Y dwymyn hyper-lleol

| 14-07-2014 9:31 am

Ifan Morgan Jones sy'n holi a yw newyddion hyper-lleol yn cyfiawnhau'r heip...

O ganlyniad i fy swydd yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor rydw i’n clywed neu’n darllen llawer iawn am newyddion ‘hyper-lleol’ (neu tra-leol) bob wythnos. Mae’r pwnc yn destun afrif gynadleddau, papurau a gweithdai. Y syniad craidd yw y bydd safleoedd newyddion digidol sydd wedi eu cynnal yn bennaf gan dyst-newyddiadurwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl neu’n rhan-amser yn llenwi’r bwlch a adawyd gan bapurau lleol. Mae safleoedd newyddion ‘tra-leol’ yn canolbwyntio naill ai ar ofod daearyddol cymharol fychan, neu ar bwnc penodol o fewn ffiniau ehangach, e.e. iechyd, neu'r amgylchedd. Rydym ni yng Nghymru wedi bod yn weddol weithgar yn hyn o beth - mae yna ganolfan wedi ei sefydlu yn Ysgol Newyddiadurol Prifysgol Caerdydd sy’n astudio’r pwnc mewn manylder, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymgynnull sawl cyfarfod i’w drafod.
 

Rhaid cyfaddef nad ydw i wedi datblygu barn aeddfed ar y pwnc. Rydw i’n gobeithio cael yr amser i’w astudio mewn rhagor o fanylder academaidd yn hwyrach ymlaen eleni. Ond er gwaethaf yr ‘heip’ sy’n amgylchynu newyddion hyper-lleol, mae gen i amheuon – yn enwedig felly yng nghyd-destun Cymru.

 

Heb yn wybod i mi ar y pryd, gan nad oeddwn i wedi clywed am y cysyniad o newyddion ‘tra-leol’, mi’r oedden ni yn nyddiau cynnar lansio gwefan Golwg 360 ar fin sefydlu gwasanaeth o’r math hwnnw ein hunain. Y bwriad i ddechrau oedd torri Cymru yn sawl stribyn o dir, a chynnig i’r defnyddwyr a oedden nhw am weld newyddion o’r cyfan o Gymru neu o’u ‘patsh’ nhw yn unig. Oherwydd cyfyngiadau technegol bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r syniad bryd hynny, ac roeddwn i hefyd yn bur ansicr a fyddai modd i’n tîm bychan ni o newyddiadurwyr gynhyrchu digon o newyddion i ddarparu cynnwys ar gyfer pob ardal (roedd yna dros 50 ohonynt i gyd). Serch hynny mae Golwg 360 yn parhau yn weithgar yn y maes ac rwy’n deall fod ganddynt sawl cynllun diddorol ar y gweill.

 

Mae fy amheuon am newyddion tra-leol yn syrthio i ddau gategori. Y cyntaf yw ein bod ni’n rhoi’r gert o flaen y ceffyl yn canolbwyntio ar newyddion lleol, tra bod ein gwasanaethau newyddion cenedlaethol Cymreig ni mor affwysol o wan. Yr ail yw bod Cymru eisoes yn lle cymharol fychan, a drwy fynnu ei dorri yn ddarnau llai fyth rydym ni’n dyfnhau rhwygiadau daearyddol a diwylliannol y wlad yn hytrach na’u pontio.

 

Yr eironi wrth gwrs ydi ein bod ni eisoes yn dda iawn am gynhyrchu newyddion tra-leol yma yng Nghymru - ychydig yn rhy dda, yn fy nhyb i. Mae’r papurau bro yn esiampl barod, ac mae sawl un eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n cynnig patrwm y gellid ei efelychu ar ffurf ddigidol. Rydw i’n gwbl gefnogol i hynny. Ond o edrych ar hanes y cyfryngau yng Nghymru daw’n amlwg i mi bod gormod o bwyslais wedi ei roi ar newyddion lleol, a rhy ychydig ar newyddion cenedlaethol. Drwy gydol hanes mae Cymru wedi ei hollti gan rwygiadau o bob math - rhai daearyddol, rhai diwylliannol, a rhai enwadol. Roedd gan bob enwad ei gylchgrawn, doedd papurau'r gogledd ddim yn gwerthu yn y de, doedd llyfrau Cymry’r cymoedd diwydiannol ddim yn gwerthu yng nghefn gwlad. Y rhwygiadau hyn oedd un o’r prif resymau, yn fy nhyb i o leiaf, pam fethwyd a ffurfio mudiad cenedlaethol yn yr 19eg ganrif fyddai wedi gallu sicrhau dyfodol sicrach i’r iaith Gymraeg. Ond mewn oes lle mae modd i fi agor y Rio Times ar fy iPad er mwyn darllen eu hymateb nhw i ddigwyddiadau Cwpan y Byd, does dim angen bod mor blwyfol. Mae’r gwahaniaethau rhwng gwahanol rannau o Gymru wedi eu gorliwio erioed. Yn y byd amlddiwylliannol, amlgenhedlig cyfoes, mae Cymru yn wlad hynod o unffurf ei gwedd, ac fe ddylai dyn o Abersoch allu cymryd diddordeb mewn pethau a ddigwyddai yn Aberteifi.

 

Mae gennym ni bellach Senedd ym Mae Caerdydd gyda llawer iawn o rymoedd, a chanran bach o boblogaeth y wlad sydd â diddordeb ynddi ac yn deall sut mae’n gwethio. Dyw’r academyddion sy’n trafod y broses o greu cenhedloedd yn gallu cytuno ar braidd dim, ond un peth y maent yn cytuno arno yw bod gwasg genedlaethol yn greiddiol i’r broses. Yn anffodus does dim y fath beth yn bodoli yng Nghymru - mae gennym ni doreth o newyddion tra-leol, a hefyd toreth o newyddion Prydeinig a Rhyngwladol ei naws - ond dim jam coch cenedlaethol Cymreig rhyngddynt. Cyflwynir newyddion Cymru gan y BBC fel isadran ranbarthol i’r ‘mothership’ Prydeinig, ryw fath o ‘and finally...’ ar ôl y prif benawdau. Er ei fod yn honni bod yn bapur cenedlaethol, dyw cylchrediad y Western Mail ddim yn ymestyn llawer pellach na Sir Gaerfyrddin, ac mae’r Daily Post wedi rhoi’r gorau i werthu copïau yn y de. Rydyn ni siaradwyr Cymraeg yn lwcus o gael Newyddion 9 ar S4C, Barn, Golwg a Golwg 360 - does gan y Cymry di-Gymraeg ddim byd i’w huno yn un ‘cymuned ddychmygol’ o’r fath.

 

Mae tra-leol yn golygu rhywbeth gwahanol mewn gwledydd gwahanol. Clywir Americaniaid yn crybwyll gwasanaethau newyddion sy’n ymestyn ar draws taleithiau cyfan fel rhai ‘tra-leol’. Yn ôl eu hamcangyfrif nhw, fe fyddai’r Western Mail a’r Daily Post yn wasanaethau tra-leol. Ond wrth drafod newyddion tra-leol yng Nghymru mae beth a olygir gan ‘lleol’ yn crebachu yn gyflym iawn. Ystyrid Dyffryn Ogwen yn un ardal, Bangor yn un arall. Mae ffin yn gwahanu Llanwenog a Llandysul. Tybir na fyddai gan drigolion Rhondda Fawr ddiddordeb yng ngweithgareddau Rhondda Fach. Rhaid cyfaddef, pe bai ein cynlluniau gwreiddiol ar gyfer newyddion tra-leol yn Golwg 360 wedi eu gwireddu, fe fyddwn i yn pasio drwy wyth ardal wahanol ar fy nhaith wythnosol i Fangor. Rydw i’n tueddu i ochri â’r Americanwyr yn hyn o beth - mae talaith Vermont yn hen ddigon bach ar gyfer un gwasanaeth tra-leol.

 

Hyn a hyn o egni a brwdfrydedd sydd yng Nghymru ar gyfer cynnal prosiectau newyddiadurol o’r math yma. Does yna ddim y gefnogaeth ariannol, y dalent newyddiadurol, yr hysbysebion, na’r newyddion i gynnal degau o safle diddorol a hyfyw. Mae’n wir y gellid sefydlu llawer i wefan hyper-leol o safon isel yn ddigon hawdd, ac yna cysuro ein hunain ein bod ni unwaith eto wedi llwyddo i gadw i fyny gydag ysbryd yr amserau. Ond yn hytrach nag ymboeni ynglŷn â beth mae’r Americanwyr a’r Saeson, beth am gymryd cam yn ol, ac ystyried beth yw’r angen am wasanaeth newyddiadurol yng Nghymru heddiw. Ydyn ni eisiau gwasgaru ein hegni a’n brwdfrydedd mewn i ddegau o wasanaethau hyper-lleol Cymreig? Neu a fyddai o fwy o les i ni yng Nghymru ganolbwyntio ar wasanaethau cenedlaethol sy’n dal ein cyw-Senedd i gyfrif, a’n creu ymdeimlad o undod ymysg pobl? Nid ydwyf yn dweud hyn fel cenedlaetholwr - ond fel rhywun sy’n derbyn bod Cymru bellach yn genedl, gyda’i Senedd ei hun, a bod angen y cyfryngau arnom ni sy’n adlewyrchu hynny.

 

Ond fel y dywedais, nid yw fy marn ar y mater yn hollol aeddfed eto. Efallai y caf fi dröedigaeth ar y ffordd i’r post i nôl fy nghopi o’r Garthen (ta ydi Llandysul o fewn ffiniau Clonc?). Yn y cyfamser, hoffwn i glywed eich safbwynt chi ar y pwnc.

Ymatebion

| 14-07-2014 2:37 pm | #1

Dyma rhestr o'r blogiau Cymraeg sy'n ymneud â phynciau 'lleol' o ryw fath:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_lleol
Yn anffodus mae llawer ohonynt yn cysgu; hynny yw, maen nhw dal ar-lein ond ddim wedi postio cynnwys newydd yn y misoedd diwethaf.

| 15-07-2014 5:54 pm | #2

Cytuno'n llwyr fod angen cyfryngau cenedlaethol cryfach. Mae'n drueni fod y Western Mail a'r Daily Post yn rhan o'r un grwp masnachol am flynyddoedd bellach. Ar un adeg roeddynt yn ceisio enhangu ei gwerthiant yn genedlaethol trwy cystadlu ar tir ei gilydd. Byddai'n well hefyd petai newyddion nos BBC1 a ITV yn dod o Gaerdydd yn hytrach na Llundain, gan rannu llluniau'r rhwydwaith o faterion rhyngwladol a Phrydeinig ond gan rhoi'r iawn sylw i bethau Cymreig hefyd.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa