A yw’r dosbarth canol Cymraeg yn lladd yr iaith?

| 05-10-2014 9:06 pm

Ifan Morgan Jones sy'n ystyried a oes angen gwneud mwy i ddarparu ar gyfer chwaeth y mwyafrif...




Mae’r cofnod yma wedi ei sbarduno gan sylw Iola Wyn ar Twitter echddoe:

 

“Angen chwalu'r term'geto dos'canol cymraeg/cymreig'.Dyw e ddim yn bodoli,mae'n creu rhwygiade+yn hynod niweidiol i genedl fach #rantdrosto

 

Dydw i ddim yn siwr beth ysbrydolodd y ‘rant’, ond ceir teimlad bod y dosbarth canol Cymraeg wedi bod dan y lach yn ddiweddar gan rai megis Gwilym Owen a Karen Owen.

 

Maent yn cyhuddo’r dosbarth canol Cymraeg o wladychu trefi a phentrefi dosbarth gweithiol a gwneud i’r bobl deimlo fel “baw isa’r domen”.

 

Diddorol oedd nodi nad ydw i’n ffitio criteria Karen Owen o aelod o’r dosbarth canol Cymraeg. Serch hynny rwy’n eithaf siwr fy mod i’n ‘ran o’r broblem ‘ - os oes un!

 

Felly rydw i wedi creu prawf arbennig, a cwbl wyddonol, ar eich cyfer chi er mwyn i chi weld a ydych chi’n ddosbarth canol go iawn.

 

Cymerwch y cwis! – Pa mor ddosbarth canol Cymraeg ydw i?

 

Tabloid

 

Pythefnos yn ôl ges i gyfeirio at hen flogiad gen i fel prawf fy mod i’n hollol gywir am bopeth.

 

Wel, rhag i chi feddwl fy mod i’n ben mawr, y tro yma rydw i am rwygo un o fy hen erthyglau yn afrif rubannau.

 

Yn y blog hwnnw fe fues i’n dadlau bod llawer o gynnyrch y Gymraeg yn naturiol ‘uchel ael’ am mai dim ond drwy gyfrwng llenyddol a chelfyddydol y mae modd i’r iaith gynnig deunydd gwahanol i’r Saesneg. Camgymeriad fyddai darparu rwtsh ‘tabloidaidd’ ar gyfer yr hoi polloi.

 

Ers ysgrifennu’r blog hwnnw rydw i wedi treulio llawer iawn o amser yn astudio hanes cyhoeddi yn y Gymraeg, ac mae bellach yn reit amlwg nad oes digon wedi ei wneud er mwyn apelio at chwaeth y dosbarth gweithiol.

 

Dyna ran o’r rheswm o leiaf, yn fy marn i, pam y cefnwyd ar y Gymraeg yn nifer o ardaloedd diwydiannol Cymru  - doedd diwylliant crefyddol, llenyddol, sych, Cymraeg y dosbarth canol ddim yn apelio at y dosbarth gweithiol a drigai yno.

 

Ers canol yr 19eg ganrif mae papurau Sul Saesneg wedi bod yn dylifo i mewn i Gymru. Ac o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif roedd papur dyddiol Llundeinig ar gael i’r mwyafrif.

 

Ac, yn anffodus, doedd yna ddim byd hanner mor gyffrous ym Maner ac Amserau Cymru ac oedd i’w gael yn y News of the World.

 

Roedd arweinwyr dosbarth canol (neu o leiaf uwch-ddosbarth gweithiol) y Cymry yn chwyrn yn erbyn unrhyw fath o chwaraeon, sinema, a hyd yn oed am gyfnod nofelau a dramâu.

 

Rwy’n credu bod y Biwritaniaeth oedd ynghlwm wrth ddiwylliant anghydffurfiol y Cymry Cymraeg hynny wedi rhoi’r argraff i nifer fod y Gymraeg yn iaith ddiflas, tra bod y Saesneg yn ddiddorol.

 

Hyd yn oed yn 2il hanner yr 20fed ganrif, roedd rhai, fel R. Tudur Jones, yn dadlau mai'r broblem oedd bod y diwylliant Cymraeg yn rhy adloniadol, yn hytrach nag i’r gwrthwyneb.

 

Ni fyddai, yn fy nhyb i felly, yn gwneud drwg ceisio apelio mwy at chwaeth fwy tabloidaidd mewn cyhoeddiadau Cymraeg, ac ar y teledu hefyd. Mae gan y Gymraeg ‘image problem,’ ys dywed y Sais, o hyd.

 

Fe geisiodd Heno gyflawni hyn am ryw bythefnos, cyn cael panic a thrawsffurfio yn ôl i mewn i Wedi 7, sy’n parhau i anelu at ddenu’r dosbarth canol Cymraeg yn unig.

 

Er bod llawer o droi trwyn a chwyno amdanynt ymysg y dosbarth canol, nid yw’n syndod efallai mai sioeau mwyaf poblogaidd S4C yw rhai fel Jonathan, sydd yn denu cynulleidfa na fyddai yn gwylio'r gweddill o arlwy'r sianel.

 

Ydi hyn yn golygu bod y dosbarth canol Cymraeg yn lladd yr iaith? Na, ond fe allai awgrymu ein bod ni yn gwneud yr un camgymeriad a dosbarth canol Cymraeg diwedd yr 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, sef ceisio cadw’r iaith o fewn ffiniau sy’n dderbyniol i ni, yn hytrach na darparu ar gyfer chwaeth y mwyafrif.

Cyn i rywun fy nghyhuddo o fod yn snobyddlyd, rwy’n credu bod y ‘mwyafrif’ hefyd yn cynnwys nifer a fyddai yn cynnwys eu hunain ymysg y dosbarth canol Cymraeg.

 

Rydw i newydd fod yn gwylio’r X Factor – nawr fe fyddaf yn bwrw ati â nofel Gymraeg. Rwy’n gwybod pa un fydd fwyaf poblogaidd!

Ymatebion

| 07-10-2014 7:35 am | #1

Dwi wedi cnoi cil yn aml ynglŷn a'r diffiniad o'r "dosbarth canol Cymraeg". Mae gyda chi rai Cymry Cymraeg sy'n sicr yn ddosbarth canol o ran eu incwm a'u hansawdd byw; ond wedyn a dim ddiddordeb yn niwylliant y "pethe". Ond un peth dwi wedi sylwi ers bod yn Weinidog yn Nyffryn Nantlle yw fod yna lwyth o ddosbarth gweithiol sy'n sicr iawn o beth ddim yn 'ddosbarth canol' o ran eu hincwm a'u hansawdd byw; ond eto fyth diwylliant y 'pethe' (llenyddiaeth, eisteddfod, capel) a ystyrir gan rai yn 'ddosbarth canol' yw popeth iddyn nhw. Fel un sy'n dod o Aberystwyth lle mae'r diwylliant Cymraeg, ar y cyfan, yn 'ddosbarth canol', ces i sioc rai misoedd ar ôl gweithio yn Nyffryn Nantlle mai cynorthwydd mewn cegin ysgol oedd y wraig fuodd yn trafod arweinyddiaeth y Blaid efo fi, ac mai plastrwr oedd y gŵr fu'n trafod emynyddiaeth Robat Jones efo fi. Roeddwn i wedi cymryd mai athrawes neu was sifil wedi ymddeol oedden nhw. Fi, ffôl yn fy naifrwydd.

Beth dwi'n trio dweud ydy hyn - er mor graff oedd dweud Dave Datblygu yn Can i Gymru, mae digon o enghreifftiau yn bodoli sy'n chwalu'r ystrydeb. Mae'r diwylliant Cymraeg, hyd yn oed yn ei wedd 'pethe' yn ddigon eang i gynnwys pobol o bob haen gymdeithasol ac mae digon o Gymry Cymraeg 'dosbarth canol' allan yna sydd a dim diddordeb o gwbwl yn y diwylliant honedig 'dosbarth canol Cymraeg'.

| 07-10-2014 8:19 am | #2

Diolch am yr ymateb, Rhys. Rwy'n cytuno nad oes cymaint a hynny o gysylltiad rhwng statws economaidd a beth fydden ni'n ei alw yn 'dosbarth canol Cymraeg'. Efallai yn wir bod term Iola Wyn yn y blog sy'n ymateb i hon, 'Pobl y Pethe', yn fwy cywir. Mae hynny'n wir drwy gydol hanes Cymru - nid oedd y 'dosbarth canol' o bregethwyr Ymneilltuol y cyfiriwyd atynt uchod yn fateriol ddim cyfoethocach na'r bobl o'u cwmpas (ac yn aml yn dlotach), heblaw am ambell i eithriad. Natur eu gwaith - y ffaith bod ganddynt amser i feddwl ac ysgrifennu - oedd yn gyfrifol am y ffaith eu bod nhw'n cael eu hystyried yn 'ddosbarth canol' neu o leiaf yn 'uwch-ddosbarth gweithiol'.

Y broblem yn y bon, ac efallai nad yw'n broblem y mae modd dianc ohoni, yw mai 'pobl y pethe' sydd, wrth reidrwydd, yn creu y stwff Cymraeg - a llawer ohono'n wirfoddol, heb ryw lawer o obaith am wobr materol o bwys. Ac felly mae'r stwff diwylliannol sy'n cael ei greu yn Gymraeg yn tueddu i adlewyrchu eu diddordebau nhw, nid be fyddai yn apeio at y mwyafrif. A fyddai'r bobl rhain yn gallu darparu ar gyfer chwaeth y Cymry Cymraeg sydd ddim yn 'bobl y pethe' heb golli naws a safon arbennig cynnyrch y diwylliant Cymraeg?

| 07-10-2014 9:52 am | #3

Cytuno'n llwyr â'ch pwyntiau Ifan a Rhys. (Ag eithrio'r frawddeg am Aberystwyth, ar y cyfan yn ddosbarth canol) Dyw mwyafrif Cymry Cymraeg brodorol Aber a'r cyffiniau 'RIOED wedi bod i'r Llyfrgell Genedlaethol na'r Hen Goleg, a dyw eu pocedi nhw ddim yn pwyso'n drwm, o'r hyn wela i.
Mewn ymateb i'r frawddeg olaf Ifan.Beth yw chwaeth y Cymry Cymraeg sy' DDIM yn bobl y pethe? Gyda phobl y pethe, mae gen ti feysydd penodol sydd o ddiddordeb ee iaith, llenyddiaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac yn y blaen.
Gyda chwaeth y Cymry Cymraeg sy' ddim yn bobl y pethe, mae'r rhestr yn ddibendraw ac felly mae'n llawer mwy heriol. Er enghraifft, gall un fod â diddordeb mawr mewn gwartheg Belgian Blue, gall un arall fod yn ffan mawr o Sam Fox!!Un arall yn hoffi beics BMX. Mae eu ddiddordebau nhw weithie yn medru bod yn fwy cyfyng na phobl y pethe, A felly, lle ti'n dechre arni? Os y byswn i'n llunio erthygl ar Belgian Blues, faint fyddai yn eu darllen? Yn aml, sdim llawer yn gyffredin rhwng y bobl sydd yn y categori yma. Pobl sy' a ddiddordeb mewn rhywbeth penodol iawn yn y diwylliant Seisnieg/rhyngwladol yden nhw, ac felly dyden nhw ddim mewn categori mewn gwirionedd .
A hyd yn oed wedyn, sut wyt ti'n eu cyrraedd nhw? Yn sicr, mi fydde angen bod allan yna, yn eu canol nhw ,yn hyrwyddo ffwl pelt.
A wedyn mi fydde angen i ti rannu dy ddeunydd i wahanol gategoriau, boed hynny yn fyd pop/ffasiwn, pethe i'r ieuenctid. Yna bydde ti angen deunydd arall ar gyfer dy ffans Massey Fergusons, a pheirianne fferm; rhywbeth arall ar gyfer ffans canu gwlad, a beth am bobl sy'n hela da ffured? Alle ti fynd mlaen a mlaen. A dyw'r arian a'r adnoddau yn amlwg ddim yna i gyflawni hynny.

| 07-10-2014 10:00 am | #4

Ti'n iawn Ifan, ac hefyd mae wastad mynd i fethu pan rwyt ti'n trio ateb y broblem y pro-actif oherwydd beth gei di yw rhywun 'dosbarth canol' (sydd ag amser a hefyd calon yn y lle iawn) yn ceisio dyfalu beth fyddai'r 'mwyafrif' Cymraeg eisiau. Fail. Beth sydd angen yw arfogi'r mwyafrif i wneud e eu hunain. Plannu hadau chwyldro diwylliannol! Ond Sut?

| 07-10-2014 10:36 am | #5

Ifan- be am gylchgrawn Lol? Hwn yn gorfod bod yn rhan o'r hafaliad yn rwla?!! Tabloid dosbarth canol?! ;-)

| 07-10-2014 10:39 am | #6

Rwy'n cytuno ar y cyfan Iola, ond yn anghytuno ar rai pwyntiau penodol hefyd.

Problem economaidd yw hwn yn y bon. Mae cyfalafiaeth torfol wrth reddf yn darparu ar gyfer chwaeth y mwyafrif. Felly yn y Saesneg mae llawer o bobl creadigol - sy'n tueddu i fod yn ddosbarth canol, gan amlaf, y tu hwnt i ambell faes .e.e cerddoriaeth - yn cael eu cyflogi i greu stwff ar gyfer pobl dosbarth gweithiol.

Nid oes modd gwneud arian o greu stwff yn Gymraeg. Felly does dim yr un cymhelliant ariannol i'r bobl dosbarth canol greu stwff a fydd o ddiddordeb i'r dosbarth gweithiol. Dau nod sydd yn unig - 1) Bodloni angen creadigol awdur y gwaith i greu. Mae hynny'n golygu ei fod yn tueddu i greu stwff y byddai o/hi - yr awdur dosbarth canol - yn hoffi ei ddarllen/wylio/gwrando arno. 2) Derbyn clod ei gyd-Gymru, bydded hynny drwy sgwennu nofel dda, ennill Coron/Cadair/Medai Ryddiaith ayyb, neu fodloni gwylwyr S4C/gwrandawyr Radio Cymru. Wrth gwrs, gan bod y mwyafrif oi'r rhain (neu o leiaf y mwyaf dylanwadol yn eu plith) hefyd yn 'bobl y pethe' mae'r awdur yn tueddu i greu stwff sy'n debygol o gwrdd â'u chwaeth nhw.

Eithriad i hyn fyddai awdur fel Dewi Prysor, sy'n sgwennu ar gyfer y 'werin' ac yn anelu at ennill eu clod nhw yn hytrach na'r 'dosbarth canol', a dyna pam fod ei waith yn gymaint o chwa o awyr iach. Serch hynny, prin iawn yw'r awduron, beirdd, sgriptwyr, cyfarwyddwyr a chantorion eraill sy'n gallu honni perthyn i'r werin datws. Nid diffiniad economaidd yw hwn, ond yn hytrach un yn seileidig ar hoffter tuag at lenyddiaeth, theatr, a'r 'pethe' eraill fel y sioniodd Iola amdanynt.

Beth yw'r ateb felly? Yn wahanol i Iola dydw i ddim yn credu bod chwaeth y 'dosbarth gweithiol' neu'r Cymry dosbarth canol sydd heb ddim diddordeb yn 'y pethe' mor amrywiol fel nad oes modd apelio atynt. Mae yna sawl maes nad yw'r diwylliant Cymraeg yn mentro iddynt yn aml iawn, ac mae hynny o bosib yn parhau'n 'hangover' o ddylanwad lled-Biwritanaidd diwylliant Cymraeg yr 19eg ganrif. Meddyliwch am gomedi, chwaraeon, cerddoriaeth pop. Mae S4C yn ymdrechu i gyflawni rhain ond heb unrhyw angerdd mawr, ac maent yn fwyaf aml wedi eu gwthio i'r cyrion. Mae Sgorio a Bandit yn diflannu, a mae yna sioc pan mae Dim Byd yn gwneud i ni chwerthin am y tro cyntaf ers C'mon Midffild. Hyd yn oed pan mae S4c yn mynd i'r afael a cymeriadau dosbarth gweithiol, e.e. Tipyn o Stad, neu Alys, maent yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n tueddu i aeplio at chwaeth (ac efallai tueddiadau voyeuristic) eu cynulleidfa dosbarth canol. O ran ymdrechiuon yr rheini sy'n ysgrifennu neu'n creu o'u gwirfodd eu hunain, dyw comedi. chwaraeon neu gerddoriaeth pop bron byth yn cael sylw.

Nid pwyntio bys ydw i fan hyn - rydw i'n rhan o'r union yr un broblem. Rydw i wedi ysgrifennu un nofel am y mabinogi, un hanesyddol am fae Caerdydd yn yr 20au, ac mae'r nesaf gen i am wleidyddion y Cynulliad. Dyma faterion 'dosbarth canol' sydd o ddiddordeb i fi - a does dim cymhelliant i fi ysgrifennu ar gyfer unrhyw un arall blaw am y cyd-Gymry dosbarth canol ydw i'n troi yn eu cylchoedd nhw.

| 07-10-2014 11:33 am | #7

.
Y cwestiwn gwreiddiol oedd. Ydy pobl dosbarth canol Cymraeg yn lladd yr iaith? Fy marn i (mor gryno a chlir â phosib! ) ydy :
Ni'n cymysgu dau beth fan hyn. Mae 'na awgrym bod angen i mwy o bobl gael eu denu i mewn i fyd y wasg, cyfrynge a'r gymdeithas gymunedol Gymraeg, oherwydd byddai hynny yn achubiaeth i'r iaith (gweler "lladd yr iaith") Ond i fi, mae'r bobol yma sy' ddim yn ymddiddori yn y " pethe cymraeg " yn DAL I SIARAD CYMRAEG yn gwbwl naturiol, er eu bod nhw'n gwylio Coronation Street yn hytrach na Heno neu'n darllen y Mirror yn hytrach na Golwg. Ac felly, does dim pwysau i'w denu draw i'r pair diwylliannol Cymraeg yma ac ehangu ei apel, ar sail panig am sefyllfa''r iaith. Mae nhw wedi ticio'r blwch siarad Cymraeg yn y cyfrifiad, ac felly mae'n nhw'n cyfri. Dyden nhw ddim yn ymddiddori mewn llawer o bethe Cymraeg a dyna ni. Fedri di ddim eu gorfodi nhw.
Pam felly bod angen i ni fel cymdeithas deimlo'n wael nad ydyn ni yn ehangu'n hapel i'w cynnwys nhw?
Dwi'n deall yn iawn (ac yn cydymdeimlo ) pam fod angen i'r cyfryngau, y wasg, y byd cyhoeddi a'r Eisteddfod geisio ehangu eu hapel, oherwydd eu bod nhw'n llwyr ddibynnol ar arian er mwyn eu parhad, a hynny'n arian o Lundain yn aml. Ac oherwydd hynny, mae nhw o dan bwysau i fod yn ychydig o bopeth i bawb, oherwydd ma' popeth yn ddibynol ar ffigyrau cynulleidfa, ac mae angen cyfiawnhau pob dime goch sydd wedi ei dderbyn.
Ond o safbwynt yr iaith, does yna ddim bygythiad ar y pwynt penodol yma. Hynny yw, mae yna ddau gategori. Un sy'n mwynhau'r pethe traddodiadol Gymraeg ac eraill sy'n mwynhau croesdorriad o bethau yn yr iaith Saesneg. Ond mae'r ddau gategori yn siarad Cymraeg, jyst yn byw mewn swigen wahanol, ac felly sneb yn lladd yr iaith drwy fyw mewn swigen ddiwyliannol benodol.
Ydy'r dosbarth canol Cymraeg yn lladd S4C, Radio Cymru a'r Wasg Gymraeg ? Wel mae hynny'n fater arall, a dwi'n credu taw dyna yw'r cwestiwn fan hyn, nid lladd yr iaith.

Ac ar y pwynt ynglyn â chreu rhaglenni Cymraeg sy'n "bach o bopeth i bawb" ac sy'n bodloni'r ddwy swigen,prin iawn iawn yw'r meysydd fyddai'n llwyddo. Yr unig un sy'n dod i'r meddwl ar hyn o bryd, ydy rhaglen deledu yn hwyr y nos yn llawn noethni, oherwydd bydde tipyn o "bobl y pethe" yn ei gwylio ar y slei, a byddai'r lads a'r ladettes wrth eu bodde. A dwi ddim am ddechre dadl ffeministaidd, foesol fan hyn! Jyst nodi ffaith!

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa