Yr Express a’r gaeaf oeraf erioed

| 12-10-2014 5:35 pm

Ifan Morgan Jones sy'n gofyn a oes lle i gredu straeon y papur am y tywydd...




Mae gen i newyddion drwg iawn – mae’r gaeaf oeraf erioed ar y ffordd.

 

Fe fyddwn ni wedi ein caethiwo yn ein tai am fisoedd gan wal o eira uwch na hwnnw a welwyd yn ‘Game of Thrones’.

 

Bydd Môr Iwerddon yn rhewi drosodd gan ganiatáu i ni efelychu Bendigeidfran a cherdded draw i Ddulyn.

 

Dyna’r stori yn ôl papur newydd yr Express heddiw - a gan eu bod nhw’n bapur newydd cenedlaethol, parchus, fe ddylen ni wrth gwrs eu credu.

 

Winter 2014 set to be 'coldest for century' Britain faces ARCTIC FREEZE in just weeks

 

Yn anffodus mae hi ychydig yn anodd llyncu honiadau’r Express, gan eu bod nhw wedi dweud yn union yr un peth yn 2013:

 

100 DAYS OF HEAVY SNOW: Britain now facing worst winter in SIXTY YEARS warn forecasters

 

Ac unwaith eto yn 2012:

 

Coldest winter in 100 years on way

 

A dweud y gwir mae stori’r Express yn nodi bod y ‘gaeaf oeraf erioed’ ar ei ffordd yr un mor hawdd ei ddarogan erbyn hyn a newid y tymhorau, neu godiad yr haul.

 

Yn wir, dim ond deuddydd cyn i’r stori uchod ymddangos, fe fum i’n crafu pen ar Twitter yn holi pam bod y stori arferol wedi ymddangos eto eleni. Nid wy’n teimlo bod yr haf drosodd o ddifri nes bod yr Express yn darogan bod sul y pys rhewedig ar ei ffordd.

 

Mae Dylan Llŷr wedi treulio blynyddoedd ar ei flog Anffyddiaeth yn datgelu bob math o gredoau goruwchnaturiol afresymol, ac rwy’n credu bod honiadau dwl am y tywydd yn faes arall sy’n haeddu ei sylw.

 

Y gwir yw ei fod bron yn amhosib darogan sut dywydd fydd hi mewn pythefnos, neb son am hyd at bum mis yn y dyfodol, fel y mae’r Express yn ei honni fan hyn.

 

Y drwg yn y caws ym mhob un o’r straeon yma yw James Madden o ‘Exacta Weather’. Mae’r dyn yma yn ‘broffwyd tywydd’ yn yr un modd ag y mae dyn sy’n sefyll ar ymyl y ffordd yn dweud bod y byd ar fin dod i ben yn ‘broffwyd’ i’r cwlt y mae’n gweinidogaethu arno.

 

Ac fel arweinydd cwlt mae’n rhoi i nifer o bobl yr hyn y maent ei eisiau - sef addewid o eira. Yn anffodus mae’r blynyddoedd ers iddo ddechrau darogan gaeafau hynod o rewllyd hefyd wedi cyd-daro â chyfres o aeafau mwyn, ar ôl oerfel gaeafau oerach na’r arfer 2008-2010.

 

Mae James Madden yn darogan y gaeaf gwaethaf erioed bob blwyddyn yn ddi-ffael oddi ar 2011. Nid yw erioed wedi bod yn gywir yn hynny o beth, ond fel cloc wedi stopio mae rhai o’i broffwydoliaethau weithiau yn gywir, e.e. roedd wedi darogan ‘storm ym mis Hydref’.

 

Gall coeden ddarogan storm ym mis hydref. Dyna rhan o’r rheswm pam y maent yn diosg eu dail. Nid yw’n cymryd llawer o feddwl na sgil i wneud hynny.

 

Y llynedd, unwaith eto yn yr Express, roedd wedi darogan y byddai eira trwm yn disgyn ym mis Tachwedd. Cyfiawnhaodd ei honiad gan ddweud wedyn bod ambell i bluen wedi syrthio – ar ben mynyddoedd yr Alban.

 

Roedd hefyd wedi darogan haf a hydref llawer oerach na’r arfer eleni. Fel ydyn ni’n gwybod erbyn hyn, roedd yr haf yn sych a phoeth ar y cyfan, ac mae’r hydref wedi bod yn gynnes hyd yma. Honnodd yn ddiweddarach ei fod wedi rhagweld y tywydd poeth wedi’r cwbl.

 

Ar un llaw, beth yw’r ots? Os yw’r dyn yma a’r rheini sy’n talu am ei wasanaethau am fwynhau breuddwydio am sleido yn yr eira, fel ryw Charles Foster Kane-iaid cyfoes, does dim byd o’i le ar hynny.  

 

Ond mae yna elfen ychydig yn fwy sinistr y tu ôl i hyn i gyd. Enw gwefan James Madden yw ‘Global cooling and the new ice age’.

 

Nid yw’n deg honni fod gan James Madden ei hun unrhyw fath o agenda, ond mae’r sylw hollol anghymesur mae’n ei dderbyn yn y wasg yn awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio gan rai sydd am argyhoeddi eu darllenwyr nad yw cynhesu byd-eang yn digwydd mewn gwirionedd.

 

Y cwestiwn yw, am ba hyn y bydd yr Express yn bodloni ar wneud i’w hunain edrych yn ddwl drwy broffwydo bob blwyddyn mae’r gaeaf eleni fydd y ‘gwaethaf erioed’?

 

Nid yw’n dric newydd. Fe wnaeth y newyddiadurwr Cymraeg cyntaf erioed, Thomas Jones (1648-1713), ei arian drwy werthu almanac oedd yn proffwydo tywydd erchyll a diffygion ar yr haul hyd at flwyddyn o flaen llaw. Nid wnaeth yr anwireddau rheini effeithio ar y gwerthiant.

Y peryg wrth gwrs yw nad yw y mwyafrif o’u darllenwyr yn cadw llygad barcud ar y wasg, yn cofio hen straeon, nac yn effro i ogwydd o’r fath.

 

Yn oes Facebook a Twitter mae darllenwyr hefyd yn llawer llai gofalus ynglŷn ag o le y maent yn cael eu gwybodaeth.

 

Rydw i eisoes wedi gweld stori ddiweddaraf yr Express yn cael ei rannu yn helaeth ar rwydweithiau cymdeithasol ymysg fy ffrindiau fy hun.

 

Mae hyn hefyd yn dangos bod cymhelliad arall i ail-ddefnyddio’r un hen stori – llawer iawn o ‘hits’!

 

Wrth ystyried bob stori newyddion, rhaid ystyried pwy sy’n elwa o gyhoeddi’r wybodaeth sydd ynddo.

 

Yn yr achos yma, mae’r stori yn cadw busnesau sydd am ein hargyhoeddi nad yw newid hinsawdd o ganlyniad i weithredoedd dyn yn digwydd, busnesau sydd am werthu nwyddau eira, a hysbysebwyr yn hapus.

 

Y collwyr yw darllenwyr hygoelus yr Express, a newyddiadurwyr gonest. Heb son am danysgrifwyr oedrannus (prif farchnad y papur) fydd yn poeni i’r byw am gynhesu eu tai'r gaeaf hwn.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa