Ffrae y Gwasanaeth Iechyd - a’r angen am bapur Saesneg cenedlaethol

| 22-10-2014 10:42 am

Ifan Morgan Jones sy'n dweud bod angen papur newydd cenedlaethol Saesneg dyddiol a digidol ar Gymru heddiw...

Mae ffrwgwd y Daily Mail a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd gwladol yn ein hatgoffa ynglŷn â pham nad yw’r wasg Brydeinig bellach yn gymwys i adrodd ar y newyddion yng Nghymru.

Oes, mae yna broblemau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ac mae angen tynnu sylw atynt. Ac mae angen rhagor o sylw i waith Llywodraeth Cymru yn gyffredinol. 

Ond ni fydd ymosodiadau dros ben llestri sy’n ail-bobi hen newyddion fel y rheini a welwyd yn y Daily Mail yn arbennig o ddefnyddiol wrth hysbysu pobl Cymru ynglyn a beth sy’n mynd ymlaen yn eu Senedd. Ar y gorau, y cyfan y byddant yn ei gyflawni yw ystyfnigo Llywodraeth Cymru, a sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn ochri â Llafur yn erbyn ymosodiadau ‘o’r tu allan’.

Propaganda pur ydynt, gyda’r nod o daflu baw at y Blaid Lafur cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai'r flwyddyn nesaf. Pêl-droed gwleidyddol yn unig yw Cymru, ac nid beth sydd orau i’w thrigolion sydd ar flaen meddwl golygydd y Mail.

Rydyn ni’n clywed yn aml iawn y dylai’r papurau Llundeinig dalu rhagor o sylw i’r Cymry. Ond y gwir yw nad oes unrhyw reswm da iddynt wneud hynny. Canran bychan iawn o ddarllenwyr y Mail, y Guardian, neu unrhyw bapur arall, sy’n trigo yng Nghymru, ac nid ydynt chwaith y math o bobl - ifanc, cefnog - y mae’r hysbysebwyr am eu cyrraedd.

Yn wir, fe allai pawb yng Nghymru roi’r gorau i brynu papurau’r newydd Llundeinig yfory, ac ni fyddant yn colli unrhyw gwsg dros y peth.

Os ydyn ni’n disgwyl am sylw haeddiannol i Gymru ym mhapurau cenedlaethol Lloegr, fe fyddwn ni’n disgwyl nes Sul y Pys. Os ydyn ni eisiau sylw haeddiannol, rhaid i ni arwain y ffordd ein hunain.

Beth sydd ei angen yw papur newydd digidol cenedlaethol ac annibynnol yng Nghymru - a hwnnw’n bapur Saesneg.

Mae angen un am ein bod ni bellach yn genedl ar wahân - nid ym meddyliau penboethiaid cenedlaetholgar yn unig ond ym mhob ystyr arall, llywodraethol a chyfreithiol, hefyd. Ac yn sgil y bleidlais ar annibyniaeth yn yr Alban, rydym ar fin dechrau ar gyfnod newydd o ddatganoli a fydd yn parhau’r tueddiad hwnnw.

Nid yw’n beth iach mewn unrhyw ddemocratiaeth bod y bobl yn derbyn gwybodaeth sydd ddim yn berthnasol iddyn nhw, a heb glywed newyddion am faterion sydd yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Ond dyna’r sefyllfa yng Nghymru heddiw.

Y cyfryngau Cymreig

Ond beth sy’n bod ar y cyfryngau sydd gennym ni? Mae gennym ni’r BBC, y Western Mail, y Daily Post, Golwg a Golwg 360, Barn a’r Cymro, ac afrif bapurau lleol eraill.

Yn gyntaf oll, rhaid gwneud y pwynt bod yr iaith Gymraeg wedi ei wasanaethu yn reit dda, erbyn hyn, er gwaethaf y diffyg papur newydd cenedlaethol Cymraeg.

Ers lansiad Newyddion 9 yn arbennig mae gan siaradwyr Cymraeg raglen ddyddiol o safon uchel sy’n darparu’r newyddion o safbwynt Cymreig. Dyma ‘y Byd’ ar ffurf weledol a chlywedol.

Mae Golwg 360 a BBC Cymru Fyw hefyd yn darparu gwasanaethau cwbl Gymreig eu natur ar lein, gyda Golwg a Barn yn dadansoddi’n wythnosol a misol. Am y tro cyntaf ers canrif a mwy, mae newyddiaduraeth Cymraeg o safon ar gael, beth bynnag am y ffigyrau sy’n gwneud defnydd ohono.

Beth sy’n fy mhoeni i yw’r gwasanaethau newyddion rheini sydd ar gael i’r uniaith-Saesneg, sef y mwyafrif o drigolion y wlad. Does dim darpariaeth cystal ar eu cyfer nhw.

Beth bynnag y mae’r dudalen flaen yn ei honni, nid yw’r Western Mail yn bapur cenedlaethol. Gwasanaethu cynulleidfa yn ne ddwyrain Cymru y mae yn bennaf, heb lawer o sylw i’r hyn sy’n digwydd yn y gogledd.

Nid yw’n hanesyddol yn arbennig o gefnogol tuag at nodweddion unigryw hanes a diwylliant Cymru, chwaith, er gwaethaf ei gefnogaeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru, a thîm rygbi Cymru.

‘Western Britain’ yw Cymru i’r Western Mail, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu. Mae rhai wedi bod yn fwy llafar eu beirniadaeth, er enghraifft golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick:

“The constant in the history of the Western Mail - self-appointed 'national newpaper of Wales' is that they think being Welsh is a handicap.”

Ychydig yn fwy amhendant yw tuedd golygyddol y Daily Post, ond gellid awgrymu yn yr un modd mai papur rhanbarthol yw hwn, nid un cenedlaethol. Maent eisoes wedi rhoi’r gorau i ddarparu papurau newydd ar gyfer trigolion y de, hyd yn oed drwy archeb. 

‘Spin off’ o’r Liverpool Daily Post (sydd bellach wedi cau) ydyw, ac nid yw’n dod dan faner Media Wales.

Rhwng tiriogaeth y Daily Post a’r Western Mail ceir degau o bapurau lleol hynod ‘generic’, sy’n darparu’r newyddion, ond heb ddweud ryw lawer am natur unigryw hanesyddol neu ddiwylliannol yr ardaloedd y maent yn ymddangos ydynt. Sefydlwyd nifer o’r papurau newydd rhain yn yr 19eg ganrif er mwyn darparu ar gyfer cnewyllyn bach o fasnachwyr a diwydianwyr dosbarth canol, Saesneg eu hiaith. Mae’r cwbl bron a bod erbyn hyn dan reolaeth y cwmni Trinity Mirror, sydd â 240 o bapurau tebyg ledled Prydain. Gellid eu trawsblannu o un ardal i’r llall ac ni fyddai unrhyw un llawer callach.

Beth am y BBC ei hun felly? Does dim dadlau nad ydynt  yn darparu gwasanaeth o safon yn y Saesneg. Yn anffodus gwasanaeth rhanbarthol ydyw, ac mae hynny wedi ei adlewyrchu yn nyluniad eu gwefan ac yn nhref y bwletinau newyddion gyda’r nos.

Ac er gwaethaf safon ddi-gwestiwn gwasanaeth y BBC, mae angen mwy nag un gwasanaeth cenedlaethol Saesneg ar Gymru.

Mae ambell i wasanaeth gwirfoddol eisoes wedi ceisio llenwi’r gwagle hwnnw. Yn anffodus mae ymdrechion megis Daily Wales a Wales Eye yn amlwg yn amhroffesiynol, ac mor unllygeidiog eu bod braidd yn chwerthinllyd. Darnau barn ydynt gan amlaf yn chwarae ar fod yn straeon newyddion. Dydw i ddim yn gweld bai arnynt am hyn – mae’n anodd cynnal safon gyda newyddiadurwyr gwirfoddol.

Mae yna angen amlwg felly am bapur newydd cenedlaethol Saesneg ar Gymru.

Pam nad oes un eisoes yn bodoli?

Ni chafwyd papur newydd o’r fath yng Nghymru erioed, yn Gymraeg nac yn Saesneg.

Roedd papurau newydd Saesneg yn tueddu i fod yn rai wythnosol lleol, fel y soniwyd eisoes, neu yn rhai dyddiol a oedd yn gwerthu ledled Prydain.

Tra bod gogwydd cenedlaethol yn rhan o wead papurau newydd a chylchgronau Cymraeg ers y dechrau’r deg, methwyd a gwireddu'r freuddwyd o gyhoeddiad dyddiol.

Y prif reswm am hyn oedd bod Cymru yn wlad fynyddig gyda phoblogaeth wasgaredig, ac felly ei fod yn anodd cael newyddion dyddiol o un pen i’r wlad i’r llall.

Ceisiwyd sefydlu papur newydd cenedlaethol Saesneg, y Cronicl, yn hanner cyntaf yr 19eg ganrif, ond methwyd oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth wael.

Roedd y rhwydweithiau trafnidiaeth a greuwyd yn sgil y chwyldro diwydiannol yn tueddu i redeg o’r dwyrain i’r gorllewin, er mwyn tynnu nwyddau allan o Gymru, a hefyd er mwyn cyrraedd yr Iwerddon.

Roedd felly yn haws darparu ar gyfer anghenion Cymru gogledd am bapurau newydd a chylchgronau o Loegr nad ydoedd o dde Cymru, ac i’r gwrthwyneb.

Mae tirwedd Cymru a chyflwr y rhwydwaith drafnidiaeth o fewn y wlad yn parhau yn her dosbarthu i gylchgronau a phapurau newydd Cymru.

Pan oeddwn i’n gweithio i gylchgrawn Golwg, er enghraifft, roedd yn mynd i’r wasg yn Aberystwyth ar y nos Fawrth ac yn cyrraedd fy nesg yn Llambed ar fore Mercher. Ond fe fyddai yn ddydd Iau erbyn iddo fod ar werth mewn siopau ledled y wlad.

Roedd dechrau’r 20fed ganrif yn cynnig heriau newydd i lansio papur newydd cenedlaethol i Gymru. Cynyddodd pris argraffu yn sylweddol yn sgil y rhyfeloedd byd, ac roedd arbedion maint yn golygu ei bod yn llawer rhatach argraffu papur ar gyfer Prydain gyfan nac un rhan ohono yn unig.

Roedd aflwydd y diwydiannau trwm yng Nghymru o’r 1920au ymlaen hefyd yn golygu nad oedd gan Gymry'r cyfoeth bellach i ddenu sylw'r hysbysebwyr oedd mor bwysig i gynnal papurau newydd.

Caeodd y papurau newydd a sefydlwyd yn yr 19eg ganrif yn eu degau, neu uno i mewn i bapurau mawr cenedlaethol Prydeinig, neu ranbarthol a oedd yn gwasanaethu’r gogledd neu’r de yn unig.

Pam bod cyfle i lansio un heddiw?

Mae datblygiadau digidol yn golygu nad yw tirwedd Cymru bellach yn atal dosbarthu newyddion ledled y wlad.

O ddosbarthu’r newyddion drwy’r rhyngrwyd nid oes chwaith angen prynu’r offer argraffu, papur, ac inc.

Mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi rhoi undod gwleidyddol a chyfreithiol newydd i’r wlad sy’n cyfiawnhau darparu un gwasanaeth newyddion ar gyfer gogledd a de’r wlad.

Ar yr un pryd mae cynnydd yn nhechnoleg ‘geo-location’ yn golygu bod modd darparu newyddion ar gyfer y cwsmer yn seiliedig ar ei leoliad daearyddol o fewn y wlad. Nid oes angen gwahaniaethu mwyach rhwng newyddion cenedlaethol a lleol – gallent fod yn rhan o’r un gwasanaeth.

Mae yna ffactorau eraill hefyd sy’n golygu ei fod yn bwysig lansio gwasanaeth o’r fath cyn gynted a bo modd. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y we yn parhau yn rhad ac yn rhydd am byth.

Roedd sefyllfa o’r fath yn bodoli yn yr 19eg ganrif, ond digon buan y cafodd y diwydiant ei fasnacheiddio a’i reoli.

Mae arwyddion eisoes bod rhai cwmnïoedd mawr, megis Google a Facebook, yn dechrau rheoli beth mae defnyddwyr yn cael mynediad ato ar y we er eu dibenion ariannol eu hunain.

Os nad yw papur newydd cenedlaethol dyddiol a digidol yn cael ei lansio o fewn y degawd neu ddau nesaf, fe allai’r cyfle fod wedi mynd.

Pam y Saesneg?

Fel y nodwyd eisoes, mae yna eisoes ddarpariaeth gweddol ar gyfer y Gymraeg. Gellid ei gryfhau yn sicr.

Yn wir, fe fyswn i’n gobeithio y byddai canran sylweddol o ddeunydd papur cenedlaethol digidol yn Gymraeg.

Ond y pwynt pwysig yw bod angen darparu gwasanaeth Saesneg cenedlaethol, er mwyn y Gymraeg.

Rydym ni Gymry Cymraeg yn aml yn pregethu rhagorion ein hiaith - ond yn gwneud hynny yn ein hiaith ein hunain.

Dyma pam y cyhoeddais i wefan Why Welsh yn gwbl uniaith Saesneg. Does dim angen argyhoeddi’r Cymry Cymraeg bod yr iaith yn werth ei hachub.

Yn y cyfamser mae’r di-Gymraeg, yr ydym ni’n ddibynnol arnynt am eu hewyllys da tuag at yr iaith, yn gwbl agored i ddylanwadau gwrth-Gymraeg y cyfryngau prif-lif, a hyd yn oed rhai o’n papurau Saesneg Cymreig.

Mae angen papur Saesneg a fydd yn adlewyrchu iaith, hanes a chymeriad unigryw ein cenedl, a’n gwneud hynny mewn modd sy’n adlewyrchu profiad y cwbl o drigolion y wlad yn ddi-wahan.

Byddai papur sy’n darparu rhywfaint o gynnwys Cymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg hefyd yn fodd o normaleiddio defnydd yr iaith.

Yn hytrach na arwahanu'r ieithoedd, byddai yn dangos i’r di-Gymraeg bod y Gymraeg hefyd yn fodd o drafod pynciau gan gynnwys gwyddoniaeth, chwaraeon a gwleidyddiaeth, er enghraifft.

Gallai’r rhwystredigaeth o beidio gallu deall yr erthyglau Cymraeg rheini hyd yn oed ysbrydoli ambell un i fynd i’r afael â’r iaith.

Nid cyfieithiadau slafaidd o’r erthyglau Saesneg fyddai'r rhain. Dydw i ddim yn gweld gwerth cynnwys dwyieithog o’r fath. Os yw popeth sydd ar gael yn Gymraeg ar gael yn Saesneg, ond ddim i’r gwrthwyneb, does yna ddim cymhelliant i ddefnyddio’r Gymraeg.

Byddai angen cynnwys gwreiddiol o safon uchel yn y ddwy iaith.

Mae yna reswm arall dros gael papur digidol Saesneg, wrth gwrs - fe fyddai yn llawer haws ei ariannu, oherwydd bod cynulleidfa mwy ar ei gyfer. Mae’n hynod o anodd dod o hyd i hysbysebion ar gyfer gwasanaeth newyddion Cymraeg, a heb arian cyhoeddus maent bron yn amhosib eu cynnal.

Mae’n bosib wrth gwrs y byddai angen rhywfaint o arian cyhoeddus ar y fenter hon. Ac o ystyried cwynion gwleidyddion Cymreig nad yw eu gwaith yn cael digon o sylw, fe fyddai yn siomedig pe na baen nhw’n fodlon cefnogi menter o’r fath.

Y dewis delfrydol yn fy marn i fyddai codi arian i gynnal y wefan gan y rheini y bydd yn ei wasanaethu, sef trigolion Cymru. Nhw fyddai’r cyfranddalwyr mwyaf. Ond byddai angen arian sylweddol er mwyn lansio prosiect o'r fath a’i gadw i fynd.

Byddai hefyd angen gwneud yr achos busnes bod galw am wasanaeth o'r fath, a modd ei gynnal. Wrth i fwy a mwy o bobl brynu dyfeisiadau darllen megis tabledi, y mae pobl yn fodlon talu am gynnwys o safon arnynt, rwy’n hyderus y byddai modd gwneud hynny.

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa