Gwersi i Gymru o fethiant Salmond

| 21-09-2014 4:39 pm

Ifan Morgan Jones sy'n gofyn beth aeth o'i le i'r ymgyrch 'Ie' yn yr Alban...




Rwy’n siŵr bod sawl un wedi cael llond bol o Refferendwm yr Alban erbyn hyn - ac wedi 38 awr ar fy nhraed ddydd Iau a Gwener roeddwn i’n un ohonyn nhw.

 

Serch hynny mae’r refferendwm wedi agor pennod newydd yn hanes y Deyrnas Unedig, ac mae’n bwysig iawn bod Cymru yn sicrhau nad troednodyn yn unig fydd ei chyfraniad at y bennod honno.

 

Fel y nodais ar y blog yma tua mis yn ôl fe allai penderfyniad yr Alban i wrthod annibyniaeth fod yn beth da i genedlaetholwyr Cymru yn y pen draw.

 

Roedd y Deyrnas Unedig yn wynebu datgysylltu aelod dydd Iau. Fe fyddai hynny wedi bod yn ergyd lem, ond byddai wedi llacio'r pwysau ar weddill y corff.

 

O ganlyniad i bleidlais ‘na’ mae’r deyrnas yn wynebu math gwahanol o araith – pob aelod o’r corff (yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon) yn cael eu tynnu i gyfeiriadau gwahanol.

 

O ganlyniad, bydd Cymru yn cael ei dynnu ar wahân i rannau eraill y Deyrnas, hyd yn oed os nad yw’n symud ryw lawer o gwbl.

 

Y Blaid Lafur fydd yn dioddef yn fwyaf llym o ganlyniad i’r artaith yma. O wrando ar ASau Ceidwadol a Rhyddfrydol, yn ogystal â gwleidyddion UKIP, daw’n amlwg eu bod nhw bellach yn gweld bod angen i Loegr dorri yn rhydd o ddylanwad ASau'r Alban a Chymru.

 

Dyw’r Blaid Lafur ddim yn awyddus i weld hynny, oherwydd fe fyddai yn golygu'r gallen nhw ennill y mwyaf o ASau ar draws y Deyrnas Unedig ond bod mewn lleiafrif ymysg ASau Lloegr.

 

Sut allai Ed Miliband, neu un o’i olynwyr, honni bod yn Brif Weinidog ac yntau methu deddfu ar gyfer 83% o’r boblogaeth?

 

O ganlyniad mae yna rwyg yng nghabinet yr wrthblaid, gyda rhai am wireddu eu haddewid i’r Albanwyr drwy fwrw ymlaen yn syth i ddatganoli grymoedd newydd, ac eraill am aros nes ar ôl yr etholiad cyffredinol (gan obeithio y byddwn nhw’n ennill) er mwyn gallu dewis sut orau i ddatganoli i Loegr hefyd heb golli unrhyw rym i’w hunain.

 

Beth bynnag a ddaw, ymddengys yn anochel y bydd y Deyrnas Unedig naill ai’n datgymalu’n araf bach i mewn i drefniant ffederal, neu bydd inertia gwleidyddol San Steffan yn golygu bod y pwysau yn mynd yr ormod nes i’r Alban hollti ymaith erbyn tua 2032.

 

Devo-max

 

Serch hynny, fel y dadleuais ymhell yn ôl yn 2012 rwy’n credu mai camgymeriad oedd hi i Alex Salmond fynd am annibyniaeth yn hytrach na Devo-max.

 

Bob tro yr oeddwn i’n crybwyll y farn honno roedd cenedlaetholwyr yn tueddu i ddweud ‘bydd yr Alban yn cael devo-max beth bynnag a ddaw’.

 

Efallai y bydd hynny yn wir yn y tymor hir iawn - ond yn y tymor byr, os ddaw grymoedd newydd i’r Alban o gwbl (ac fe allai brwydro mewnol yn San Steffan oedi’r cynlluniau yn llwyr) nid devo-max fyddwn nhw ond rywbeth llawer mwy tila.

 

Rwy’n hyderus y byddai Alex Salmond wedi ennill y refferendwm pe bai wedi cynnig devo-max yn hytrach nag annibyniaeth, er nad oes cymaint â hynny o wahaniaeth rhyngddynt. Fel y dywedais yn 2012:

 

“Mae’r polau piniwn yn dangos ei fod yn ddewis poblogaidd iawn yn y wlad, yn llawer mwy poblogaidd nag annibyniaeth – a hynny er ei fod yn trosglwyddo 95% o’r grymoedd o San Steffan i’r Alban. Y cyfan yw Devo-Max ydi annibyniaeth ond â safety blanket cael aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig... Os yw’r Alban yn cael 95% o’r grym gan San Steffan, mater bach wedyn fyddai darbwyllo pobol y dylid gofyn am y 5% ychwanegol.”

 

Mae yna wers i Gymru fan hyn, rwy’n credu. Mae datganoli yn ‘lwybr llithrig’, a dylid bod ychydig yn amyneddgar a llithro i’r gwaelod bob yn dipyn yn hytrach na cheisio neidio oddi ar y llithren a baglu yn yr ymdrech. Rhaid cymryd camau bach a bod yn effro i farn y bobol. Gallai’r Alban fod yn wlad sydd yn 95% annibynnol heddiw pe bai Alex Salmond wedi dewis gwrando ar beth oedd pobl yr Alban yn ei ddweud wrtho. O ystyried mai annibyniaeth-lite a gynigiodd beth bynnag, rwy’n credu mai cam gwag ydoedd o safbwynt cenedlaetholwyr yr Alban. Mae wedi colli degawd os nad mwy o amser.

 

Y cyfryngau

 

Gan aros ar yr un themau – fy mod i’n gywir a pawb arall yn anghywir (jôc!)- hoffwn hefyd nodi fod llawer o’r pryderon oedd gen i o ran dibyniaeth ymgyrchwyr ‘Ie’ ar rwydweithiau cymdeithasol hefyd wedi eu gwireddu ar noson y bleidlais.

 

Nodais bythefnos yn ôl:

 

“Mae gen i bryderon bod momentwm ymddangosiadol un ymgyrch hefyd yn gallu celu’r gwirionedd ynglŷn â maint y gefnogaeth sydd gan y llall. Ymgyrch llawr gwlad yw’r un ‘Ie’ gan fwyaf, gan ddibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bod yr ymgyrch ‘Na’ yn dibynnu i raddau helaethach ar y cyfryngau prif lif. Mantais fawr y cyfryngau cymdeithasol, megis Twitter a Facebook, yw ei fod yn caniatáu i’r ymgyrch ‘Ie’ oddiweddyd y cyfryngau prif lif a throsglwyddo eu neges yn syth i’r pleidleiswyr. Ond mae yna beryglon hefyd. Y pennaf yn eu mysg yw mai’r grŵp oedran sy’n tueddu i fod fwyaf tebygol o bleidleisio, 65+, yw’r grŵp oedran hwnnw sydd ddim yn tueddu i ddefnyddio’r we. Yn ail, gall rhwydweithiau cymdeithasol greu ‘siambr echo’ sy’n rhoi’r argraff bod yna fwrlwm mawr o blaid un ymgyrch, tra mewn gwirionedd eu bod nhw’n siarad â’u hunain. Wrth edrych ar fy ffrwd Trydar i, neu fy nhudalen Facebook, byddai 90% o’r cynnwys o blaid yr ymgyrch ‘Ie’. Ond mae hynny oherwydd fy mod i, weithiau’n ymwybodol, weithiau’n anymwybodol, yn tueddu i ddilyn pobl sy’n rhannu fy nhueddiadau gwleidyddol. Y peryg yw mai dim ond ewyn a swigod yw’r ‘bwrlwm’ o blaid yr ymgyrch ‘Ie’ a fydd yn diflannu yn gyflym ar ddiwrnod y bleidlais.”

 

O ddarllen y cyfryngau cymdeithasol ar fore’r bleidlais, roedd gan bawb stori ynglyn a sut yr oedd mam/chwaer/wncwl oedd wedi bod yn chwyrn o blaid ‘na’ wedi cael ‘Pauline conversion’ ar y ffordd i’r orsaf bleidleisio ac wedi dewis mynd am ‘ie’.

 

Y wers yw nad yw Twitter yn adlewyrchiad o’r sffer gyhoeddus yn ei gyflawnrwydd, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o farn pobl 20-40 oed rhyddfrydol a dinesig.

 

Yn ôl polau piniwn yr Arglwydd Ashcroft, roedd 47% o’r rheini a bleidleisiodd ‘na’ wedi gwneud hynny oherwydd eu bod nhw’n ofni y byddai yn cael effaith economaidd niweidiol ar y wlad.

 

Hynny yw, roedd yr ymgyrch negyddol a gynhaliwyd yn bennaf drwy gyfrwng y gwasg prif lif (papurau newydd a darlledwyr) wedi gweithio i’r dim.

 

Gellid dadlau y bydd nifer o’r bobl 65+ a bleidleisiodd yn unswydd bron yn erbyn annibyniaeth (o 73/27%) wedi ein gadael ni erbyn y tro nesaf y caiff yr Alban gyfle i bleidleisio unwaith eto.

 

Fe fyddan nhw’n cael eu disodli gan genhedlaeth newydd sy’n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol ac felly ddim yn ddibynnol ar y cyfryngau prif lif yn yr un modd.

 

Serch hynny, fel mae fy ymchwil yn awgrymu rydym ni wedi cael cyfnodau o fynhau gwasg rhad a rhydd yn y gorffennol, sydd heb barhau am fwy nag ychydig ddegawdau.

 

O fewn 30 mlynedd mae’n berffaith bosib y bydd cwmnïau wedi darganfod ffyrdd o fasnacheiddio’r we fel y gwnaethon nhw y diwydiant papur newydd ar ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau’r 20fed.

 

Beth bynnag a ddaw, mae yna wers i genedlaetholwyr Cymru fan hyn - mae’n rhaid meddiannu'r cyfryngau prif lif.

 

Mae’n anodd iawn, os nad yn amhosib, ennill refferendwm tra bod pob papurau newydd (namyn un) a pob darlledwr yn eich erbyn.

 

Mae yna wagle yn y cyfryngau yng Nghymru, ac mewn sawl ffordd dyma’r cyfnod gorau ers dros gan mlynedd i ddechrau papur neu gylchgrawn Cymreig (ar yr amod ei fod yn ddigidol!).

 

Os ydynt am argyhoeddi'r torfeydd o rinweddau cenedlaetholdeb Cymreig (a fydd yn dalcen caletach o lawer yng Nghymru oherwydd cymhlethdodau ieithyddol cenedlaetholdeb Cymreig, yn ogystal â newidiadau demograffig Cymry dros y 30 mlynedd nesaf) mae angen gallu cyfathrebu’n dorfol.

 

Fel y dywed Pappy O’Daniel yn un o fy hoff ffilmiau, O Brother, Where Art Thou?: “I'll press your flesh, you dimwitted sumbitch! You don't tell your pappy how to court the electorate. We ain't one-at-a-timin' here. We're MASS communicating!”  

Ymatebion

| 22-09-2014 8:55 pm | #1

Dylid cofio mai Cameron wrthododd gynnwys Devo Max ar y papur, nid Salmond. Bwriad Cameron oedd gorfodi'r Albanwyr i ddewis annibyniaeth lwyr neu beidio, gan dybio y byddai Na yn ennill yn hawdd. Mae'n amlwg nad oedd yn disgwyl i "Ie" fod yn agos.

Mae hefyd yn debygol nad oedd Salmond na'r SNP, ar unrhyw adeg, yn disgwyl ennill y refferendwm mewn gwirionedd. Debyg byddai'r gobeithion wedi codi o ddifrif erbyn yr wythnosau olaf, ond dw i bron yn sicr mai un elfen o gynllun hir-dymor yr SNP oedd y refferendwm.

Mae'n wir nad ydi "adduned" y pleidiau unoliaethol gyfystyr â Devo Max. Panig llwyr a roddodd fod i'r addewid annelwig hwnnw, ond y gwir yw iddo weithio. Mae arolygon yn awgrymu bod y cynnig munud olaf o bwerau ychwanegol wedi dylanwadu penderfyniad o leiaf hanner miliwn o bleidleiswyr "Na", sydd wrth gwrs yn llai nag oedd y bwlch yn y bleidlais.

Petai Devo Max yn opsiwn, mae'n siwr byddai hwnnw wedi ennill yn gymharol gyfforddus. Ond o ystyried bod Llundain bellach yn gorfod wynebu'r ffaith bod 45% o boblogaeth yr Alban yn deisyfu annibyniaeth (gan gynnwys mwyafrif o drydedd dinas fwyaf y Deyrnas) ac, ar ben hynny, bod llawer iawn iawn hyd yn oed o'r rhai a bleidleisiodd "Na" bellach yn dymuno (a'n disgwyl) cael rhywbeth tebyg i Devo Max, mae modd dadlau bod yr ymgyrch annibyniaeth hyd yn oed ymhellach ar y blaen na phetaent dim ond wedi pleidleisio am bwerau pellach mewn refferendwm. Os na fydd yr addewidion yn cael eu gwireddu (a dw i ddim yn credu y byddent), bydd y galw am annibyniaeth yn cynyddu fwy a mwy. Byddai'n syndod anferth i mi pe na bai'r Alban yn annibynnol o fewn 15 blynedd.

Roedd yn sioc i mi pan ymddiswyddodd Salmond, gan nad oedd pwysau arno i wneud (mae'n bosibl mai Salmond oedd yr arweinydd plaid saffaf ym Mhrydain, hyd yn oed wedi'r canlyniad). Ond eto, o edrych yn ôl, mae'n debygol mai dyna oedd y strategaeth o'r cychwyn. Yn dilyn yr ymgyrch, roedd gormod o sylw ar Salmond ei hun yn hytrach nag ar y dadleuon perthnasol, felly mae rhoi'r awennau i Sturgeon (mae fwy neu lai'n sicr mai dyna fydd yn digwydd) yn gam craff iawn. Yn fy marn i mae ganddi'r potensial i fod hyd yn oed yn fwy poblogaidd na Salmond. Yn y cyfamser, bydd Salmond yn ysgrifennu hunangofiant sy'n debygol o gorddi'r dyfroedd ymhen rhyw flwyddyn.

Mae'r SNP bron yn sicr o ennill yr etholiad Holyrood nesaf unwaith eto. A bod yn onest, mae'n bosibl iddynt gynyddu eu mwyafrif. Ar ben hynny, mae posibilrwydd gwirioneddol iddynt wneud yn well na'r Blaid Lafur yn San Steffan ym mis Mai. Byddai'n syndod anferth i mi pe na bai'r Alban yn annibynnol o fewn 15 blynedd fan hwyraf. Dw i'n credu y daw cyn hynny.

O leiaf mae gwleidyddiaeth Prydain yn eithriadol o ddiddorol oherwydd hyn i gyd. Mae'n ystrydeb bod dadleuon cyfansoddiadol yn diflasu'r cyhoedd, ond dyna'r math mwyaf cyffrous o wleidyddiaeth o bell ffordd yn fy marn i. Felly hwre.

| 22-09-2014 9:50 pm | #2

Diolch am y neges, Dylan. Rwy'n cytuno gyda'r mwyafrif, ond dylid cofio mai'r rheswm y llwyddodd DC i gornelu AS ar bwnc annibyniaeth oedd bod AS ei hun wedi addo refferendwm ar annibyniaeth yn ei faniffesto yn 2011. Dydw i ddim yn derbyn chwaith bod yr ymgyrch annibyniaeth "hyd yn oed ymhellach ar y blaen" nawr na phetaent wedi pleidleisio am devo-max mewn refferendwm. Nid symboliaeth annibyniaeth yn unig sydd yn bwysig fan hyn, ond gallu Senedd yr Alban i weithredu er lles pobl y wlad. Fe fyddai ganddynt y gallu i wneud hynny i raddau helaeth gyda Devo-Max, ond gyda pethau fel y maent mae eu gallu i wneud hynny wedi ei gwtogi yn ddifrifol. Ac o fod wedi sicrhau Devo-Max, byddai dadlau'r achos am annibyniaeth yn llawer haws, pan ddaw y refferendwm nesaf mewn 15-20 mlynedd, nag ydyw nawr.

| 22-09-2014 10:09 pm | #3

Mae dau drywydd gwahanol tuag at annibyniaeth, am wn i. Un graddol, sefydlog, digon cyfeillgar a phwyllog a "naturiol", via Devo Max. Yn yr achos hwnnw, y ddadl dyngedfennol fyddai bod pwerau ychwanegol wedi gwella'r Alban, ac mai un cam olaf amlwg yw gadael y Deyrnas Gyfunol yn gyfan gwbl.

Y trywydd arall yw lle mae llywodraeth Llundain yn parhau i drin yr Alban â dirmyg, gan beidio gwireddu addewidion. Nid yn unig hynny, ond lle mae'r ddadl gyfansoddiadol a ddylai fod yn digwydd ar hyn o bryd am ddyfodol yr Alban eisoes wedi'i herwgipio i'r graddau bod y papurau Llundeinig i gyd yn trafod "English Home Rule". Dw i'n cael yr argraff y bydd mwy a mwy o bobl yr Alban yn cael llond bol ar y diffyg hunan-ymwybyddiaeth yma, a'n ychwanegu at yr alwad at annibyniaeth.

Dw i ddim yn siwr fy mod yn cytuno bod y cam o Devo Max i annibyniaeth gymaint â hynny'n llai, chwaith. Hynny yw, ydi, wrth gwrs ei fod, ond y pwynt yw nad yw o reidrwydd yn ymddangos felly ar lefel seicolegol. Mae annibyniaeth yn air mawr, ac mae'r syniad o adael y Deyrnas Gyfunol yn gysyniad sy'n debygol o fod yn anodd i rai pobl dim ots faint o bwerau fyddai gan yr Alban yn barod. Yn hynny o beth, mae rhoi'r cynnig hwnnw ar y bwrdd yn fuan, a chael trafodaeth enfawr amdano, eisoes wedi dangos bod y peth yn bosibl ac wedi achosi i bobl feddwl am y syniad o ddifrif. Bydd ennill y ddadl y tro nesaf, felly, cymaint â hynny'n haws.

| 24-09-2014 3:33 pm | #4

Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod colli'r ddadl unwaith o reidrwydd yn ei wneud yn haws ei hennill y tro nesaf. Yr unig gynsail yw Quebec, lle y mae cefnogaeth tuag at annibyniaeth wedi syrthio ers y refferendwm yn 1995. Yn achos yr Alban, llwyddwyd i dwyllo'r ymgyrch 'na' eu bod nhw am ennill yn hawdd tan y funud olaf. Dyw hynny ddim yn debygol o ddigwydd eto, ac felly mae'r ymgyrch 'ie' wedi colli cyfle euraid.

Fe fyddai annibyniaeth yn parhau yn gam seicolegol, ond o sicrhau devo-max yn gyntaf fe fyddai yn llawer anoddach i'r ymgyrch 'na' godi bwganod am oblygiadau hynny i'r Alba, oherwydd bod y wlad yn 95% annibynol beth bynnag o'i gymharu gyda tua 40% fel ag y mae hi nawr.

Rhaid nodi hefyd bod eleni wedi bod yn amser gwael iawn i fynd am annibyniaeth, oherwydd yr holl ansicrwydd ariannol yn y byd. Mewn unrhyw ddegawd arall fe allai AS fod wedi osgoi cael ei lorio gan gwestiynau annodd am arian cyfredol, ond gan iddo benderfynu cael refferendwm ar gwt dirwasgiad mawr 2008 a'r creisis ym mharth yr ewro roedd y codi bwganod yn llawer mwy effeithiol.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa