Dim annibyniaeth i’r Alban –peth da i Gymru?

| 31-08-2014 5:22 pm

Ifan Morgan Jones sy'n gofyn a ddylai cenedlaetholwyr Cymreig gefnogi annibyniaeth i’r Alban...




Mae’n ymddangos yn gynyddol annhebygol, heb ymchwydd munud olaf, y bydd yr Alban yn pleidleisio ‘Ie’ i annibyniaeth.

 

Mae’r bwlch wedi cau ryw ychydig, ond mae bob pôl piniwn wedi dangos y bleidlais ‘na’ yn parhau yn weddol gyffyrddus ar y blaen.

 

Dywed rhai na fydd yn gwneud gymaint â hynny o wahaniaeth - mae’r jini allan o’i fotel rŵan, a bydd pleidlais agos yn siŵr o arwain at annibyniaeth o fewn y degawd neu ddau nesaf.

 

Dydw i ddim mor siŵr. Wedi’r cyfan, daeth Quebec o fewn 1% i bleidleisio o blaid annibyniaeth yn 1995, ac nid yn unig mae’n parhau yn rhan o Ganada 20 mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r farn gyhoeddus wedi troi yn erbyn y syniad ers hynny.

 

Yn fwy na hynny, dydw i ddim yn credu y bydd y sefydliad Prydeinig, ar ôl yr ysgytwad yma, yn fodlon caniatáu i’r un peth ddigwydd eto. Nid yn unig y byddwn nhw am roi'r jini yn ôl yn ei fotel, mi fyddan nhw am roi corcyn arno wedyn.

 

Os bydd yr ymgyrch o blaid annibyniaeth i’r Alban yn methu, y rheswm am hynny, yn fy nhyb i, yw nad yw’r cenedlaetholwyr wedi llwyddo i feddiannu'r cyfryngau.

 

Mae’r ymdrech ar lawr gwlad wedi bod yn anferth gan yr ymgyrch ‘Ie’. Ond mae pob un papur newydd namyn un, wedi bod o blaid yr ymgyrch ‘na’.

 

Er bod y darlledwyr wedi bod yn fwy cytbwys, maent yn tueddu i ddilyn yr agenda a osodwyd gan y papurau newydd, ac maent hefyd wedi eu lleoli yn Lloegr ble mae sylwebwyr sydd yn erbyn annibyniaeth yn haws cael gafael arnynt.

 

Mae yna doreth o ymchwil academaidd sy’n pwysleisio pwysigrwydd y cyfryngau wrth hybu ymdeimlad o berthyn i wladwriaeth ar wahân i eraill.

 

E.e. mae gwaith Benedict Anderson yn pwysleisio bod y broses o ddarllen papur dyddiol, a gweld eraill yn gwneud yr un fath, yn arwain at greu teimlad o berthyn i gymuned ddychmygol o gyd-wladwyr. Mae mwyafrif y paprau newydd sydd ar werth yn yr Alban yn rhai Prydeinig, neu yn hybu ymdeimlad o berthyn i wladwriaeth Brydeinig.

 

Mae gan y cyfryngau hefyd rôl bwysig wrth bwysleisio dadleuon o blaid annibyniaeth. Yn ôl yr academydd Miroslav Hroch, os yw mudiad cenedlaethol am lwyddo, rhaid i’r dosbarth canol deallusol ddangos i’r werin (sydd heb gymaint o ddiddordeb mewn pethau haniaethol fel iaith a diwylliant sy’n apelio at y dosbarth canol) y bydd o fudd economaidd iddyn nhw.

 

Dyw’r dosbarth gweithiol ddim am ddangos cymaint o ddiddordeb yn yr hustings, a’r prosiectau diwylliannol ac artistig y mae’r ymgyrch Ie wedi bod yn ymwneud â nhw dros y ddwy flynedd diwethaf. Maen nhw eisiau gwybod a fydden nhw’n gyfoethocach - a gyda’r ddadl dros ba arian cyfredol y byddai’r Alban annibynnol yn ei ddefnyddio, ac o le fydd yr olew yn dod, gellir dadlau nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Ac, yn amlwg, os nad oes gan y dosbarth canol cenedlaetholgar reolaeth dros y cyfryngau, mae argyhoeddi’r dosbarth gweithiol am fod yn llawer anoddach iddyn nhw.

 

Annibyniaeth i Gymru?

 

Hyd yn oed os yw'r Alban yn llwyddo i gipio annibyniaeth, a hynny o drwch blewyn, pa obaith i Gymru? Dim lot, ac fe ddylai’r rheini sy’n croesi bysedd am bleidlais ‘Ie’ yn yr Alban, yn y gobaith y bydd yn anochel yn arwain at annibyniaeth i Gymru, fod yn ochelgar.

 

Mae gan y Cymry cenedlaetholgar llai byth o reolaeth dros eu cyfryngau. Dim ond dau gylchgrawn, sef Barn a Cambria, sydd yn ymylu ar fod yn genedlaetholgar. Mae ganddynt gylchrediad o tua 20,000 rhyngddynt. Yn y cyfamser mae cylchrediadau yr unig bapurau newydd Cymreig sy’n weddill, fel y Western Mail a’r Daily Post, a fyddai yn dweud ‘na’ beth bynnag, yn parhau i blymio.

 

Os yw argyhoeddi'r werin y dylai’r Alban fod yn annibynol ar sail economaidd yn dalcen caled, fe fydd yn anoddach byth yng Nghymru. Mae’r Trysorlys yn gwario £6 biliwn yn fwy ar Gymru nag y mae’n nhw’n ei godi mewn trethi. Mae cenedlaetholwyr yn dadlau bod y Tryslorlys yn gwario mwy nag y maen nhw’n ei godi mewn treth ym mhobman – dyna pam fod diffyg ariannol anferth gan y Deyrnas Unedig – ac y byddai annibyniaeth yn rhoi’r gallu i Gymru ddatrys ei phroblemau economaidd. Ond, fel y mae’r ymgyrch yn yr Alban wedi ei ddangos, mae dadleuon cymhleth yn tueddu i ffwndro yng ngwyneb codi bwganod.

 

Ar ben hynny, mae cenedlaetholdeb Cymreig wrth ei hanfod yn fwy ‘dosbarth canol’ na chenedlaetholdeb yr Alban. Mae’n seiliedig yn bennaf ar faterion yn ymwneud ag iaith a diwylliant, yn hytrach na chysyniadau sifig. Fe allai hynny newid, ond y peryg yw y bydden ni’n taflu'r babi allan gyda’r dŵr bath - cael annibyniaeth o Loegr drwy, er, gwneud Cymru’r union yr un fath yn ddiwylliannol a Lloegr.

 

Ac os yw’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, nid fydd sefydliad beth sy’n weddill o Brydain am i’r un peth ddigwydd eto. Bydd y corcyn a gaiff ei stwffio ym mhotel jini annibyniaeth Cymru mor fawr, cymerith ddegawdau eto i’w symud. Caiff Cymru ei lusgo allan o Ewrop, a bydd ganddo’r un amlygrwydd o fewn y wladwriaeth newydd ac sydd ganddo ar hyn o bryd o fewn Tîm Criced Lloegr.

 

Os yw’r Alban yn dewis aros, mae yna bethau cadarnhaol. Mae datganoli yng Nghymru wedi tueddu i ddilyn yr un cyfeiriad a’r Alban ac, os yw’n symud tuag at ‘devo-max’ yn sgil pleidlais ‘na’, fe allai Cymru ddisgwyl parhau i lithro i lawr y ‘llwybr llithrig’ i’r un cyfeiriad. Bydd y galwadau i ateb ‘cwestiwn Gorllewin Lothian’ gyda Senedd ar wahan ar gyfer Lloegr yn parhau. Gallai Cymru ennill grymoedd dros drethi a gwario yn araf bach, nes bod Llywodraeth Cymru'r grym i ddatrys problemau economaidd y wlad eu hunain. Yn eironig, felly, fe allai pleidlais ‘na’ fod yn fwy o hwb i genedlaetholdeb Cymreig yn y pen draw, na phleidlais ‘ie’.

 

Pam cefnogi ‘Ie’?

 

Pam ydw i’n cefnogi pleidlais ‘Ie’ i’r Alban, felly? Amwn i fod yna ryw fath o ‘gymuned ddychmygol’ Celtaidd yn ogystal ag un Cymreig. Rydyn ni am weld i’r brodyr Celtaidd lwyddo. Nid rywbeth gwrth-Seisnig yw hynny - rydyn ni am weld yr un peth yn Llydaw ac ym Mhatagonia. Efallai nad oes sail hanesyddol na rhesymegol i hynny, ond amwn i nad oes dim cymaint a hynny o sail hanesyddol na rhesymegol i genedlaetholdeb o unrhyw fath. Yn ogystal, mae yna elfen o ‘Dafydd yn erbyn Goliath’ yn perthyn i’r ornest - yr ymgyrchwyr ar lawr gwlad yn erbyn grym y sefydliad Prydeinig. Hefyd, mae yna elfen o chwilfrydedd. Mae pleidwyr annibyniaeth wedi addo cymaint, beth fydd y canlyniad ar ôl cyrraedd gwlad yr addewid? A fydd eu gobeithion yn cael eu gwireddu (a gan fod eu gobeithion yn amrywio cymaint, rydw i’n barod i ddyfalu na fyddwn nhw)?

 

Mae yna resymau llai bonheddig, hefyd. Mae rhywun eisiau gweld yr olwg ar wyneb David Cameron, George Osborne, George Galloway, Douglas Alexander, ayyb, y diwrnod wedyn. Ho ho! Ac hefyd, dymuniad pob newyddiadurwr ac anorac gwleidyddol i weld homar o ffrae wleidyddol a cwmpo mas.

 

Felly fe fyddaf i’n croesi bysedd am ‘ie’ ar 18 Medi.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa