#indyref a chysgod ‘92

| 06-09-2014 1:12 pm

Ifan Morgan Jones sy'n taflu bwced o ddŵr oer rhewllyd dros ben ymgyrch 'Ie' refferendwm yr Alban...



Dim ond wyth oeddwn i’n i’n 1992, a does gen i ddim cof o’r etholiad hwnnw y tu hwnt i feddwl bod yr enw ‘Wigley’ yn un reit ddoniol.

 

Mae’r etholiad yn cael ei gofio erbyn hyn wrth gwrs oherwydd agwedd buddugoliaethus Llafur yn yr wythnosau cyn i’r blychau pleidleisio agor, a gynrychiolwyd yn fwyaf cofiadwy gan Neil Kinnock yn bloeddio ‘We’re alright!’ yn Sheffield.

 

Y gred oedd bod ymgyrch negyddol y Ceidwadwyr, a oedd yn rhybuddio am ‘tax bombshell’, yn codi bwganod a’i fod wedi bod yn aneffeithiol ar y cyfan. Fe fyddai pobl yn pleidleisio o blaid y gobaith newydd, nid yr hen drefn.

 

Serch hynny colli oedd hanes Llafur wrth gwrs, wrth i’r Ceidwadwyr dderbyn 41.9% o’r bleidlais, o’i gymharu â 34.4% y Blaid Lafur, er bod y polau piniwn wedi dangos bod plaid Neil Kinnock ymhell ar y blaen.

 

Mae’r polau piniwn yn fwy dibynadwy erbyn hyn. Ac maent yn parhau i ddangos bod y bleidlais ‘Ie’ ar ei hol hi, o drwch blewyn, yn yr Alban.

 

Serch hynny rydw i wedi synhwyro, dros y dyddiau diwethaf, tueddiad ymysg yr ymgyrch ‘Ie’ i feddwl bod buddugoliaeth o fewn eu gafael.

 

Yn wir, mae rhai yn darogan y bydd y bleidlais ‘Ie’ cymaint â 60%! Mae hynny’n bosib, ond does dim tystiolaeth i gefnogi’r peth ar hyn o bryd.

 

Mae gen i bryderon bod momentwm ymddangosiadol un ymgyrch hefyd yn gallu celu’r gwirionedd ynglŷn â maint y gefnogaeth sydd gan y llall.

 

Ymgyrch llawr gwlad yw’r un ‘Ie’ gan fwyaf, gan ddibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bod yr ymgyrch ‘Na’ yn dibynnu i raddau helaethach ar y cyfryngau prif lif.

 

Mantais fawr y cyfryngau cymdeithasol, megis Twitter a Facebook, yw ei fod yn caniatáu i’r ymgyrch ‘Ie’ oddiweddyd y cyfryngau prif lif a throsglwyddo eu neges yn syth i’r pleidleiswyr.

 

Ond mae yna beryglon hefyd. Y pennaf yn eu mysg yw mai’r grŵp oedran sy’n tueddu i fod fwyaf tebygol o bleidleisio, 65+, yw’r grŵp oedran hwnnw sydd ddim yn tueddu i ddefnyddio’r we.

 

Yn ail, gall rhwydweithiau cymdeithasol greu ‘siambr echo’ sy’n rhoi’r argraff bod yna fwrlwm mawr o blaid un ymgyrch, tra mewn gwirionedd eu bod nhw’n siarad â’u hunain.

 

Wrth edrych ar fy ffrwd Trydar i, neu fy nhudalen Facebook, byddai 90% o’r cynnwys o blaid yr ymgyrch ‘Ie’. Ond mae hynny oherwydd fy mod i, weithiau’n ymwybodol, weithiau’n anymwybodol, yn tueddu i ddilyn pobl sy’n rhannu fy nhueddiadau gwleidyddol.

 

Y peryg yw mai dim ond ewyn a swigod yw’r ‘bwrlwm’ o blaid yr ymgyrch ‘Ie’ a fydd yn diflannu yn gyflym ar ddiwrnod y bleidlais.

 

Pryder arall y ‘big mo’ o blaid ‘ie’ yw bod pobl sy’n bwriadu pleidleisio ‘na’ yn cadw’n dawel am nad ydyn nhw eisiau cefnogi’r ochr sy’n cael ei ystyried yn ‘anffasiynol’.

 

Wrth edrych ar ôl at etholiad 1992 roedd yna hefyd dueddiad ymysg cefnogwyr y Ceidwadwyr i gadw’n dawel, a pheidio â dweud y gwir, hyd yn oed wrth gael eu holi gan yr arolygwyr barn.

 

Mae’r arolygwyr wedi addasu eu methodoleg i gyfrif y pleidleiswyr ‘swil’ hyn erbyn heddiw, ond nid oes modd gwybod yn achos y refferendwm hwn a ydynt wedi llwyddo i wneud hynny ai peidio.

 
O ganlyniad, er fy mod i'n parhau i obeithio am bleidlais 'Ie', rydw i'n dal i gredu mai'r ymgyrch 'na' eiff â hi (gan groesi bysedd fy mod i'n anghywir!).

Gosod seiliau ar gyfer y dyfodol?

 

Cyn anobeithio gormod, rywbeth arall i’w gofio am etholiad 1992 oedd ei fod yn rhagarweiniad i fuddugoliaeth swmpus gan Lafur yn etholiad 1997. Dyna ‘hurrah’ mawr olaf y Ceidwadwyr, a dydyn nhw heb ennill mwyafrif yn San Steffan ers hynny.

 

Hyd yn oed os nad yw’r Alban yn pleidleisio ‘Ie’ eleni, mae natur yr ymgyrch Better Together yn awgrymu mai ar sail ofn nid gobaith y byddan nhw’n gwneud hynny.

 

Fe fyddai wedi bod yn bosib defnyddio’r ymgyrch Better Together fel modd o ail danio cenedlaetholdeb Prydeinig ymysg yr Albanwyr, ac adnewyddu addunedau priodas yr undeb.

 

Yn hytrach ceir yr argraff gynyddol mai ceisio oedi’r anochel y maent.

 

Fel y nodir yr wythnos diwethaf, gall yr awydd am annibyniaeth bylu dros amser, fel yn achos Canada.  Cawn weld sut y mae ymgyrch ‘Ie’ yr Alban yn ymateb pe baen nhw’n cael ei trechu ar 18 Medi.

 

Dyma’r tywydd

 

Un ffactor sydd heb ei drafod ryw lawer yn y wasg na chwaith ar y rhwydweithiau cymdeithasol yw pwysigrwydd y tywydd yn wythnosau olaf yr ymgyrch.

 

Byddai tywydd braf yn fendith i ymgyrch llawr gwlad ‘Ie’.

 

Ar y llaw arall, byddai glaw yn tueddu i gadw pobl o fewn eu tai – lle y byddan nhw’n fwy tebygol o ddarllen papur neu wylio’r teledu, tiriogaeth yr ymgyrch ‘na’.

 

Yn ffodus i’r ymgyrch ‘Ie’ mae’n gaddo tywydd gweddol dros y pythefnos nesaf.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa