Ystadegau Eisteddfodol

| 10-08-2014 8:00 pm

Ifan Morgan Jones sy'n ystyried beth yw arwyddocâd niferoedd ymwelwyr Eisteddfod Sir Gâr...



Y duedd ddiweddaraf ym myd newyddiaduraeth yw ‘newyddiaduraeth data’ – hynny yw, defnyddio’r llwyth o ddata sydd bellach ar gael ar ffurf digidol, ei gyfuno gyda greddf newyddiadurol am beth sy’n gwneud stori dda, ac o ganlyniad creu rywbeth y bydd gan y darllenydd diddordeb ynddo. Mae yna sawl esiampl o wefannau sy’n ymdrin a newyddiaduraeth data, ac mae sawl un wedi lansio yn yr Unol Daleithiau yn y misoedd diwethaf, gan gynnwys FiveThirtyEight, Vox, ac The Upshot. Mae’r Guardian Data Blog yn esiampl o’r Deyrnas Unedig.

 

Mae wir angen gwefan o’r math yma ar Gymru, o ystyried yr amwysedd a’r diffyg archwilio manwl sy’n nodweddiadu ein newyddiaduraeth. Er enghraifft, a oedd Llywodreath San Steffan yn gywir i feirniadu’r Gwasnaeth Iechyd Gwlad, ta oedd eu ffigyrau nhw’n anghywir fel ag yr oedd Llywodreath Cymru yn ei honni? Ar hyn o bryd, dyw trigolion y wlad ddim llawer callach, achos does dim tîm o newyddiadurwyr data yn ymchwilio i’r peth.

 

Yn anffodus, er bod gen i’r trwyn am stori, does gen i ddim y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â phentyrau o ddata. Dyna ffaeledd arall ydw i’n bwriadu mynd i’r afael ag ef – mae yna y pentwr ‘pethau i’w gwneud ar ol gorffen y PhD’ (sy’n benter uchel a simsan iawn erbyn hyn).

 

Un dyn sydd yn amlwg yn meddu ar y sgil i drin a thrafod data yw Dafydd Elfryn, ac ar ei flog nad oeddwn i ynghynt yn ymwybodol ohono mae wedi creu map diddorol iawn sy’n nodi pa ardaloedd y mae’r Eisteddfod wedi ymweld â nhw dros y 150 mlynedd diwethaf.

 

Un set arall o ystadegau sydd ar gael i ni yw faint o bobl sydd wedi ymweld â’r Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddwn i wedi ysgrifennu blog am hyn y llynedd, gan nodi’r ffigyrau rhwng 1995 a 2013. Nodir isod ffigyrau terfynol yr Eisteddfod ar gyfer 2014 – mae’r rhai ar wefan Golwg 360 a BBC Newyddion ychydig yn wahanol ar rai dyddiau am ryw reswm (e.e. dydd Gwener lle mae’r BBC yn nodi bod 20,384 wedi ymweld – ond bosib mai teipo yw hwn).

 

Gwener: 1,440

 

Sadwrn: 15,615

 

Sul: 15,484

 

Llun: 16,285

 

Mawrth: 15,856

 

Mercher: 19,004

 

Iau: 18,740

 

Gwener: 24,384

 

Sadwrn: 16,694

 

Cyfanswm: 143,502

 

Wrth gymharu’r ffigyrau yma gyda rhai’r blynyddoedd blaenorol, yr un peth a ddaw i’r amlwg yw bod nifer yr ymwelwyr wedi syrthio bron i ugain mil ers Eisteddfod Llanelli 2000, pan ymwelodd 162,047 â’r maes – cwymp o 11.5%. Mae hynny ddwbl y cwymp 5% yn nifer ymwelwyr Eisteddfodau’r Bala rhwng 1997 a 2009.

 

Roedd Eisteddfodau 2000 ac 2014 ar yn union yr un maes. Roedd y tywydd yn braf drwy gydol yr wythnos eleni, a heblaw am ambell i broblem â’r drafnidiaeth ar y diwrnod cyntaf, doedd dim argyfwng mawr a fyddai wedi cadw’r torfeydd draw. Un esboniad amlwg wrth gwrs yw bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr wedi syrthio 6.4% rhwng 2001 ac 2011, yn ôl y censws diwethaf. Un esboniad arall yw bod datblygiadau ym myd technoleg bellach yn sicrhau ei fod yn haws o lawer mwynhau’r Eisteddfod heb droedio’r Maes - ar S4C, drwy’r Trydar, ap Cymru Fyw a phodlediadau a fideos Golwg 360, gwasanaeth newydd Llais y Maes, ayyb. Roeddwn i wedi ymweld ddwywaith, ar y dydd Sul a’r dydd Iau, ond heb deimlo fy mod i ‘allan o’r lŵp’ pan oeddwn i’n eistedd adref ar fy iPad, yn yr un ffordd ag y byddwn i yn nyddiau cynnar oes y we yn 2000. Un o’r prif resymau dros ymweld â’r maes yn yr oes a fu oedd er mwyn dal i fyny â hen ffrindiau - rydw i bellach yn gwybod pob manylyn diflas o’u hanes nhw drwy Facebook.

 

Yr Eisteddfod yn Newid

 

Er gwaethaf y cwymp yn nifer yr ymwelwyr, yn fy marn i Eisteddfod Sir Gâr 2014 oedd y gorau eto. Roedd y maes yn ddeniadol iawn, ac roedd yna ddigon yn mynd ymlaen i ddifyrru unrhyw oedd yn gwybod lle i edrych. Treuliais un diwrnod ar y maes gyda’r plant, ac un arall ar fy mhen fy hun. Roedd yr adloniant yn hollol wahanol - sioeau Cyw, Mudiad Meithrin a Stwnsh un diwrnod, darlithoedd wedi eu trefnu gan Lywodraeth Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig ac amryw brifysgolion y diwrnod arall - ond beth oedd gan y diwrnodiau yma yn gyffredin oedd nad oeddwn i byth yn crwydro’r maes wedi diflasu, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ac ni lwyddais i ymweld â Maes B na Gigs y Gymdeithas, lle y treuliais i fwyafrif fy amser yn yr Eisteddfod rhwng 16-25 oed, heb son am yr holl ddramau, nosweithiau comedi, a digwyddiadau allgyrsiol eraill oedd yn digwydd y tu hwnt i’r prif maes. Mae o wir yn ŵyl aml-haenog.

 

Er bod rhai pobl yn tueddu i bortreadu’r Eisteddfod fel rhywbeth hen ffasiwn, y gwir yw ei fod yn ŵyl hynod o hyblyg sy’n symud gyda’r oes heb lawer o anhawster. Yr eironi ydi ein bod ni’n tueddu i feddwl bod yr Eisteddfod yn ymgorffori gwerthoedd lled-sosialaidd y Gymru fodern, ond rhaid cofio ei fod wedi ei greu 150 mlynedd yn ôl, pan oedd rhyddfrydiaeth yn ei anterth [ceir trafodaeth am hyn yn llyfr R. Tudur Jones, Hanes Annibynwyr Cymru, 1966, tud. 269 i unrhyw un sydd â diddordeb]. Y rheswm y mae’r Eisteddfod mor hyblyg yw ei fod yn y bôn yn coleddu gwerthoedd y farchnad rydd. Cystadleuaeth ydyw, o fewn y pafiliwn ac ar y tu allan. Gall unrhyw un osod stondin, ac mae hi i fyny iddyn nhw wedyn i gystadlu am sylw'r bobl sy’n cerdded heibio.

 

Efallai nad cyd-ddigwyddiad ydyw bod yr Eisteddfod hynod fyrlymus a welwyd eleni yn gynnyrch oes pan mae arian yn brinnach nag ydoedd ddiwedd ganol yr 2000au. Bryd hynny gallai sefydliadau fforddio prynu stondin dim ond er mwyn dangos wyneb, ac wedyn eistedd yno drwy’r dydd yn yfed coffi. Rydw i’n cofio pasio rhes o stondinau fel hyn yn Eisteddfod Eryri 2005. Beth welais i eleni oedd stondinwyr oedd yn gorfod cyfiawnhau yn ariannol bod yno, ac roedd bob un fel pe baen nhw’n awyddus i gael fy sylw. E.e. cefais drafferth clywed cyfweliad ag awdur llyfr yn un stondin, achos bod Elin Fflur yn canu i ddiddanu a denu’r dorf yn y stondin drws nesa’; Bu’n rhaid i mi ddewis rhwng dwy ddarlith oedd yn cael eu cynnal yr un pryd ar begynau gwahanol i’r maes; wrth lusgo’r plant ar draws y maes ddydd Sul, daethom ar draws sawl sioe ar hap a damwain nad oedden ni hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw’n bodoli cyn hynny. Dydw i ddim yn cofio’r un o’r pethau yma’n digwydd yn Eisteddfodau’r gorffennol.

 

O beth welais i eleni, mae’r Eisteddfod yn parhau’n ŵyl ac yn sefydliad, ac yn brifddinas ysbeidiol, iachus iawn. Rydw i’n hoff o ddweud mai’r Eisteddfod yw curiad calon diwylliant y Cymry Cymraeg, sy’n cadw’r gwaed i bwmpio am flwyddyn arall, ac rydw i bob tro yn dychwelyd oddi yno wedi fy ysbrydoli ac yn awchu am gyfrannu rhagor. Yr unig her yw sicrhau bod nifer siaradwyr y Gymraeg yn tyfu unwaith eto, fel bod cynifer o bobl a phosib yn gallu ei mwynhau hi dros y degawdau nesaf.

Ymatebion

| 12-08-2014 9:29 pm | #1

Mae'r cofnod ar flog Dafydd Elfryn yn wych. Sgwn i os yw'r steddfod wedi addasu eu honiad o'r budd i'r economi leol ers i gymaint o ddigwyddiadau gael eu canoli ar y Maes?

"(e.e. dydd Gwener lle mae’r BBC yn nodi bod 20,384 wedi ymweld – ond bosib mai teipo yw hwn)."

neu ella bod nhw wedi cymryd y ffigwr o erthygl Golwg 360 ar 9.8.14:
"Daeth 20,384 o ymwelwyr i’r Brifwyl yn Llanelli ddydd Gwener. Y llynedd daeth 23,056 drwy’r giatiau ar y dydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych."
http://www.golwg360.com/celfyddydau/eisteddfoda...

Tra mae erthygl Golwg360 ar 10.8.14
"Y diwrnod prysuraf yn Llanelli oedd y Dydd Gwener, pan oedd 24,384 ar y Maes..."

Hefyd mae'r ffigwr uchod ar gyfer dydd Gwener yn Ninbych yn 2013 yn wahanol i beth adroddwyd mewn erthygl arall ar Golwg360 ar 10.8.13
"Ar ôl torf anferth o 28,237 ar y dydd Gwener,.."
http://www.golwg360.com/celfyddydau/eisteddfoda...

28,237 sy'n gywir dwi'n meddwl gan mai dyna sydd ar adroddiad yr Eisteddfod (tud 139): http://www.eisteddfod.org.uk/uploads/publicatio...

Falle mai aros nes cyhoeddir adorddiad 2014 dylwn i, ond dwi wedi ceisio diweddaru'r erthygl Wicipedia am nifer ymwelwyr.

Dwi'n siwr bod pob math o gamgymeriadau ffigyrau yn ymddangos mewn sawl papur newydd a dyw Golwg360 ddim gwaeth, ond mae'n dangos bod eisiau cymryd gofal, yn enwedig os yw pobl wedyn yn mynd i drio dod i rhyw gasgliadau yn seiliedig ar y ffigyrau.

Dwi'n siwr cynhaliwyd gweithdy/hackday data-newyddiaduraeth yng Nghaerdydd rhyw ddwy flynedd yn ol pan oedd blog Guardian Cardiff ar fynd- syniad bach ar gyfer modiwl/sesiwn one-off ym Mhrifysgol Bangor? Gwahodd rhywun fel Dafydd Elfryn neu Hywel Jones (@hywelm) i roi cyflwyniad ar sut i arddangos data ar ffurf delweddau?

Tips dod o hyd i ddata

Mae twrio ychydig ar WhatDoTheyKnow yn gallu taflu fyny pethau reit diddorol, e.e.
http://eincaerdydd.com/2012/11/09/ymweliadau-rh...
Hefyd modd chwilio TheyWorkForYou a darganfod pethau, e.e. sawl gwaith mae Stephen Crabb AS e.e. wedi holi (a rwan ateb) cwestiynau am yr iaith Gymraeg
http://www.theyworkforyou.com/search/?q=%28%22w...
Sgwn i os ydy o'n darllen copi Swyddfa Cymru oGolwg? http://www.theyworkforyou.com/wrans/?id=2012-10...

Mae dod o hyd i rhywbeth am "welsh language" ar WhatDoTheyKnow yn anoddoch achos mae'n ymddangos bod neges am yr hawl i ddefnyddio'r ddwy iaith yn ymddagnos ymhob e-bost ymateb cyrff o Gymru, sydd ddim yn help(!), ac mae lot o geisiadau niwsans, ond byddai'n ddifyr gwybod mwy am y cais hwn i honiad bod sgript sioe ysgol yn hiliol tuag at Saeson...
https://www.whatdotheyknow.com/cy/request/scrip...


Ffyrdd digon hawdd i ddod o hyd i stori fach

| 13-08-2014 6:34 am | #2

Diolch am y neges Rhys. Dyw'r ffigyrau uchod ddim yn dod o Golwg 360 na'r BBC, ond yn hytrach gan yr Eisteddfod eu hunain. Maent yn gyrru allan datganiad bob dydd yn nodi nifer yr ymwelwyr ac yn eu cymharu â nifer yr ymwelwyr ar bob diwrnod yn y blynyddoedd blaenorol, ar ffurf tabl o ffigyrau. Os yw ffigyrau yr Eisteddfod eu hunain yn anghywir, does dim llawer allai i ei wneud am hynny, gan mai nhw yw'r unig ffynhonell!

Fel wyt ti'n dweud, mae'r ffaith bod y ffigwr ar y dydd Gwener yn wahanol gan y BBC a Golwg360 yn awgrymu naill ai bod un wedi gwneud teipio a'r llall wedi ei gopio, neu bod yr Eisteddfod wedi gyrru'r wybodaeth anghywir allan i ddechrau cyn ei gywiro yn ddiweddarach. 24,384 oedd y ffigwr swyddogol erbyn diwedd yr Eisteddfod, beth bynnag.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa