru  mewn cysylltiad â gweddill y byd fel erioed o’r blaen.

Serch hynny, ni foddwyd y Gymraeg dan don o gyhoeddiadau Saesneg – nid yn syth bin, o leia’.

Roedd hynny o ganlyniad i ymdrechion miloedd o bobl gyffredin oedd yn ymroi’n ddi-dâl ac yn aml iawn yn gwneud colled er mwyn cyhoeddi deunydd yn Gymraeg.

Y nhw oedd blogwyr eu dydd, yn golygu a chyhoeddi eu gwaith ar weisg print elfennol. Wrth droi at dudalen flaen nifer o’r cyhoeddiadau rhain, fe welwch chi eu bod nhw wedi eu golygu a’u hargraffu gan yr un person.

Cymaint oedd eu hymdrech, ystyrid ail hanner yr 19eg ganrif yn ‘oes aur’ y wasg Gymraeg gan nifer.

Cylchgronau fel y Geninen oedd ‘Ffrwti’ eu dydd, yn darparu llwyfan ar gyfer trafodaethau crefyddol (yn fwyaf aml), gwleidyddol (yn aml), llenyddol (o dro i dro) a gwyddonol (ambell waith).

Nid oedd e-byst bryd hynny wrth gwrs, felly byddai golygyddion megis Eifionydd (John Thomas) yn crwydro Cymru yn hambygio pobl i gyfrannu i’w cylchgronau. Dychmygwch Rhodri ap Dyfrig locsynog yn troi i fyny y tu allan i’ch tŷ ar noson stormus am 11pm, yn gofyn i chi gyfrannu at Ffrwti. Roedd Eifionydd yn enwog am boeni pobl yn hwyr yn y nos, hyd yn oed ar ôl iddynt fynd i’w gwlâu.

Fe ffynnodd y wasg Gymraeg yn rhannol o ganlyniad i ymdrechion y golygyddion a’r cyfranwyr hyn - ond hefyd oherwydd bod y gallu i gyhoeddi yn agored i bawb.

Doedd braidd dim arian mewn cyhoeddi yn Gymraeg (doedd grantiau gan y Cyngor Llyfrau ddim yn bod bryd hynny), ond mewn byd lle’r oedd odd cyhoeddi yn rhad iawn, doedd dim ots am hynny. Roedd pobl yn fodlon sgwennu, am ddim, er mwyn cael cymryd rhan yn y drafodaeth fywiog a geir yn y wasg.

Y Chwyldro Digidol

Cwta 50 mlynedd ar ôl ei dechrau daeth yr ‘oes aur’ i ben. Erbyn troad y ganrif fe fasnacheiddwyd y wasg, ac fe gynyddodd pris papur a gweisg print. Monopoleiddwyd y farchnad gan bapurau newydd mawr Llundeinig oedd yn gallu gwerthu papurau newydd o safon uwch am brisiau rhatach. Ni allai’r hen wasg Gymraeg gyda’i gyfranwyr amatur gystadlu mwyach.

Os yw llwyddiant y wasg Gymraeg yn ail hanner yr 19eg ganrif yn symbyliad i ni heddiw, fe allai digwyddiadau dechrau’r 20fed fod yn rhybudd, hefyd.

Ar hyn o bryd mae’r we yn hybu’r Gymraeg mewn sawl ffordd – yn cynnig llwyfan i ni drafod yn rhydd â'n gilydd nad oedd ar gael yn y gorffennol.

Ond eisoes mae awgrymiadau mai cael ein ‘fasnacheiddio’ y bydd y rhyngrwyd, yn yr un modd a’r diwydiant print ddechrau’r 20fed ganrif, os nad yn yr un modd.

Eisoes y mae cwmnïau megis Google a Facebook yn dechrau rheoli mynediad eu defnyddwyr at wybodaeth, er eu budd ariannol eu hunain. Ar yr un pryd mae gwasanaethau newyddion masnachol yn buddsoddi rhagor o arian mewn appiau aml-blatfform sydd ben ac ysgwydd uwchben unrhyw beth all y dyn cyffredin ei gyflawni.

Mae newyddiadurwyr bellach yn deall mai'r ffordd orau iddynt gystadlu â’r rhyngrwyd ‘rhad ac am ddim’ yw buddsoddi'r arian mawr mewn cynnig deunydd o safon uwch nag all unrhyw un arall gystadlu ag o.

Dyna fel y mae’r farchnad rydd yn gweithio, wrth gwrs - a bydd cwsmeriaid yn croesawu hynny.

Ond y peryg yw y bydd y datblygiadau diweddaraf yn gadael y Gymraeg ar ôl, yn union fel y gwnaeth y diwydiant print, y radio, y teledu a’r cyfryngau torfol masnachol eraill ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Mae’n berffaith bosib felly ein bod ni’n byw drwy ein ‘hoes aur’ ein hunain, yr eiliad hon. Bydded i ni wneud y gorau ohono, a chyfrannu fel y gallwn ni at wefannau fel Ffrwti a’u tebyg, tra bod y llwyfan ar gael a’r gynulleidfa’n gwrando. Fe allai’r cyfnod euraid yma yn hanes cyhoeddi yn y Gymraeg ddod i ben, cyn i ni sylweddoli beth oedd gennym ni.

Ymatebion

| 07-07-2014 9:43 pm | #1

Ifan, diolch am y cofnod blog. Mae dy weledigaeth o'r dyfodol wrthi'n cyrraedd. Ar hyn o bryd mae gorddibyniaeth ar wirfoddolwyr i greu pethau digidol yn Gymraeg. Mae ymchwil yn dangos bod y Gymraeg bron yn anweledig i'w chynulleidfa graidd.
https://twitter.com/carlmorris/status/145096020...

Dyma pam mae angen buddsoddi mewn darparydd proffesiynol newydd.
http://cymdeithas.org/blog/pwy-sydd-eisiau-darp...

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa