Y Gymraeg v GDP

| 25-08-2014 7:30 am

Ifan Morgan Jones sy'n dadlau fod angen rhoi'r gorau i ystyried datblygiad economaidd yn fygythiad i'r Gymraeg...




Fe fydd y newyddion dros yr wythnosau diwethaf bod y ‘dirwasgiad hiraf ers dechrau cadw cofnodion’ ar ben yn rhyddhad i lawer. Mae’r economi bellach 0.2% yn fwy, yn ôl ffigyrau GDP, nag ydoedd pan ddigwyddodd y chwalfa ariannol yn 2008. Ers ganol y flwyddyn honno rydw i wedi dyweddio, prynu dau dy, rhedeg dau farathon, dod yn lys-dad i un plentyn ac yn dad i ddau arall, a symud o weithio ar wythnosolyn print i fod yn olygydd gwefan newyddion ar-lein i fod yn ddarlithydd mewn prifysgol. Rwy’n dweud hyn er mwyn pwysleisio bod chwe blynedd yn amser hir. Rydw i wedi treulio’r mwyafrif o fy amser ers gadael y Brifysgol dan gysgod y dirwasgiad ‘ma.

 

Mae gennym ni obsesiwn rhyfedd iawn gyda GDP yn y Deyrnas Unedig. Efallai bod bai arnom ni newyddiadurwyr! Y gwir yw bod economeg yn hynod o annelwig, a bod y rhif GDP yn cyflawni ein hamcan i’w droi yn rywbeth syml dros ben y bydd y darllenwr cyffredin yn ei ddeall. Fe ysgrifennais i flog yn nechrau 2010 yn nodi nad oedd gan unrhyw un syniad go iawn beth oedd ei angen er mwyn adfer yr economi. Gwireddwyd y broffwydoliaeth honno wrth i’r IMF, yr wrthblaid a’r Llywodraeth anghytuno’n chwyrn ynglŷn â’r toriadau dwfn a ddilynodd. A hyd yn oed heddiw dydyn ni ddim callach - roedd dau o’r gwledydd sydd bellach yn gwneud orau, yr UDA a’r Deyrnas Unedig, wedi dewis dau lwybr cwbl wahanol drwy’r dirwasgiad, y naill yn gwario a’r llall yn torri’n ôl.

 

Hyd yn oed o ddibynnu’n llwyr ar y ffigyrau GDP eu hunain, dyw’r darlun ddim yn un syml, fel y mae Robert Peston o’r BBC yn ei nodi ar ei flog yntau:

 

"The Office for National Statistics is in the process of reworking how it calculates GDP... Chances are that this terrible depression actually ended some while ago, probably last year... So on Friday we will basically be doing the equivalent of celebrating a World Cup victory that may or may not have actually happened some months earlier."

 

Fel y mae’r sylw yma yn ei awgrymu, mae’n amhosib gwybod a yw’r economi ‘yn gryfach’ heddiw nag ydoedd chwe blynedd yn ôl. Mae technoleg wedi symud yn ei flaen. Ni allwn i fod wedi prynu yr iPad yr ydw i arno nawr am yr holl arian yn y byd yn ôl yn 2008, ond mae bellach modd gwneud hynny am ryw £150. Mae ystadegau’r Llywodraeth eu hunain yn awgrymu nad oes yna ryw lawer o gysylltiad rhwng yr ardaloedd hapusaf a’r rhai cyfoethocaf. Mae ardaloedd gwledig, anghysbell a thlawd yn tueddu i fod yn hapusach na rhai dinesig a chefnog. Yn hytrach na GDP moel, efallai y byddai yn well ystyried y gwahaniaeth rhwng beth mae pobl yn ei gael am eu pres mewn un ardal a’r llall. Faint fyddai angen i mi dalu am dŷ mor fawr, a golygfa cystal â’r un sydd gen i yma yng Nghymru, ynghanol Llundain? Dros ddeg gwaith cymaint yn hawdd, rwy’n tybio.

 

Tlodi a thirwedd

 

Efallai nad oes llawer o gysylltiad rhwng arian a hapusrwydd, felly. Serch hynny, fe fyddwn i’n dadlau, mae economeg yn bwysig iawn wrth bennu pa ddiwylliant sy’n ffynnu ar draul eraill. Mae’r Cymry wedi bod yn ymwybodol erioed o’r cyfleoedd prin a gynigwyd gan dirwedd fynyddig Cymru o’i gymharu â thiroedd breision Lloegr:

 

“Yr ydym wedi ein cilgwthio i fynyddau Cymru ar gongl bellaf yr ynys, a’n gadael i fyw neu i farw ar drugaredd Rhagluniaeth. Y mae brasdiroedd y wlad, lle y tyf y porfeydd gwelltog, ac y llifa y dyfroedd tawel, yn meddiant estroniaid - digynyddion y môr-ladron Pictaidd, Danaidd, a Sacsonaidd; a ninnau, druain ohonom, yn gorfod byw ar y creigleoedd a’r mynyddoedd.” - Ioan Medi, 1884

 

Doedd gan y Cymry tlawd, dan reolaeth uchelwyr difater, ddim yr adnoddau i ariannu eu chwyldro diwydiannol eu hunain. Rywbeth a wnaethpwyd i Gymru oedd diwydiannu, i raddau helaeth, gyda’r Cymry dosbarth gweithiol yn ddim gwell na caethweision i’w meistri. Mae’r dyfyniad yma o’r Llyfrau Gleision – sydd ddim fel rheol yn cymryd ochr y Cymry, yn dangos beth oedd y drefn:

 

“I regard their degraded condition as entirely the fault of their employers, who give them far less tendance and care than they bestow on their cattle...” - Jelinger C Symons, 1846

 

Yn bwysicach byth efallai, y wlad sydd â’r arian sydd yn gallu creu'r cynnyrch diwylliannol. Anghofiwch y Llyfrau Gleision - bu’r Cymry yn ymdopi â blitz o lyfrau, cylchgronau, a phapurau newydd o Loegr am ddegawdau.  Yn ddiweddarach, radio, teledu a ffilm. Heddiw rydyn ni’n drwm dan ddylanwad ffilmiau Hollywood, am mai nhw sydd â chyfalaf anferth sydd ei angen i’w hariannu, ac mae ein diwylliant ni’n cael ei Americaneiddio yn gyflym iawn.

 

Diwedd y gân yw’r geiniog, ac rwy’n credu mai tlodi cymharol Cymru o’i gymharu â Lloegr yw un o’r prif resymau pam bod ein diwylliant a’n hiaith wedi edwino dros y canrifoedd diwethaf.

 

Iaith Gwaith

 

Serch hynny, mae yna dueddiad i ni fod yn ddrwgdybus o unrhyw ddatblygiad economaidd yng Nghymru, gan ofni y bydd yn gwneud niwed i’r iaith.

 

Mae yna gyfweliad diddorol yn Golwg yr wythnos yma gyda Vaughan Hughes, am ei lyfr newydd Cymru Fawr. Dywed:

 

“Yn Cymru Fawr ceisiaf ddadlau yn erbyn agweddau negyddol tuag at gyflogaeth. Rydan ni’n negyddol ofnadwy tuag at waith. Heb waith, does yna ddim iaith. Mae’r geiriau yn gwneud mwy nag odli yn y Gymraeg.”

 

Dim ond ryw 400,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru oedd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd bron i filiwn ohonyn nhw. Rhaid cofio hefyd bod y twf hwnnw wedi digwydd er gwaetha’r holl Gymry Cymraeg adawodd am yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill yn ystod yr un cyfnod. Er gwaetha’r modd y cafodd y Cymry eu trin gan y Saeson, arweiniodd y buddsoddiad ariannol yn yr 19eg ganrif at gynnydd anferth yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ac ‘oes aur’ o gyhoeddi llyfrau, cylchgronau, a phapurau newydd Cymraeg.

 

Rydyn ni’n tueddu i anghofio hynny oherwydd bod diwedd y ganrif a dechrau’r 20fed ganrif wedi bod yn gyfnod o golli iaith. Ond fel yr awgrymir uchod, gellid dadlau bod hynny’n bennaf oherwydd y llwyddiant i argyhoeddi’r Cymry mai'r Saesneg oedd iaith arian mawr, a’r Gymraeg yn iaith tlodi. Mae’r dyfyniad yma yn awgrymu beth oedd meddylfryd y cyfnod:

 

“Onid trwy y Saesoneg y daw gwybodaeth o gyfraith, athroniaeth, gwyddor, a chelf? Y Seasonaeg ydyw iaith masnach, anturiaeth, a gweithgarwch Prydain. Onid yw yn anocheladwy mai y mwyaf cyfarwydd â’r iaith honno a’i chyfoeth fydd mwyaf medrus ynghwahanol ganghennau gwybodaeth a masnach?” - Daid Richards, 1886

 

Efallai ein bod ni, o lyncu'r hen syniad Fictorianaidd yma mai’r Gymraeg yw iaith tlodi, a Saesneg yw iaith masnach, bellach o dan yr argraff bod unrhyw arian fel pe bai’n llosgi Cymreictod ymaith. Ond mae hanes yn awgrymu nad oes unrhyw reswm i hynny ddigwydd. Yn wir, mae buddosddiad ariannol mewn ardaloedd lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn gallu bod yn fodd o hybu’r iaith Gymraeg. Y perygl yw’r ideoleg sy’n dweud mai Seasneg yw iaith masnach, ac nad yw ddim oll i’w wneud â’r Gymraeg. Rhaid i’r Cymry gymryd yr awenau eu hunain wrth wthio am dwf economaidd, felly, rhoi’r gorau i’w ystyried fel rhywbeth sy’n cael ei wneud iddyn nhw, a sicrhau yn hytrach ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd er eu lles nhw.

 

Efallai nad yw cyfoeth yn golygu hapusrwydd ar ei ben ei hun, ond fe allai hybu cyfoeth diwylliannol, ac fel y gwyr unrhyw un sy’n darllen y blog yma, mae hynny’n yn gallu gwneud rhywun yn hapus iawn.

Ymatebion

| 25-08-2014 6:31 pm | #1

Cytuno, "rhaid i’r Cymry gymryd yr awenau eu hunain wrth wthio am dwf economaidd." Un man cychwyn ydi mynnu fod y swyddfa ystadegau yn cyhoeddi data gwell am Gymru. Does dim ffigyrau i'w chael, er enghraifft ar faint o nwyddau a wasanaethau rydym yn gwerthu i Loegr - er mai hwn yw ein prif farchnad, tybiwn. O gael deall a dehongli data o'r fath fe allai polisiau cryfach a fwy hyderus dyfu. Gennym marchnadoedd sylweddol yn agos ffiniau'r ardaloedd Cymraeg megis Manceinion, Birmingham a Dulyn. O wybod yn gliriach pa nwyddau Cymreig sy'n werthu orau yn y dinasoedd hwn byddai modd fframio polisiau sy'n cynnal twf economaidd a ieithyddol. Ar y funud dwi'n teimlo fod gennym agwedd amddiffynol at bwer y dinasoedd hyn, yn hytrach na dealltwriaeth rhesymegol a chlir o'r cyfleodd sydd ynddynt.

| 25-08-2014 7:20 pm | #2

Pwyntiau da Ceri, diolch. :)

| 26-08-2014 6:14 pm | #3

Cytuno Ifan. Ffaith ddifyr iawn hefyd am dwf nifer o siaradwyr Cymraeg yn y 19eg ganrif - rioed yn gwybod hynny o'r blaen.

Pwynt difyr gan Ceri hefyd. Mi fues yn edrych cryn dipyn ar yr Observatory of Economic Complexity ar ol clywed Cesar Hidalgo yn siarad yng Nghaerdydd gynharach eleni, ac yn teimlo y byddai'n werthfawr medru cael gweld ffigyrau Cymru fel gwlad ar wahân yn hwn.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa