A yw cenedlaetholdeb o fudd i’r iaith Gymraeg?

| 18-08-2014 7:33 am

Ifan Morgan Jones sy'n dadlau bod angen ystyried ffiniau'r iaith Gymraeg yn rywbeth llai a mwy na ffiniau Cymru...



Mae yna gysylltiad annatod rhwng ieithoedd a gwladwriaethau. Wrth i wladwriaethau modern ffurfio yn yr 18fed a’r 19eg ganrif dewiswyd un dafodiaith ymysg y nifer a oedd yn cael eu siarad o fewn eu ffiniau a’i ddyrchafu yn iaith wladwriaethol y byddai pawb yn ei siarad. Wedi’r cyfan, ni allai gwladwriaethau modern gyda’u diwydiannau trwm, poblogaethau mawr dinesig, a rheilffyrdd a thelegramau weithredu’n effeithiol os na allai’r boblogaeth gyfathrebu â’i gilydd. Y tensiwn o ran y Gymraeg wrth gwrs yw nad hi oedd iaith y wladwriaeth, ac fe aeth y wladwriaeth ati i geisio integreiddio’r Cymry i mewn i Loegr, a throi siaradwyr Cymraeg yn siaradwyr Saesneg.

Yr ateb amlwg i’r broblem hwn oedd annibyniaeth neu ymreolaeth i Gymru, a gorseddu’r Gymraeg yn iaith y wladwriaeth honno. A’r ymdrech hwnnw sy’n parhau i fynd ag amser nifer o genedlaetholwyr Cymry, y mae canran helaeth ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

Ond a yw’n bryd bellach datgysylltu ffyniant yr iaith Gymraeg oddi wrth genedlaetholdeb, y freuddwyd honno o sefydlu ein cenedl ein hunain â gwladwriaeth annibynnol neu ffederal yn ben arni? Y broblem erbyn hyn wrth gwrs yw bod , yn ôl y cyfrifiad diwethaf, llai nag 20% o’n cyd-Gymry yn siarad Cymraeg, ac felly hyd yn oed pe bai Cymru yn ennill ei hannibyniaeth, Saesneg fyddai iaith y wlad. O ystyried bod niferoedd siaradwyr Cymraeg yn debygol o barhau i edwino yn ystod y degawdau nesaf cyn bod cyfle i bleidleisio dros annibyniaeth, ni fyddai’r Gymraeg mewn sefyllfa gymaint a hynny’n gryfach nag ydoedd pan oedd miliwn y bobol yn siarad yr iaith mewn gwladwriaeth Saesneg ddiwedd yr 19eg ganrif, ar wahân i’r ffaith bod ideoleg wleidyddol arweinwyr y wlad yn tueddu i fod yn fwy ffafriol i’r iaith.

Mae gennym ni bellach ein Senedd ddatganoledig ein hunain. Senedd ‘ddwyieithog’ yw hi, ond wrth gwrs drwy’r Saesneg y mae hi’n gweithredu. Y paradocs yw na fydd hi’n gweithredu drwy’r Gymraeg nes bod trigolion Cymru bron i gyd yn siaradwyr yr iaith honno - ond, na fydd mwyafrif trigolion Cymru yn gweld rheidrwydd i siarad Cymraeg tra bod Saesneg yn parhau yn iaith y wladwriaeth.

Holl sail cenedlaetholdeb yn y bôn yw ei fod yn gymuned ddychmygol o bobol sy’n byw o fewn tioriogaeth penodol ac yn credu fod yna rywbeth annatod sy’n eu rhwymo at ei gilydd. Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae iaith a diwylliant yn un o’r rhwymau rheini, yn ogystal â chysyniadau sifig fel cyfansoddiad, deddfwriaethau a dinasyddiaeth. Does dim ond rhai edrych ar ymgyrch annibyniaeth yr SNP yn yr Alban, a datganiadau Plaid Cymru yn y wlad hon, i weld mai’r elfennau sifig sy’n cael eu pwysleisio bellach am nad oes iaith a diwylliant all wahaniaethu mwyafrif trigolion y gwledydd hyn oddi wrth Loegr.

Fel y soniwyd mewn blogiad flaenorol, creadigaeth Lloegr yw Cymru i raddau helaeth. Brenin Lloegr greodd ffiniau’r wlad (er bod nifer o siaradwyr Cymraeg yn trigo pen arall y ffin honno), diwydiannwyd Cymry gan Loegr gan greu gwlad fodern yn yr 19eg ganrif, a sbardunodd y wladwriaeth Brydeinig genedlaetholdeb Cymreig modern gydag ymosodiadau ar y Cymry fel y ceir yn y Llyfrau Gleision. Oherwydd bod Cymru yn greadigaeth Brydeinig, mae rhywun yn cael y teimlad ein bod ni, drwy gysylltu'r Gymraeg mor agos â chenedlaetholdeb Cymreig, yn chwarae wrth eu rheolau nhw i raddau helaeth! Mae Richard Glyn Roberts yn gwneud pwynt tebyg ond mewn modd llawer mwy academaidd yn y llyfr Pa Beth Aethoch Allan i’w Achub? Fe allai dorri’r cysylltiad hwnnw rhwng yr iaith a chenedlaetholdeb fod yn rhyddhad, achos fe allen ni wedyn ystyried beth sydd orau i barhad y Gymraeg, o fewn ac y tu allan i Gymru, yn hytrach nag ymrwymo ein hunain i genhadaeth i sicrhau parhad yr iaith ym mhob cornel o wlad nad yw ei ffiniau hyd yn oed yn cyfateb i ffiniau hanesyddol yr iaith yn y lle cynta’.

Mae’n fater difrifol, oherwydd sgil effaith cysylltu’r iaith â chenedlaetholdeb yw bod llawer iawn o’r gwariant, ac egni grwpiau pwyso, yn mynd ar bethau sy’n codi bri'r Gymraeg fel iaith ‘swyddogol’ y Genedl (ond yn eilradd i’r Saesneg, wrth gwrs) a cheisio hybu’r Gymraeg ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys ardaloedd lle mae wedi darfod fel iaith fyw ers gan mlynedd. Y peryg yw bod y Gymraeg yn cael ei ddyrchafu i safle o barch mawr, fel y Wyddeleg, ond bron byth yn cael ei defnyddio. Gellir gwario llawer o arian ar lathru jwg ar seld nes ei bod yn sgleinio, ond y peryg yw mai jwg ar seld fydd hi byth – rywbeth i’w edmygu o dro i dro, ond heb ddefnydd iddi. O ddatgysylltu'r Gymraeg oddi wrth ffiniau mympwyol Cymru, gellid tynnu’r jwg oddi ar y seld a dechrau ystyried sut i’w rhoi ar waith mewn ffordd fwy ymarferol.

Rhaid ystyried hefyd bod grym gwladwriaethau i benderfynu pa iaith fydd eu poblogaeth yn ei siarad yn prysur edwino. Rydym yn byw mewn byd o gysylltiadau rhyngwladol a ffiniau hydraidd, byd lle mae ymateb greddfol defnyddwyr Twitter, Facebook neu Reddit yn penderfynu beth sydd ‘o werth’ a beth sy’n cael ei anghofio. Mewn oes ol-genedlaetholgar, efallai bod angen ystyried ai ceisio argyhoeddi gwladwriaeth o werth iaith yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i hybu, beth bynnag, neu a ddylid treulio ein hamser yn ceisio creu diwylliant Cymraeg y bydd pobl o bob cwr o’r byd eisiau bod yn rhan ohono. Wele gwefannau fel Say Smething in Welsh er enghraifft lle mae dysgwyr o bob cornel o’r byd yn aml yn siarad Cymraeg drwy wasanaethau fel Facetime – a’r un ohonynt yn dod o Gymru!

Nid yw hynny’n golygu datgysylltu’r iaith oddi wrth ei ffiniau daearyddol – mae cael cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith bob dydd yn hollbwysig iddo. Ond mae’n golygu gallu canolbwyntio ar ardaloedd lle mae’n parhau yn iaith fyw. Er nad wfftio cenedlaetholdeb oedd ei nod, rwy’n siwr, bu i Adam Price awgrymu ffordd ymlaen ychydig flynyddoedd yn ol ar ffurf awdurdod lleol o’r enw ‘Arfor’. Wrth edrych ar fap o Gyfrifiad 2011 gelir gweld fod yna nifer o ardaloedd cysylltiedig lle mae’r Gymraeg yn parhau yn iaith tua hanner y boblogaeth. Mae’r ardal yma yn ymestyn o Ynys Môn, i lawr drwy Wynedd, drwy Geredigion, ac mae talp o ogledd Sir Gaerfyrddin a’r Preseli yn rhan ohoni. Yn ddelfrydol, wrth i gynghorau lleol gan eu hailwampio yn ystod y Cynulliad nesaf, byddai modd creu un awdurdod lleol o’r ardaloedd hyn, un a fyddai yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai ystyriaeth i’r Gymraeg hefyd ym mhob penderfyniad y byddai’r cyngor yn ei wneud. Mae cyfrifiad 2011 yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi syrthio’n arbennig o gyflym mewn ardaloedd lle mae’r cyngor fel pe bai’n ddi-hid ynglyn a’r Gymreag, fel Sir Gar, ond wedi aros yn weddol gry’ mewn yng Ngwynedd lle mae mwy o fri ar yr iaith. Nid ‘gaeltach’ fyddai hon, oherwydd a) mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith o leiaf 50% o’r boblogaeth y mwyafrif yr ardaloedd hyn, ac b) mae’n un talpyn o dir, yn hytrach na smotiau bychan o dir ynghanol mor uniaith-Saesneg.

Mae’n berffaith bosib bod y blog yma’n aredig tir sydd wedi ei droi sawl tro yn y gorffennol. Ond rwy’n credu ei fod yn werth cynnal y dadleuon hyn eto yn sgil Cyfrifiad 2011, a datblygiadau digidol y blynyddoedd diwethaf. Mae gennym ni bellach ein Senedd ddatganoledig, er bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn parhau i syrthio. Dyw’r dybiaeth y byddai Senedd = adfywiad ieithyddol ddim wedi ei wireddu - ac wrth i nifer y Cymry Cymraeg barhau i grebachu, ymddengys yn fwyfwy tebygol mai hunaniaeth sifig di-Gymraeg fyddai gan unrhyw Gymru annibynnol yn y dyfodol, beth bynnag. Rhaid ystyried ffiniau daearyddol ein hiaith fel rhywbeth sy’n llai na maint ein gwlad, ond y ffiniau rhithiol fel rhywbeth sydd cymaint â hynny yn fwy.

Ymatebion

| 19-08-2014 11:50 pm | #1

Dwi ddim yn deall y pwynt ti'n ceisio gwneud yma Ifan wyt ti'n awgrymu na ddylai cefnogwyr yr iaith bod yn genedlaetholwyr hefyd? Ers blynyddoedd maith mae cefnogaeth i barhad yr iaith wedi bod yn drawsbleidiol gyda phobl fel Cledwyn Hughes, Syr Wyn a Geraint Howells yn garedigion triw i'r achos. Rhoddodd Plaid Cymru'r gorau i fod yn fudiad iaith yn y 1930au. Ers y 60au mudiadau allbleidiol sydd wedi rhoi'r pwysau mwyaf ar awdurdodau i amddiffyn yr iaith. Dwi'm yn credu imi glywed cenedlaetholwr nac ymgyrchydd iaith erioed yn honni mae datganoli / ymreolaeth / annibyniaeth yw'r "unig ateb" i ddyfodol yr iaith.

| 20-08-2014 7:34 am | #2

Diolch am y neges Alwyn. Na, dydw i ddim yn dadlau na ddylai cefnogwyr yr iaith fod yn genedlaetholwyr. Dadlau ydw i a) mae yna beryg y gallai cenedlaetholdeb olygu bod ymgyrchwyr iaith a gwleidyddion yn rhoi'r pwyslais ar geisio hybu'r iaith ledled Cymru yn hytrach na canolbwyntio ar yr ardaloedd rheini lle mae amser ac anoddau yn debygol o fod yn fwyaf effeithiol wrth arbed yr iaith, b) mae cenedlaetholdeb yn golygu treulio lot o amser ac adnoddau ar orseddu'r iaith yn un 'swyddogol' ar lefel genedlaethol, er ei fod yn parhau i bob pwrpas ymarferil yn israddol i'r Saesneg. c) Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae gallu gwladwriaethau i hybu ac achub ieithoedd ar drai beth bynnag, ac mae'r duedd honno yn debygol o barhau. Er ei fod wedi cyrraedd yn rhy hwyr i'w gynnwys yn yr erthygl uchod, rwy'n credu bod galwad Julian Lewis Jones am raglenni Saesneg ar S4C yn esiampl o'r modd y gallai cenedlaetholdeb fod yn andwyol i'r iaith. Roedd yn dweud y dylid cyflwyno abwyd i'r Cymry di-Gymraeg wylio S4C er mwyn dod a nhw a'r Cymry Cymraeg 'at ei gilydd' i wylio'r un sianel. Esiampl yw hyn o roi undod cenedlaethol dros beth sydd o les i'r iaith.

| 21-08-2014 1:07 am | #3

Yr hyn sy'n ddifyr am sylwadau Julian Lewis Jones ar raglenni Saesneg ar S4C yw bod adlais ynddynt o farn Jac L Williams a Jennie Eirian am ddarlledu Cymraeg yn y 1970au, dadleuon oedd yn gwneud sens yn y 1970 pan nad oedd ond 3 sianel deledu ond sydd yn gwbl hurt yn ein dyddiau ni o gannoedd o sianeli teledu ar y teledu ac ar gyfryngau amgen. Yn yr un modd mae yna adlais o ddadl Y Fro Gymraeg o'r 1970au yn dy lith di, y syniad bod modd amddiffyn y Gymraeg mewn un parth bach o Gymru yn hytrach na'i amddiffyn fel un o ieithoedd y byd, eto dadl oedd yn gwneud sens yn y 70au (y 1870au o bosib) ond sydd ddim mor berthnasol i'n dydd ni.

Yn ddi-os mae'n rhaid ceisio gwarchod yr ardaloedd lle mae'r mwyafrif yn parhau i siarad Cymraeg; ond mae'r modd i wneud hynny yn rhan o'r ddadl genedlaethol, gan fod y problemau sy'n wynebu'r Fro Gymraeg (os yw'n bodoli bellach) yw'r problemau cenedligrwydd o fewnfudo ac allfudo yn hytrach na rhai o drosglwyddiad / statws iaith.

Pan oeddwn yn aelod o Fudiad Adfer erstalwm yr oeddwn yn cefnogi'r syniad o un iaith i'r Fro, ond nid ar draul hawliau ieithyddol Cymry Cymraeg oedd yn byw tu allan i'r Fro; rwy'n gweld unrhyw awgrym o Ddwy iaith i'r Fro ac uniaith Saesneg tu allan i'r fro yn gwbl wrthyn. Rwy'n byw bellach mewn cymdeithas lle nad oes dim ond un o bob tri yn Siarad Cymraeg, ydy hynny'n esgus i leihau fy hawliau ieithyddol?

Pan oedd fy hen daid, uniaith Cymraeg, yn byw yn Nolgellau yn y 1890au roedd ffiniau ei gymuned, i raddau, yr un fath a ffiniau ei blwyf genedigol, ond dydy hynny ddim yn wir i mi. Rwy'n gallu creu cymuned heb ffiniau i fi fy hun ar-lein trwy Twitter, Facebook, Skype ac ati. I mi mae honno'n gymuned 90% Cymraeg. I'r meibion, ysywaeth, mae'n gymuned 90% Saesneg - a dyna rwy'n gweld fel yr her fwyaf bellach, sef sicrhau bod y cymunedau mae pobl ifanc Cymraeg yn creu iddynt eu hunain ar lein yn rhan o'r Rhithfro Gymraeg ym mha bynnag parth o'r cigfyd y maent yn trigo.

| 25-08-2014 7:26 pm | #4

Diolch am yr ymateb Alwyn. Dydw i ddim chwaith am wel lleihad statws y Gymraeg y tu allan i'r 'Fro'. Credu ydw i nad oes y dymuniad cyffredinol i wthio an fwy o warchodaeth i'r Gymraeg yng Nghymru fel un endid wleidyddol, ond mae'r dymuniad yna yn y fro Gymraeg. Yn yr un modd ag y mae y dymuniad gwleidyddol eisoed yn bodoli yng Ngwynedd am gyngor sy'n gweithredu drwy'r Gymraeg, yn wahanol i rannau eraill o'r wlad.

Beth sy'n wrthun i mi, ac i chithau mae'n siwrm yw gwybod bod cadarnleoedd yr iaith yn dirywio'n araf dan y status quo, am nad oes dymuniad cyffredunol yng Nghymru i wneud dim am y peth.

Dydw i ddim yn credu bod hwn yn ddadl sy'n llai perthnasol nawr nag oedd yn y 70au (a doeddwn i ddim hyd yn oed yn bodoli bryd hynny!) - mae'n fwy perthnasol nag erioed wrth i ffiniau cenedlaethol fod yn llai a llai arwyddocaol.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa