Y dadl-aye yn yr Alban

| 14-09-2014 8:48 pm

Ifan Morgan Jones sy'n ceisio mynd at wraidd y refferendwm dros annibyniaeth i'r Alban ddydd Iau...



Beth yw arwyddocâd y bleidlais dros annibyniaeth i’r Alban yr wythnos hon?

 

Mae gan bleidwyr o’r ddwy ochr eu syniadau eu hunain ynglŷn â beth mae’n ei olygu. Cenedlaetholdeb, democratiaeth, niwciau Trident, egni gwyrdd, ac yn y blaen...

 

Fe fydd pawb sy’n camu i mewn i’r blwch pleidleisio yn gwneud hynny â rhestr unigryw o flaenoriaethau yn chwyrlio drwy eu meddyliau.

 

Yn y pen draw gellid dadlau nad yw’r bleidlais yn arbennig o arwyddocaol o gwbl. Hyd yn oed pe bai'r Alban yn pleidleisio ‘ie’ ddydd Iau, ni fydd y mwyafrif ohonynt yn gweld llawer o wahaniaeth i’w bywydau bob dydd (y tu hwnt i ben mawr fore dydd Gwener).

 

Ni fydd yr hinsawdd wleidyddol yn newid cymaint â hynny. Bydd nifer o’r ASau a fydd yn colli eu swyddi yn San Steffan yn bachu’r seddi ychwanegol yn Holyrood, gan barhau â’r un diwylliant gwleidyddol. Mae Brown a Darling eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n mynd i sefyll.

 

Ni fydd yr Alban yn rhydd o bleidiau ceidwadol. Bydd yr angen i Holyrood godi ei arian ei hun yn golygu bod pleidiau o’r fath yn mynd yn fwy poblogaidd.

 

Bydd rhai cwmnïoedd yn gadael yr Alban er mwyn bod yn rhan o fwrlwm Llundain, ac eraill yn cael eu denu i'r Alban gan yr addewid i dorri treth incwm.

 

Hyd yn oed pe bai niwciau Trident yn cael ei symud o’r Clyde, fe fyddai’r wlad yn debygol o wynebu llwch ymbelydrol pe bai rhywbeth yn mynd o’i le, neu weddill y DU yn cael ei chwythu’n ulw gan wlad estron, ble bynnag yn Ynysoedd Prydain y maen nhw'n docio.

 

Dydw i ddim yn credu y bydd ofnau gwaethaf yr ymgyrch ‘na’, na chwaith gobeithion mwyaf yr ymgyrch ‘ie’ yn cael eu gwireddu, felly.

 

Gwledydd - mwy neu lai?

 

Bydd rhai yn dadlau nad yw’r genedl wladwriaeth ei hun o bwys mawr yn ein hoes ni. Nid yw’r wladwriaeth Brydeinig wedi gallu gwrthsefyll grymoedd traws-ffiniol y marchnadoedd ariannol, cwmnïoedd mawr, mudo, rhwydweithio cymdeithasol, ayyb.

 

Ond a yw’r newidiadau rhain yn anorfod, ta y genedl wladwriaeth Brydeinig sydd wedi methu ag ymateb yn effeithiol iddynt?

 

Mae’r bleidlais yddydd Iau yn mynd i wraidd y cwestiwn sylfaenol hwnnw - sef, pa rôl sydd gan y genedl wladwriaeth i’w chwarae yn yr oes bresennol.

 

Creuwyd gwladwriaethau modern er mwyn rhoi trefn ar genhedloedd a oedd yn mynd yn fwyfwy cymhleth wrth iddynt ddiwydiannu o’r 18fed ganrif ymlaen.

 

Disgrifiai W Ambrose Bebb Gymru yn yr 19eg ganrif oedd wedi ei daflu o “drwmgwsg maith i drobwll meddw”, wrth i ardaloedd amaethyddol gael eu llyncu gan y chwyldro diwydiannol.

 

Ceir yr un teimlad o feddwdod heddiw. Nid yw’r union bobl rheini sydd wrth y llyw fel petaent nhw’n gwybod sut i reoli’r byd o’u cwmpas (wele eu hanallu i esbonio beth achosodd chwalfa ariannol 2008-2014 na chynnig ateb i’w osgoi yn y dyfodol).

 

Wrth wraidd y dieithriad o Lundain y mae’r teimlad bod gwleidyddion naill ai wedi troi cefn ar eu cyfrifoldebau neu yn analluog i’w cyflawni, gan ganiatáu i fancwyr redeg y byd er eu lles eu hunain.

 

O’r Tea Party, i Ukip, i’r SNP, mae pobl wedi colli hyder yng ngallu ein senedd-dai cenedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau mawr yr oes.

 

Sut mae datrys hyn? Yr ateb amlwg ar yr olwg gyntaf i globaleiddio yw creu gwladwriaethau anferth sy’n pontio rhannau mawr o’r byd, fel yr Undeb Ewropeaidd.

 

Gall y rhain gynnig ryw fath o drosolwg o’r byd i ni. Maent yn ddigon mawr i allu goddef unrhyw broblemau mawr, a hefyd rheoli marchnadoedd byd eang.

 

Ond y mwyaf yw’r wladwriaeth, y mwyaf diarth yw’r rheolwyr i’r bobl. Ac fel y mae’r problemau’r EU gyda’r Ewro yn ei ddangos, mae amlhau maint y wladwriaeth yn gallu amlhau maint y problemau hefyd - a’u gwneud nhw mor fawr â chymhleth does neb yn gwybod lle i ddechrau eu datrys.

 

Yr ateb arall yw creu gwladwriaethau llai, lle mae grym yn agosach at y bobol. Gallant ganolbwyntio ar wneud ambell beth yn dda, ac ymateb yn hyblyg i unrhyw drychinebau mawr. Gallant gau’r drws ar unrhyw gwmnïoedd nad ydynt am eu gweld yn masnachu yn eu gwlad.

 

Dadl pleidwyr annibyniaeth yw y byddai Alban annibynnol yn wlad llawer mwy hylaw. Gwlad lle y gall y person cyffredin ddeall y rheolau a dylanwadu ar sut y mae’r gêm yn cael ei chwarae.

 

Fe fyddai yn wlad wedi ei gynnal gan wleidyddion a fyddai yn fwy effro i anghenion yr etholwyr, yn hytrach na dymuniadau'r bancwyr a’r cwmnïoedd mawr.

 

Efallai mai’r paradocs yw y gallai gwledydd llai weithredu’n well mewn byd wedi globaleiddio, na gwledydd mawrion.

 

Yr eironi, wrth gwrs, yw o ddatgan ei hannibyniaeth, mae’r Alban yn bwriadu gwneud cais am gael bod yn dalaith o’r Undeb Ewropeaidd.

 

O greu gwlad lai, fe allant yn fuan gael eu hunain yn un dalaith yn un o wladwriaethau mwyaf y byd.

 

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa