Pam bod cenedlaetholwyr Cymru eisiau aros yn Ewrop?

| 28-10-2014 8:51 pm

Ifan Morgan Jones sy’n holi a oes dadl dros gefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd...

Nawr bod refferendwm yr Alban drosodd, mae dylanwad plaidlais dyngedfennol arall i’w deimlo ar wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig – sef y refferendwm arfaethedig dros adael yr Undeb Ewropeaidd  yn 2017. 

Y rheswm mae hyn yn gymaint o bwnc llosg yw oherwydd y tŵf ym mhoblogrwydd UKIP, a’r pryder ymysg y blaid Geidwadol, a Llafur (i raddau llai), y gallai plaid Nigel Farage ddwyn eu seddi yn yr etholiad cyffredinol mis Mai nesa’.

Mae datblygiadau pellach, megis y bil £1.7 biliwn i’r Deyrnas Unedig am adennill rywfaint o dir yn economaidd, wedi procio’r tân ymhellach.

Mae’r mwyaf blaenllaw ymysg y cenedlaetholwyr Cymreig wedi tueddu i fod yn gefnogol, ar y cyfan, tuag at gynyddu maint a grym yr Undeb Ewropeaidd.

Mae dylanwadau ewropeaidd ar y Cymro cenedlaetholgar wedi ei ystyried yn arwydd o soffistigedigrwydd ers dyddiau Saunders Lewis, a chyn hynny Emrys ap Iwan.

Cyfosodir yr UE â jingoistiaeth y Deyrnas Unedig, sy’n parhau i gyffroi wrth feddwl am gyfnodau pan oedd Ewrop yn faes brwydr.

Yn yr un modd ystyrir gwleidyddiaeth gul ‘Little Englander’ UKIP yn hollol wrthun i nifer ar y chwith ar y pen yma i Glawdd Offa, ac yn ddigon o reswm dros gofleidio popeth Ewropeaidd.

Ond a yw’n rhesymegol felly cefnogi Ewrop sydd yn prysur dorri i lawr y ffiniau rhwng gwledydd, a chanoli grym yn ei senedd ym Mrwsel?

Y ddadl dros adael

Mae hanes yn awgrymu mai sgil effaith canoli grym a darnio ffiniau yw torri i lawr y gwahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol rhwng pobl. Felly, fe allai’r Undeb Ewropeaidd beryglu’r union amrywiaeth hwnnw y mae Cymry cenedlaetholgar yn ei edmygu ac am fod yn rhan ohono. 

Gellid dadlau bod cymaint o amrywiaeth o fewn Ewrop, ei fod yn anodd dychmygu y gallai’r fath beth ddigwydd yno. Ond dylid cofio bod amrywiaeth cyfoethog o ieithoedd o fewn y Deyrnas Unedig, a sawl gwlad arall, ychydig ganrifoedd yn ôl yn ogystal.

Dylai’r tuaddiad tuag at ganoli grym ein poeni, hefyd. Wedi’r cwbl, un o gwynion pennaf cenedlaetholwyr o Gymru yn erbyn y Deyrnas Unedig yw ei fod yn canoli grym mewn Senedd bell i ffwrdd sydd ddim yn poeni ryw lawer am ffawd Cymru. Sut all y Cymru drawnewid ei heconomi heb y lefrau economaidd i gyflawni hynny?

Ond mae gwledydd megis Gwlad Groeg a’r Eidal, â phoblogaethau yn y degau o filiynau, bellach yn gofyn yr un cwestiwn, wedi i nhwythau golli rheolaeth ar eu heconomïau eu hunain yn enw undod Ewropeaidd.

Rhaid cofio bod yr Undeb Ewropeaidd fel y mae yn ffrwyth blynyddoedd o lobio gan gwmnïoedd megis Business Europe, AmCham EU a’r European Round Table of Industrialists.

Rhan o brosiect neo-ryddfrydol ydyw gyda'r nod o symud democratiaeth ymhellach oddi wrth bobl, a chynyddu pwysigrwydd lobïwyr cwmnïoedd byd eang a fydd yn ei chael hi’n llawer haws dylanwadu ar wleidyddion anatebol. 

Nid ryw fath o ymgyrch digymell gan bobl Ewrop i sicrhau undod yn sgil trychineb yr Ail Ryfel Byd mohono, ond yn hytrach cyfle gan fusnesau i dorri i lawr y rhwystrau i fasnach rydd.

Ac ni fyddant yn atal ar ôl uno gwledydd Ewrop – mae cytundebau megis y TTIP (Transatlantic Trade and Investment Partnership) rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau yn dangos parodrwydd i leihau grymoedd cenhedloedd unigol ar draul masnach byd-eang ar draws cyfandiroedd hefyd.

Mae yna beryg felly y bydd nifer yn ochri gyda’r ymgyrch i aros am eu bod nhw’n cysylltu'r ymgyrch i adael gyda gwleidyddiaeth ffiaidd gwrth-fewnfudo UKIP, heb lawn ystyried yr oblygiadau.

Roedd pôl piniwn gan Ipsos Mori ddydd Mercher diwethaf yn awgrymu bod hynny’n wir - er gwaethaf cynnydd UKIP, ac o bosib o’i herwydd, roedd cefnogaeth i aros yn yr UE ar ei uchaf ers 23 mlynedd.

Yn wir, rwy’n dechrau amau mai tric cyfrwys yw UKIP, i dynnu sylw pobl oddi wrth rhai o’r rhesymau dilys i wrthwynebu cyfuniad gwledydd Ewrop!

Y ddadl dros aros

Er y sylwadau uchod, efallai yn wir y dylid cefnogi’r ymgyrch dros aros – ond am resymau pur wahanol i’r rhai y mae UKIP yn ei awgrymu. 

Hynny yw, oherwydd hoffter tuag at yr Ewrop sy’n bodoli heddiw, a drwgdybiaeth o’r hyn a allai fod pe bai’n troi yn ‘Unol Daleithiau Ewrop’ o fewn y degawdau nesaf.

Heb y Deyrnas Unedig yn Ewrop, gellid dadlau y bydd y ‘prosiect Ewropeaidd’ yn saethu yn ei flaen heb neb i’w atal.

Bydd argyfwng ar ôl argyfwng (wedi eu creu gan y marchnadoedd ariannol) yn rhoi esgus i ganoli mwy a mwy o rym ym Mrwsel.

Yn hanesyddol mae'r Deyrnas Unedig wedi atal y symudiad hwnnw. Mae wedi llusgo traed a gwneud bywyd yn anodd i bawb arall, traddodiad sy’n parhau hyd heddiw.

Efallai y dylen ni groesawu hynny, nid oherwydd senoffobia tuag at weddill Ewrop, ond am ein bod ni am feithrin yr ymraniadau (heddychlon) sy’n bodoli rhwng gwledydd y cyfandir.

Fel arall, bydd Cymru yn troi cefn ar un haen o lywodraeth ganolog a phellennig, ac yn cofleidio un arall sy’n prysur ganoli grym ac sydd yn fwy pellennig byth.

A pha obaith i’r Gymraeg pan mae ieithoedd fel yr Almaeneg yn colli tir i’r Saesneg Ewropeaidd sydd wedi dod yn lingua franca y wladwriaeth newydd sy’n brysur ymffurfio o’n blaenau.

Ymatebion

| 30-10-2014 9:07 pm | #1

Oes tystiolaeth i'r honiad bod 'yr Almaeneg yn colli tir'?

Ymateb

Mewngofnoda i Twitter er mwyn ymateb.


Twitter ikonoa