Meddylfryd y Cymry

| 29-09-2014 8:16 pm

Ifan Morgan Jones sy'n holi pam bod rhai Cymry yn credu y bydd teyrngarwch i San Steffan yn cael ei wobrwyo...




Drannoeth refferendwm yr Alban roedd gan Rhodri Morgan golofn yn y Western Mail a oedd yn dadlau y byddai Cymru yn cael ei wobrwyo gyda rhagor o ddatganoli am ymddwyn yn dda.

 

Dywed y cyn-Brif Weinidog nad oedd Cymru, yn wahanol i’r Alban ac Iwerddon, wedi “put the whole of the UK through the mincer via referendum or civil war”.

 

Bydd sawl un yn dadlau nad dyma sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Yn wir, mae’r Alban wedi cael rhagor o rymoedd na Chymru oherwydd ei bod wedi bygwth gwleidyddion San Steffan gyda gadael.

 

Dyna pam oedd angen i arweinwyr y prif bleidiau ddatgan ‘yr addewid’ enwog ar dudalen flaen y Daily Record ryw bythefnos yn ôl.

 

Roedd Iwerddon yn yr un modd wedi ennill addewid o ‘Home Rule’ ar ôl degawdau o derfysg a checru yn erbyn canoli grym yn San Steffan.

 

Methwyd a chyflawni hynny ac fe wrthryfelodd y wlad – rywbeth a allai ddigwydd yn yr Alban, drwy gyfrwng y blwch pleidleisio, os nad yw’r setliad datganoli newydd wrth eu bodd nhw.

 

Does yr un wlad hyd y gwn i wedi llwyddo i ennill ymreolaeth nac annibyniaeth drwy fod mor ddiffwdan â phosib.

 

Serch hynny, nid yw dadl Rhodri Morgan yn un newydd ymysg arweinwyr Cymreig, nac hyd yn oed ymysg cenedlaetholwyr.

 

Yn wir, gellid dadlau ei fod yn barhad o feddylfryd Cymreig sydd wedi cyniwair ers dechreuad ein cenedl.

 

Mae Daniel Glyn Jones yn crynhoi dadansoddiad y Cymry o’u hanes eu hunain fel a ganlyn:

 

1)      Y Cymry oedd y Prydeinwyr gwreiddiol, ond eu bod yn bobl bechadurus.  O ganlyniad i’w pechodau penderfynodd Duw eu cosbi, drwy achosi iddynt golli eu hynys i’r Eingl-Sacsoniaid.

 

2)      Gorfodwyd iddynt ffoi i’r gorllewin a chrafu byw ar dir mynyddog a chorsiog. Serch hynny wedi cwta fil o flynyddoedd fe benderfynodd Duw eu bod nhw wedi dioddef digon, a rhoddodd iddynt y Mab Darogan a addawyd iddynt.

 

3)      Daeth Harri VII yn Frenin ar Loegr, gan sefydlu llinach Duduraidd a ddaeth a’r ffydd Brotestannaidd i Gymru a rhoi iddynt Feibl yn eu hiaith eu hunain. Rhyddhaodd hynny’r Cymry o afael Pabyddiaeth a rhoi’r gallu iddynt addysgu eu hunain i ddarllen ac ysgrifennu.

 

4)      Serch hynny, cosb gan Dduw oedd colli sofraniaeth y genedl o hyd, yn hytrach na phroblem wleidyddol y gellid ei datrys. Roedd rhaid derbyn rheolaeth y Saeson drostynt, a diolch i’r Frenhiniaeth am eu rhyddhau o’u hofergoeledd barbaraidd Pabyddol.

 

O ganlyniad i’r meddylfryd hwn, erbyn deffroad gwleidyddol Cymru yn yr 19eg ganrif daw i’r amlwg bod yna garfan sylweddol a oedd yn credu mai’r ffordd orau o ennill ffafr Lloegr oedd yw drwy gadw eu pennau i lawr a phrofi eu hunain yn fwy teyrngar nac unrhyw un arall.

 

Dywed un sylwebydd yn y Gwladgarwr yn ail hanner yr 19eg ganrif ein bod “ni, y Cymry, wedi bod am ganrifoedd bellach yn deyrngarwyr, ac mor ufudd â ffyddlawn i'r llywodraeth, ie, yn fwy felly na'r Saeson eu hunain”. Ie, yn fwy ufudd i’r Saeson... na’r Saeson. Os yw’r fath beth yn bosib.

 

Ni fyddai ymddwyn fel y Gwyddelod yn dod ag unrhyw fudd i’r Cymry, yn ôl sylwebydd yn y Geninen yn yr 1860au: “Dywedwn wrth y rhai sy’n gofyn i ni edmygu ac efelychu'r Gwyddelod, fod y Duw sy’n datguddio ei hun mewn hanesyddiaeth wedi gwenu ar yr undeb rhwng Sais a Chymro.”

 

Roedd hyd yn oed y gwladgarwyr mwyaf pubur megis Thomas Gee, un o hoelion wyth mudiad Cymru Fydd, yn datgan yn yr un modd: “Y mae teyrngarwch dan y teyrnasiad presennol yn rhwymedigaeth o’r fath gryfaf ar y deiliaid oll... Hir oes i Victoria!”

 

Roedd un o genedlaetholwyr pennaf y cyfnod, Ieuan Gwynedd, hyd yn oed yn credu y byddai ei hoffter o Gymru yn annog y Tywysog Albert i ddysgu Cymraeg, am ei fod yn ddisgynnydd i Llywelyn Fawr!

 

Daw’n amlwg felly bod dadansoddiad y Cymry o’u hanes eu hunain wedi gadael creithiau dwfn arnynt, ac wedi effeithio i raddau ar eu gallu i gymryd rheolaeth o’u tynged genedlaethol eu hunain.

 

Ar yr un pryd roedd meddylfryd Darwiniaidd Seisnig yr un cyfnod – a gredai maen nhw oedd athrylithion pennaf y byd ac felly mai eu ffawd oedd rheoli pawb arall – yn bwydo’r un seicosis.

 

Mae’r cyfuniad anffodus o’r ddau feddylfryd hwn yn esbonio amharodrwydd y Cymry i gymryd rheolaeth dros eu ffawd eu hunain, a hefyd eu teyrngarwch i’r Frenhiniaeth (Cymreig) - am iddynt ‘gael’ ganddynt y Beibl Cymraeg.

 

Gellid dadlau bod y meddylfryd yma’n parhau hyd heddiw, a’r teimlad y bydd Duw (neu lywodraeth San Steffan, erbyn hyn) yn ein gwobrwyo ni o hyd ar yr amod ein bod ni’n parhau i dderbyn ein ffawd - sef derbyn rheolaeth hynaws y Frenhiniaeth a’i lywodraeth yn ddi-gwestiwn.

 

Serch hynny does dim tystiolaeth yn y cannoedd o flynyddoedd diwethaf, hyd y gwela i, yn awgrymu bod unrhyw sail i’r gred honno.

 

Mae’r 15 mlynedd diwethaf wedi dangos y daw datganoli i Gymru yn araf bach, yn rhannol oherwydd dirgryniadau platiau tectonig symudol yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

 

Ond os yw’r broses am gyflymu, ni fydd pleidio ein bod ni wedi bod yn blant da o fwy o ddefnydd i Gymry’r 21ain ganrif nac ydoedd i Gymry’r 19eg.

 

Datgysylltu’r Eglwys oedd pen llanw eu hymdrechion nhw, a digon di-nod fydd y datganoli yn ein hoes ni os nad yw ein pleidiau gwleidyddol yn dysgu mai tynnu’r groes yw’r ffordd i gael yr hyn yr ydych yn ei ddeisyfu!

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa